Ewch i’r prif gynnwys

Syr Aubrey Fiennes Trotman-Dickenson (1926 – 2016)

13 Mawrth 2017

Sir Aubrey Trotman-Dickenson
Portrait of Sir Aubrey Trotman-Dickenson by Allan Ramsay

Mae teulu, ffrindiau, cyn-fyfyrwyr ac unigolion blaenllaw o Brifysgol Caerdydd, gan gynnwys rhai oedd yn arfer gweithio yma, wedi dod ynghyd i ddathlu bywyd y cyn-Bennaeth Syr Aubrey Fiennes Trotman-Dickenson.

Mewn dathliad a gynhaliwyd heddiw (dydd Llun, 13 Mawrth 2017) yn Oriel Viriamu Jones, dechreuwyd y digwyddiad gan Is-Ganghellor presennol y Brifysgol, yr Athro Colin Riordan, ac fe'i dilynwyd gan un o'i ragflaenwyr, Syr Brian Smith.

Fe wnaeth Syr Aubrey gyfraniad hollbwysig ym Mhrifysgol Caerdydd ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif.

Roedd yn gyfrifol am uno UWIST a Choleg Prifysgol Caerdydd, a gosododd y sylfeini sydd wedi galluogi Prifysgol Caerdydd i dyfu a ffynnu'n academaidd.

Cafwyd teyrngedau i effaith academaidd ragorol a gyrfa Syr Aubrey gan yr Athro Graham Hutchings, Cyfarwyddwr y Sefydliad Catalysis Caerdydd, yn ogystal â'r Athro Roger Mansfield fu'n gweithio mor agos ag ef pan unwyd UWIST a Choleg Prifysgol Caerdydd yn llwyddiannus.

Fe ddisgrifiodd Miss Eirian Edwards, cyn-Ysgrifenyddes UWIST a Phrifysgol Caerdydd, sut beth oedd cydweithio'n agos â Syr Aubrey, a chafwyd safbwynt myfyriwr gan gyn-Lywydd Undeb Myfyrwyr UWIST, James Myatt.

Yn olaf, cafwyd teyrngedau teuluol gan Casimir a Dominic Trotman-Dickinson.

Ymrwymiad, ymroddiad  ac arweinyddiaeth ragorol

I raddau helaeth, ymrwymiad, ymroddiad personol ac arweinyddiaeth ragorol Syr Fiennes Trotman-Dickenson sydd i'w gyfrif am lwyddiant diweddar Prifysgol Caerdydd.

Bu Syr Aubrey yn arwain y Brifysgol am 25 mlynedd, un o’r cyfnodau hiraf wrth y llyw mewn unrhyw brifysgol ym Mhrydain; bu'n Bennaeth UWIST ac wedyn yn Bennaeth y sefydliad newydd a unwyd, sef Prifysgol Caerdydd erbyn hyn.

Bu hefyd yn Is-Ganghellor Prifysgol Cymru am dri thymor.

Yn ogystal â bod yn arweinydd rhagorol ar brifysgol, roedd Syr Aubrey yn academaidd enwog hefyd.

Roedd yn arbenigwr blaenllaw ym maes Cineteg Cam Nwy a chyhoeddodd bron 200 o bapurau yn ystod gyrfa academaidd 20 mlynedd o hyd. Cyhoeddodd hefyd ddau lyfr pwysig - Gas Kinetics ym 1955 a Free Radicals ym 1959 - a bu hefyd yn Olygydd Gweithredol o gyfrol 5,000 o dudalennau Comprehensive Inorganic Chemistry a gyhoeddwyd ym 1973.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn rhagori mewn addysg, ymchwil ac arloesi ac yn adeiladu perthnasoedd wrth ddangos ein hymrwymiad i Gymru.