Ewch i’r prif gynnwys

Syr Aubrey Fiennes Trotman-Dickenson

Sir Aubrey Trotman-Dickenson
Portrait of Sir Aubrey Trotman-Dickenson by Allan Ramsay

Mae’n flin iawn gan y Brifysgol gyhoeddi bod Syr Aubrey Fiennes Trotman-Dickenson wedi marw

Ganwyd Syr Fiennes Aubrey Trotman-Dickenson yn Wilmslow ar 12 Chwefror 1926 yn fab i Edward Trotman Newton – Dickenson MC a'i wraig Violet Murray Nicoll. Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Winchester cyn cael ysgoloriaeth i astudio yng Ngholeg Balliol Rhydychen ym 1944 lle astudiodd Cemeg a chynrychioli'r Coleg mewn rhedeg traws gwlad. Wedi hynny, bu'n Gymrawd o'r Cyngor Ymchwil Cenedlaethol yn Ottawa rhwng 1948 a 1950 ac yna'n Gymrodor ICI ym Manceinion, lle enillodd ei radd PhD. Ar ôl gadael Manceinion, gweithiodd i DuPont yn yr Unol Daleithiau cyn cael ei benodi'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Caeredin lle enillodd DSc.

Cyhoeddodd ei bapur gwyddonol cyntaf ym 1947 ar waith a wnaeth gydag Eric James (Arglwydd James o Rusholme) yng Ngholeg Winchester. Ymunodd ag ef eto ym Mhwyllgor yr Is-Gangellorion a Phrifathrawon pan gafodd ei benodi'n Brifathro Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru (UWIST) ym 1968, gan mai'r Arglwydd James oedd Is-Ganghellor Efrog ar y pryd. Un o'r achlysuron prin iawn y bu'r meistr a'r disgybl yn rhan o'r un pwyllgor.

Cafodd Syr Aubrey ei benodi'n Athro a Phennaeth yr Adran Cemeg ym Mhrifysgol Aberystwyth pan oedd yn 34 ym 1960, a chafodd (fedal) Darlithydd Tilden yn y Gymdeithas Cemeg ym 1963.

Mae'n arbenigwr blaenllaw ym maes Cineteg Cam Nwy ac mae wedi cyhoeddi bron 200 o bapurau yn ystod gyrfa academaidd 20 mlynedd o hyd. Cyhoeddodd hefyd ddau lyfr pwysig - Gas Kinetics ym 1955 a Free Radicals ym 1959 - a bu hefyd yn Olygydd Gweithredol o gyfrol 5,000 o dudalennau Comprehensive Inorganic Chemistry a gyhoeddwyd ym 1973.

Bu'n arwain y Brifysgol am 25 mlynedd, un o'r cyfnodau hiraf wrth y llyw mewn unrhyw brifysgol ym Mhrydain; cafodd ei benodi'n Bennaeth UWIST pan oedd yn 42, cyn mynd yn ei flaen i fod yn Brifathro Prifysgol Caerdydd yn ogystal â threulio tri thymor yn Is-Ganghellor Prifysgol Cymru.

Fe wnaeth Syr Aubrey gyfraniad hollbwysig ym Mhrifysgol Caerdydd ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif. Roedd yn gyfrifol am uno UWIST/Coleg Prifysgol Caerdydd, a gosododd y sylfeini cryf i'w galluogi i dyfu a ffynnu'n academaidd.

Fe oruchwyliodd ddatblygiad UWIST – ym 1957, cafodd Coleg Technoleg Caerdydd ei ddewis yn un o nifer dethol o golegau technoleg uwch yng Nghymru a Lloegr.  Ym 1968, bu datblygiad mawr pellach pan gafodd Coleg Technoleg Uwch Cymru ei sefydlu'n Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru (UWIST). Ysgol Dechnegol Dinas Caerdydd oedd y sefydliad hwn yn wreiddiol yn yr 1860au. Roedd yn cynnig dosbarthiadau nos a chymwysterau technegol ac roedd yn brifysgol gydnabyddedig. Dau o uchafbwyntiau UWIST fel prifysgol newydd oedd ennill pencampwriaeth rygbi'r prifysgolion ym 1976 gyda gôl adlam gan Gareth Davies, maswr Caerdydd a Chymru; y llall oedd ennill University Challenge ym 1984.

Unodd UWIST a Choleg Prifysgol Caerdydd ym 1988 i fod yn Goleg Prifysgol Cymru Caerdydd.

Daeth 'T-D', fel yr oedd rhai'n ei adnabod, i Gaerdydd pan gafodd ei benodi'n Brifathro UWIST ym 1968. Ym 1988, cafodd ei benodi'n Brifathro'r sefydliad newydd a unwyd, sef Prifysgol Caerdydd erbyn hyn. Cafodd llawer o deyrngedau cyhoeddus haeddiannol eu talu i ddatblygiad cyflym y Brifysgol o dan ei arweinyddiaeth. Yr hyn oedd yn arbennig o drawiadol oedd y rhaglen adeiladu ac adnewyddu enfawr a alluogodd y Brifysgol i gynnal adrannau newydd neu wedi'u huno mewn adeiladau addas.

Fel pob prifathro gwerth ei halen, roedd Syr Aubrey yn sicr yn gallu gweld y darlun mawr ac roedd bob amser yn cadw llygad ar les y Brifysgol. Ar yr un pryd, roedd yn enwog am ei afael ar fanylion. Roedd yn gwybod popeth am bob elfen o redeg y Brifysgol. Yn ôl pob sôn, ef a ddyluniodd y carpedi gwreiddiol yng nghyntedd ac ar risiau Adeilad Bute ac yn Oriel Viriamu Jones yn y Prif Adeilad. Syr Aubrey hefyd a gynlluniodd arwyddlun eiconig UWIST ar ffurf draig. Nid oes unrhyw amheuaeth ei fod wedi dangos cryn ddiddordeb yn y modd y dyluniwyd Adeilad Aberconwy. Ar adeg pan oedd y rhan fwyaf o brifysgolion yn wynebu toriadau ariannol llym, llwyddodd i ddod o hyd i'r arian i adeiladu'r datblygiad newydd a thrawiadol hwn mewn pedwar cam olynol rhwng 1981 a 1983. Fe gafodd ei ddisgrifio gan Gadeirydd Pwyllgor Grantiau'r Prifysgolion, Syr Peter Swinnerton-Dyer, fel 'un o'r rheolwyr ariannol gorau mewn unrhyw brifysgol neu goleg'.

Roedd yn gwbl ymroddedig i'r sefydliad. Roedd yn gyfarwydd â phob twll a chornel o'r campws am ei fod yn treulio'i amser yn mynd o amgylch yr adeiladau ar benwythnosau. Bu sôn ei fod hyd yn oed yn mynd i'w swyddfa ar Ddydd Nadolig. Roedd yn aml yn defnyddio ysgrifbin gwyrdd i lofnodi dogfennau, ac roedd 'inc gwyrdd' yn ymadrodd oedd yn cynrychioli cymaint o reolaeth yr oedd ganddo dros pob elfen weinyddol o gynnal y Brifysgol. Byddai gweinyddwyr pryderus yn gofyn i'w gilydd 'A oes inc gwyrdd arno?' cyn rhoi unrhyw gynnig neu awgrym ar waith. Roedd hyn yn cyferbynnu â'i agwedd at fywyd academaidd y Brifysgol. Fe gredai mai penaethiaid adrannol oedd yn gwybod orau sut i gynnal eu hadrannau. Roedd yn credu mai ei waith ef oedd gwneud yn siŵr bod staff academaidd o safon yn cael eu penodi yn y lle cyntaf, ac wedyn mynd ati i gefnogi adrannau mewn ffyrdd mor hael â phosibl.

Yn ogystal â'i graffter amlwg a'i afael ar fanylion, roedd hefyd yn llawn egni. Ar un adeg, roedd yn berchen ar nifer o dai yng Nghaerdydd, ac yn eu cynnal yn bersonol. Roedd y rhain yn cynnwys fflatiau oedd ar osod i fyfyrwyr. Roedd yn ddyn cyfeillgar a hawdd mynd ato i genedlaethau o swyddogion myfyrwyr.

Roedd hefyd yn aelod o Fwrdd Nwy Cymru, Cyngor Cymru, Cadeirydd Creu Swyddi Cymru a Chyngor Cynghori Ymchwil Cynllunio a Thrafnidiaeth yr Adran Addysg. Ar ôl ymddeol, bu'n Gadeirydd ei blaid seneddol leol. Cafodd ei urddo'n farchog am ei wasanaethau i fyd addysg ym 1989. Cafodd hefyd LLD gan Brifysgol Cymru.

Roedd yn briod i'r Fonesig Danusia Trotman-Dickenson MBE (neé Herburt Hewell), sy'n Athro Emeritws Economeg ym Mhrifysgol De Cymru, am 63 o flynyddoedd.  Mae hi wedi ei oroesi ynghyd â'i meibion Casimir, sydd â busnes ymgynghoriaeth rheoli, a Dominic, a sefydlodd cwmni TG, saith o wyrion ac un gor-ŵyr. Roedd ei ferch, Beatrice, yn Athro Radioleg ym Mhrifysgol Harvard.

Daw'r dyfyniadau o lyfr “Cardiff University: a celebration” gan Vanessa Cunningham a John Goodwin.

Teyrngedau i Syr Aubrey

Rwyf yn ymateb i'r gwahoddiad i dalu teyrnged i "T-D". Bûm i'n gweithio yn Adran Ystadau'r Brifysgol o 1975 tan i mi ymddeol (yn gynnar) yn 2007. Roeddwn i o gwmpas felly pan unodd CPC ac UWIST yn 1987-1988. Fy mhrif gyfrifoldeb ar y pryd oedd rheoli uno'r systemau ffôn gwahanol yn y ddau sefydliad.

Roedd T-D yn feistr caled - fe welais i'r inc gwyrdd lawer, lawer gwaith - ond roedd bob amser yn deg. Yr hyn a sylweddolais i ar ôl cwblhau'r uno oedd ei fod wedi fy ngalluogi i gael fy mhrofiad cyntaf o reoli. Fe ddysgais i gymaint o'r profiad oedd yn gymorth i fi wrth i fy ngyrfa ddatblygu yn y brifysgol oedd newydd uno.

Ac un peth nad wyf i erioed wedi'i anghofio: yn ystod y cyfnod hwn roedd fy ngwraig yn sâl iawn am ychydig a chefais amser yn rhydd o'r gwaith gan fy rheolwr llinell. Rai wythnosau'n ddiweddarach, a minnau'n cerdded ar hyd Plas y Parc, gwelais T-D yn dod tuag ataf. Roedd yn amlwg wedi fy ngweld ac yn agosáu ataf i! Paratois fy hun am y cwestiwn anochel. Ac fe ddaeth: “Ah, Deslandes. Sut mae eich gwraig?"

Kim Deslandes
Gweinyddydd/Trefnydd UCU Caerdydd

Aubrey oedd fy I-G fel myfyriwr ac fel swyddog. Mae gennyf atgofion melys o weithio gydag e a theithiau o amgylch ei ardd yn ei gartref. Roedd yn gefnogol i'n gwaith yn Undeb y Myfyrwyr ac yn credu ynom ni fel pobl ifanc (ar y pryd!) ac fel asiantau newid.

Bydd colled ar ei ôl.

Josie Grayson (gynt Ford) (BScEcon 1994)
Llywydd, Swyddog Cyfle Cyfartal a Swyddog Menywod Ansabothol

Mor drist i glywed am ei farwolaeth.

Roeddwn i yn UWIST rhwng 1973-1977 gan wasanaethu fel Ysgrifennydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr ar Bwyllgor Gwaith Undeb y Myfyrwyr 1975-1976. Pan oeddwn i yn y Brifysgol roedd yn dipyn o arwr ac yn sicr yn rhywun i'w barchu.

Yn fuan ar ôl dechrau ar fy swydd newydd, gwahoddwyd pwyllgor gwaith cyfan Undeb y Myfyrwyr i'w dŷ crand ger Radyr am ginio. Cawsom daith o gwmpas yr ardd, dangosodd ei beintiadau cyndadol i ni a'n bwydo â chinio ysblennydd. Diwrnod y byddaf yn ei gofio am byth.

Brian Bishop (BEng 1977)
Rheolwr Rhwydwaith EMEA

Gyda thristwch mawr y clywais am farwolaeth TD. Roeddwn i'n aelod o bwyllgor gwaith Undeb Myfyrwyr UWIST yn 1977-1978, ac yn Llywydd Sabothol Undeb y Myfyrwyr yn 1978-1979. Cefais felly'r fraint fawr o gydweithio'n agos gydag e er budd ein myfyrwyr. I TD, nhw oedd y rheswm dros fodolaeth y Brifysgol. Hyrwyddo eu lles - yn academaidd, cymdeithasol a bugeiliol, oedd ei nod bob amser. Roedd yn arwydd o'i barch atom fod y Llywydd yn aelod swyddogol o gynifer o bwyllgorau'r coleg, yn sicrhau bod llais y myfyrwyr yn cael ei glywed ar faterion a gadwyd i'r staff addysgu a gweinyddol mewn llawer o brifysgolion.

Roedd anffurfioldeb yn nodwedd o berthynas TD ag Undeb y Myfyrwyr. Arferai alw'r Llywydd i'w swyddfa am 5.00pm i gael chwisgi a soda Cutty Sark bob wythnos neu ddwy er mwyn cael adroddiad a thrafodaeth ar brosiectau posibl. Dyna pryd roedd modd cael cipolwg agos ar ei ddeallusrwydd aruthrol. Gwae chi os na fyddech chi'n dilyn y sgwrs!

Mae llawer o atgofion hapus y gallwn eu rhannu am TD (neu "Strawberry" fel y cafodd ei adnabod yn dilyn ei urddo'n farchog yn haeddiannol). Cynigiaf hwn - roedd UWIST yn codi adeilad i gynnal darlithoedd gwyddoniaeth, yn benodol Opteg a Fferylliaeth. Roedd y cynlluniau wedi'u llunio ac yn cael eu cyflwyno i bwyllgor y coleg yr oeddwn i'n aelod ohono fel Llywydd, i'w cymeradwyo'n ffurfiol. Ar fore'r cyfarfod, cefais alwad gan Bennaeth y Gyfadran Opteg. Eglurodd ei fod ef a'i staff wedi ymchwilio'n fanwl ac wedi casglu bod nam difrifol yng nghynllun y darlithfeydd, yn enwedig mewn perthynas â gosod sgriniau teledu. Roedd TD eisoes wedi cymeradwyo'r cynlluniau ac nid oedd modd ei berswadio i edrych eto ar y dyluniad. "Mae angen eich help chi arnon ni i'w berswadio i newid ei feddwl. Fe wnaiff wrando arnoch chi." Y prynhawn hwnnw, cyhoeddodd TD yr eitem agenda i'w gytuno. "Unrhyw wrthwynebiadau?" Codais ac egluro bod y myfyrwyr wedi dod ataf i fynegi pryderon difrifol am y cynllun, ac yn benodol y problemau y byddent yn eu hwynebu wrth geisio gwylio'r sgriniau teledu yn y darlithfeydd. Ymateb TD, fel arfer, oedd hyrwyddo lles y myfyrwyr: "Bwrsar, wnaiff hyn ddim y tro. Bydd rhaid newid y cynlluniau." Fe'u newidiwyd - ac mae'r gweddill yn hanes.

Roedd TD bob amser yn gefn i'w fyfyrwyr. Roedd yn fraint i ni gael dyn mor arbennig fel Pennaeth arnom.

James Myatt (LLB 1978)
Llywydd UWIST 1978-1979

Gyda thristwch mawr y darllenais yn y Telegraph heddiw am farwolaeth Syr Aubrey.

Yn anffodus doeddwn i ddim yn ei adnabod yn bersonol, oedd yn wir efallai am y mwyafrif o israddedigion, ond fe wyddwn amdano fel fy mhennaeth olaf yn UWIST (yn olynu Dr Harvey) a Phennaeth Cyntaf CPCC.  Roedd rhywfaint o gystadleuaeth wedi bod rhwng UWIST a CPC ('Top Coll') felly roedd yn bleser clywed am ei benodiad, a phenodiad Bwrser UWIST, i'r swyddi cyfatebol yn y brifysgol newydd.

Fodd bynnag doeddwn i (ac rwy'n amau bod yr un peth yn wir am y rhan fwyaf o fy nghydweithwyr) ddim yn gwybod dim am ei yrfa academaidd. Bu UWIST a CPCC yn lwcus i gael dyn â'r fath ddeallusrwydd rhyfeddol a gallu trefniadol wrth y llyw, yn enwedig mewn cyfnod mor anodd.

Roedd yn bleser i mi fynd i Twickenham am y tro cyntaf i weld UWIST yn curo PC Abertawe yn 1976 (er nad enillodd Gareth Davies ei gap cyntaf i Gymru tan ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach), ond peidied ag anghofio bod UWIST eisoes wedi curo Colegau Loughborough oedd bron yn anorchfygol yn 1969 gyda chefnwr Cymru ar y pryd, Paul Wheeler, yn y tîm.

Os caf, hoffwn gynnig fy nghydymdeimlad â'r Fonesig Danusia a gweddill y teulu. Dymunaf nerth a chysur iddynt yn eu colled.

Ken Edensor (BSc 1969)
BSc Gwyddoniaeth Gymwysedig (WCAT/UWIST 1965-1969)

I rannu atgof neu neges o gydymdeimlad, cysylltwch â’r Tîm Cyfathrebu.

Tîm Cyfathrebu