Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu llwyddiant dysgwyr y Cynllun Sabothol

19 Hydref 2016

Llun o Lowri Davies, Rheolwraig y Cynllun Sabothol
Lowri Davies, Rheolwraig y Cynllun Sabothol

Nos Iau 13 Hydref 2016, croesawodd Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, gyfranogwyr y Cynllun Sabothol ar gyfer Hyfforddiant Iaith Gymraeg i’r noson wobrwyo flynyddol.

Cynhaliwyd y digwyddiad yn Neuadd Aberdâr gydag Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Materion Cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru, yn arwain y noson.

Roedd dros 50 o ymarferwyr yn bresennol ac roedd y noson yn gyfle i ddathlu llwyddiant yr ymarferwyr a chyflwyno tystysgrifau i’r sawl a gwblhaodd gyrsiau yn 2015-16.

Mae’r Cynllun Sabothol ar gyfer Hyfforddiant Iaith Gymraeg yn cynnig cyrsiau hyfforddiant iaith i athrawon cynradd ac uwchradd, cynorthwywyr dosbarth a darlithwyr yn y sector cyfrwng Saesneg a’r sector cyfrwng Cymraeg. Nod y cyrsiau, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw cynyddu'r cyflenwad o ymarferwyr sy'n gallu addysgu’r Gymraeg fel ail iaith ynghyd ag addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. Mae’r cyrsiau yn cynnig cyfleoedd gwych o ran datblygiad proffesiynol parhaus arbenigol ym maes addysg.

Dywedodd Lowri Davies, Rheolwraig y Cynllun Sabothol yng Nghaerdydd “Mae’r noson wobrwyo  yn ddigwyddiad arbennig sy’n rhoi cyfle i gydnabod cyrhaeddiad yr ymarferwyr a rhoi cyfle iddynt  i ddod at ei gilydd i gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydw i’n teimlo’n falch iawn wrth glywed yr ymarferwyr yn siarad Cymraeg gyda chymaint o hyder.”

Mae cyrsiau’r Cynllun Sabothol yn cael eu cynnig ar sawl lefel ieithyddol mewn lleoliadau ar draws Cymru. Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn gyfrifol am ddarparu cyrsiau yng Nghanolbarth De Cymru a De ddwyrain Cymru.  Cynigir cyrsiau sabothol ar lefel Mynediad, Sylfaen, ac Uwch.  Mae'r cyrsiau yn rhad ac am ddim ac mae Llywodraeth Cymru yn talu costau cyflenwi  er mwyn rhyddhau athrawon, cynorthwywyr  a darlithwyr i allu datblygu eu sgiliau ieithyddol.

Am ragor o fanylion am y Cynllun Sabothol, cysylltwch â Cadi Thomas.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.