Ewch i’r prif gynnwys

Yr Academi Meddalwedd Genedlaethol yn 'ffynnu'

3 Tachwedd 2016

National Software Academy

Myfyrwyr a chwmnïau yn gweithio ochr yn ochr wrth ddatblygu rhaglen unigryw ym maes peirianneg meddalwedd

Mae rhaglen gradd arloesol a sefydlwyd yng Nghymru i addysgu a hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr meddalwedd, ar y trywydd iawn i ddarparu'r gweithwyr medrus sydd eu hangen ar ddiwydiant ar draws y wlad.

Mae 'Academi Meddalwedd Genedlaethol' Prifysgol Caerdydd, fydd yn dathlu ei phen-blwydd cyntaf y mis hwn, wedi llwyddo i ddenu cwmnïau blaenllaw i weithio gyda myfyrwyr ar amrywiaeth eang o brosiectau go iawn.

Cafodd Julie James AC, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, y cyfle i weld llwyddiant yr Academi dros ei hun pan gafodd ei thywys o amgylch yr Academi a gweld y prosiectau y mae'r myfyrwyr wedi bod yn gweithio arnynt.

Yn ogystal â noddi prosiectau yn ystod y flwyddyn academaidd, mae cwmnïau hefyd wedi bod yn cefnogi'r Academi mewn ffyrdd eraill drwy gynnig nawdd, cynnal myfyrwyr ar gyfer lleoliadau dros yr haf, ac ymweld â'r Academi i siarad â myfyrwyr.

Mae Admiral, Laing O'Rourke, Undeb Rygbi Cymru a GCell ymysg rhai o'r cwmnïau y mae'r Academi wedi'u denu.

Mae GCell o Gasnewydd, sydd ar flaen y gad ym maes dylunio a gweithgynhyrchu celloedd solar, wedi bod yn gweithio gyda myfyrwyr yr Academi ar ei gynnyrch iBeacon arloesol. Dyma ddyfais a gynlluniwyd i ddarlledu signalau Bluetooth y gall ffôn clyfar eu darllen a'u deall. Mae'r dechnoleg hon yn galluogi cwmnïau i gyfathrebu â chynulleidfaoedd mewn lleoliad penodol ar union amser eu hymweliad.

Mae'r myfyrwyr wedi bod yn gweithio gyda GCell ar brototeip ar gyfer ap i ymwelwyr gyda Chyngor Casnewydd.

Wrth sôn am fanteision cydweithio, dywedodd David Pugh, Rheolwr Peirianneg Systemau yn GCell: "Roeddem yn awyddus i gael criw newydd ac awyddus o ddatblygwyr yn gweithio gydag iBeacons. Roedd gennym ddiddordeb mewn sut yr oeddent yn rhagweld y byddai iBeacons yn gwella apiau ac yn cynnig dimensiwn arall i brofiad y defnyddiwr. Roedd cael 25 pâr o lygaid yn gweithio gyda thechnoleg newydd ac yn rhoi eu hadborth yn bwysig i ni. Pleser pur oedd manteisio ar yr egni yma a gweld y prosiectau yn datblygu."

Meddai'r Athro Karen Holford, Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae'n wych gweld yr Academi Meddalwedd Genedlaethol yn ffynnu i'r fath raddau ers ei lansio flwyddyn yn ôl.

"Rydyn ni'n parhau i ddenu'r busnesau gorau o bob cwr o Gymru, y DU a gweddill y byd. Mae'r rhain yn rhoi profiad amhrisiadwy i'n myfyrwyr ac yn eu helpu i ddatblygu sgiliau'r fydd yn eu galluogi i fod yn gwbl barod ar gyfer y gweithle wedi iddynt raddio.

"Fodd bynnag, mae'r berthynas hon â diwydiant yn gweithio ddwy ffordd gan fod yr arbenigedd y mae ein myfyrwyr yn rhannu â'r busnesau hyn yn cael effaith go iawn. Hyn sy'n gwneud yr Academi Meddalwedd Genedlaethol yn wahanol i bob sefydliad arall.

Ychwanegodd Julie James, a ddaeth i weld yr Academi heddiw: “Mae sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yn hollbwysig i economi Cymru ac mae'r Academi hon, yr ydym yn falch o fod wedi'i chefnogi ers ei chyfnod peilot, yn cefnogi’n llawn ein gweledigaeth o ddenu ac adeiladu gallu yn y maes hwn.

"Rydw i wrth fy modd â'r cynnydd y mae'r Academi wedi'i wneud yn ystod ei blwyddyn gyntaf. Mae'n helpu i sicrhau bod ein graddedigion yn meddu ar y sgiliau a'r hyfforddiant cywir, nid yn unig i fod yn barod ar gyfer byd gwaith, ond hefyd i gryfhau'r rhan hon o'r economi, sy'n tyfu."