Ewch i’r prif gynnwys

Dull newydd o drin afiechydon cyffredin

15 Chwefror 2017

Clinician discussion

Mae ymchwilwyr o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd wedi darganfod ymagwedd glinigol newydd sy'n cynnig dull newydd a allai trin amrywiaeth o afiechydon cyffredin gan gynnwys canser, strociau a phwysedd gwaed uchel.

Mae'r dull newydd yn cynnwys targedu ensymau o fewn celloedd, a elwir yn ginasau, yn anuniongyrchol. Y celloedd hyn sy'n achosi'r cyflyrau difrifol hyn pan maent yn ddiffygiol. Drwy atal cinasau protein, caiff eu gweithrediad ei leihau'n sylweddol, sy'n gallu atal neu arafu canser, pwysedd gwaed uchel a llawer o glefydau eraill.

Indirect kinase inhibition diagram

'Yn safbwynt newydd'

Mae eisoes hyd at 30 o gyffuriau ar gael sy'n targedu cinasau protein yn uniongyrchol i drin amrywiaeth o afiechydon, ond mae'r ymchwil newydd hon yn ymchwilio i faint o gyffuriau eraill y gellid eu datblygu sy'n atal y cinasau hyn er mwyn arafu datblygiad y cyflyrau meddygol hyn, gan arwain at lai o sgîl-effeithiau ar gyfer cleifion, o bosibl.

Rydym yn gwybod bod cinasau protein yn cael eu hactifadu ac yn arwain at yr afiechydon yma pan maent yn rhwymo wrth brotein arall.  Darganfu'r ymchwilwyr yn yr astudiaeth hon gyfansoddyn a oedd yn gallu rhwymo wrth y protein (MO25), a'i atal rhag rhwymo wrth y cinas. Gwnaeth hyn, yn ei dro, atal y cinasau rhag cael eu hactifadu. Credir bod y dull anuniongyrchol hwn o atal cinasau, felly, yn gallu atal nifer o afiechydon rhag datblygu yn y pen draw.

Dywedodd arweinydd y gwaith ymchwil, Dr Youcef Mehellou o Brifysgol Caerdydd: "Yn y tymor hir, mae'r ymchwil hon yn cynnig safbwynt newydd er mwyn darganfod mwy o gyffuriau ar gyfer afiechydon fel canser, pwysedd gwaed uchel, strociau, afiechydon niwro-ddirywiol, heintiau feirws ac afiechydon cardiofasgwlaidd..."

"Mae'n debygol y byddai'r meddyginiaethau a ddylunnir drwy ein dull yn ein galluogi i greu cyffuriau mwy penodol, a byddai'r rhain yn achosi llai o sgîl-effeithiau na'r cyffuriau a ddefnyddir ar hyn o bryd i atal cinasau."

Dr Youcef Mehellou Lecturer

A'r cysyniad moleciwlaidd bellach wedi'i brofi, bydd y gwaith yn parhau yn y labordy i ddarganfod cyfansoddyn mwy effeithiol i rwymo i foleciwl MO25 a chael priodweddau gwell fel cyffur i drin pwysedd gwaed uchel ac afiechydon eraill.

Rhannu’r stori hon

Mae manylion llawn am ein cwrs MPharm, gan gynnwys sut i wneud cais, ar gael ar y chwiliwr cyrsiau.