Ewch i’r prif gynnwys

Ail-lunio’r Senedd

30 Tachwedd 2016

Senedd Building

Mae cynigion newydd ar gyfer sut i ethol Cynulliad Cenedlaethol mwy o faint, sy’n fwy effeithiol acatebol wedi eu gosod allan gan Ganolfan Llywodraethiant Prifysgol Caerdydd Cymru ac Electoral Reform Society Cymru.

Yn y dadansoddiad cyntaf o’i fath , mae’r adroddiad – Ail-lunio’r Senedd – yn edrych ar sut y dylai Cynulliad mwy o faint gael ei hethol wrth i’w bwerau gynyddu. Mae’n amlinellu saith egwyddor megis symlrwydd a chyfranoldeb a ddylai lywio sut y gall Cynulliad mwy o faint gael ei hethol.

Mae'n argymell dau opsiwn:

  • Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) - 87 o aelodau etholedig mewn 29 o etholaethau 3-aelod
  • Rhestr Agored - 87 o aelodau etholedig mewn 29 o etholaethau 3-aelod

Mae addasu'r System Aelodau Ychwanegol (AMS) presennol hefyd yn opsiwn credadwy, ond yn llai hyblyg.

Mae'r adroddiad yn dilyn argymhelliad trawsbleidiol y Comisiwn Silk ar gyfer Cynulliad mwy o faint, a oedd yn sail Cytundeb Dydd Gwyl Dewi ym mis Mawrth 2015.

Mae'r Cynulliad yn mynd i gael y pŵer i newid ei faint a'i system bleidleisio, yn amodol ar basio'r Mesur Cymru, ond dim ond gyda chefnogaeth dwy ran o dair o ACau, sy'n golygu bod angen cytundeb trawsbleidiol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Dros Dro Canolfan Llywodraethu Cymru, Prifysgol Caerdydd, yr Athro Roger Scully: "Mae ein hadroddiad yn defnyddio saith egwyddor i asesu'r prif systemau pleidleisio sy’n bosibl i’w cael. Rydym am i bob plaid ymrwymo i’r egwyddorion hyn fel sail ar gyfer trafodaeth resymegol..."

"Mae'r adroddiad yn canfod nifer o systemau, megis system “Cyntaf i'r Felin” San Steffan, yn gwbl anaddas. Mae addasu’r system bresennol yn well na rhain, ond y systemau sy'n cydbwyso’r egwyddorion orau yw naill ai "Rhestr Agored" neu’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy mewn 29 o etholaethau tri aelod."

"Nid oes system berffaith sy'n bodloni pob egwyddor yn llawn, felly mae hyn am ddarganfod y cydbwysedd iawn.

"Rydym yn gwybod y bydd y pleidiau yn dod at hwn o safbwyntiau gwahanol, felly gall yr adroddiad hwn yn cael ei ddefnyddio fel sail ddifrifol i ddarganfod tir cyffredin ar gyfer trafodaethau i gytuno ar sut i symud democratiaeth Cymru yn ei flaen."

Dywedodd cyd-awdur yr adroddiad, a Swyddog Ymgyrchoedd ac Ymchwil Cymru ERS, Dr. Owain ap Gareth:"Mae pwerau trethu newydd, a'r posibilrwydd o bwerau ychwanegol o Ewrop yn gwneud yr achos dros Gynulliad mwy o faint, wedi’i hethol yn deg, yn gryfach nag erioed..."

"Gan fod cymaint bellach yn cydnabod yr angen am Gynulliad sy’n fwy effeithiol ac atebol, mae 'Ail-lunio’r Senedd' yn symud o'r 'pam' at y 'sut'. Mae'n edrych ar ffyrdd ymarferol i gyflawni Cynulliad democrataidd mwy o faint, sy’n gallu wynebu heriau a chyfleoedd newydd a fydd yn codi drwy'r Mesur Cymru ac yn dilyn Brexit."

Dr Owain ap Gareth Cyd-awdur yr adroddiad, a Swyddog Ymgyrchoedd ac Ymchwil Cymru ERS

"Nid yn unig yw consensws yn ddymunol ond mae’n hanfodol i newid ddigwydd. Dyna sut y dylai fod: mae newidiadau i reolau’r gêm yn gofyn am fath gwahanol o drafodaeth tu hwnt i wleidydda pleidiol.

"Mae'r adroddiad hwn yn cynnig egwyddorion clir a dull ymarferol i gael dadl hirben a chadarnhaol am sut y gallwn lunio Cynulliad sy’n gweithio’n well i bleidleiswyr a hybu gwell wleidyddiaeth i Gymru."

Rhannu’r stori hon

Yn ymgymryd â gwaith ymchwil arloesol ynghylch pob agwedd ar y gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraeth ac economi wleidyddol Cymru, yn ogystal â chyd-destun llywodraethu tiriogaethol ehangach y DU ac Ewrop.