Gwobr arian i fyfyrwyr gwyddoniaeth
17 Tachwedd 2016
Mae grŵp o fyfyrwyr gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn dathlu wedi i'w prawf diagnostig ar gyfer heintiau cyffredin a drosglwyddir yn rhywiol (STIs) ennill gwobr arian yng nghystadleuaeth fawreddog iGEM sy'n enwog ar draws y byd.
Cafodd cystadleuaeth iGEM ei sefydlu gan fyfyrwyr yn Sefydliad Technoleg Massachusetts yn 2003. Ei nod yw annog ymgeiswyr i feddwl am fioleg synthetig h.y. peirianneg artiffisial systemau biolegol, i ddod o hyd i ffyrdd newydd o'u defnyddio mewn lleoliad academaidd, meddygol neu ddiwydiannol.
Drwy ddefnyddio technoleg golygu genynnau sy'n gysylltiedig ag ensym lwsifferas pryfed tân, dyfeisiodd y grŵp o Gaerdydd brawf diagnostig sy'n goleuo pan mae'n canfod DNA o heintiau cyffredin a drosglwyddir yn rhywiol, fel Chlamydia. Ochr yn ochr â chynllunio'r prawf o dan sylw, cynhaliodd y tîm gyfweliadau gydag arbenigwyr yn y maes i ymchwilio i'r materion moesegol sy'n gysylltiedig â chynnig pecynnau profion STI gartref.
Ar ôl treulio'r haf yn datblygu eu dyluniad ac yn cynnal gweithgareddau ymgysylltu cyhoeddus, fe gyflwynodd y tîm - sy'n cynnwys dau wyddonydd biofeddygol, dau genetegydd a biolegydd - eu prosiect yng ngŵyl ryngwladol iGEM yn Boston lle buon nhw'n cystadlu yn erbyn 300 o dimau eraill o bob cwr o'r byd.
Roedd beirniaid iGEM yn hoff iawn o'u gwaith a rhoi'r fedal arian iddyn nhw - digwyddiad anghyffredin i dîm sy'n cystadlu yn iGEM am y tro cyntaf.
Cafodd tîm Caerdydd ei greu a'i oruchwylio gan Dr Geraint Parry, biolegydd celloedd planhigion sy'n gweithio ar grant GARNet gyda'r Athro Jim Murray ym Mhrifysgol Caerdydd.
Wrth sôn am lwyddiant y tîm, dywedodd Dr Parry: "Dyma'r tro cyntaf amser i dîm o Gaerdydd gymryd rhan mewn cystadleuaeth iGEM, ac rydw i wrth fy modd eu bod wedi ennill medal arian. Yn ogystal â threulio oriau lawer yn y labordy dros yr haf, gweithiodd y tîm yn galed hefyd yn ymgynghori ag arbenigwyr ac yn ymgysylltu â'r cyhoedd - ac mae'r gwaith yma wedi talu ar ei ganfed..."
Wrth fyfyrio ar fanteision cymryd yn iGEM, dywedodd Laura Bird o Ysgol y Biowyddorau: "Fe wnes i gyflwyno cais i gystadlu yn iGEM am ei fod yn swnio fel cyfle gwych i ennill profiad yn ystod yr haf yn gwneud gwaith labordy, yn ogystal ag er mwyn cyfathrebu a chydweithio â thimau rhyngwladol eraill..."
Mae'r broses recriwtio ar gyfer tîm iGEM y flwyddyn nesaf ar agor nawr. Dylai'r rhai sydd â diddordeb gysylltu â Dr Geraint Parry.