Ewch i’r prif gynnwys

Cynllun mentora cymunedol 'anhygoel'

14 Hydref 2016

Grange All Stars FC

Pêl-droedwyr yn mentora pobl ifanc yn eu cymuned ar ôl ymuno â phrosiect ymgysylltu gan y Brifysgol.

Noddir tîm Grange All Grange o Grangetown gan y Porth Cymunedol, sy'n rhan o raglen Trawsnewid Cymunedau y Brifysgol. Fodd bynnag, mae mwy i'r bartneriaeth o lawer na chynnig dillad newydd yn unig.

Mae'r chwaraewyr, a gefnogir gan y Porth Cymunedol, yn gweithio gyda phobl ifanc bob nos Fercher ym Mhafiliwn Grange yn Grangetown i gefnogi eu datblygiad personol a'u sgiliau pêl-droed.

Meddai rheolwr yr All Stars, Ahmed Jama: “Gwych o beth yw gweld cymaint o allu sydd gan y chwaraewyr ifanc yma. Maen nhw mor frwdfrydig ac yn cydweithio fel tîm.

"Mae hefyd yn hyfryd gweld ymdeimlad o gymuned yn ffynnu, gyda rhieni a brodyr a chwiorydd hŷn yn gwirfoddoli. Mae'n rhywbeth yr ydym yn falch o'i gefnogi a chwarae rhan ynddo."

Grange Pavilion Friends

Dim ond ers mis Gorffennaf 2014 y mae'r All Stars wedi bodoli. Cafodd ei sefydlu bryd hynny gan grŵp o ffrindiau, ond maent eisoes wedi gwneud argraff.

Fe enillon nhw Ail Adran Cynghrair Cyfunol Caerdydd y llynedd, ac maen nhw wedi cael dechrau da i'r tymor yn yr Adran Gyntaf.

Mae'r chwaraewyr yn cael cymaint o foddhad o allu rhoi rhywbeth yn ôl i'w cymuned hefyd.

Dywedodd Zeeshan Sadiq, sy'n amddiffynnwr: "Mae'n wych gweld faint mae'r sesiynau hyn yn ei olygu i'r plant.

"Rwyf wrth fy modd gyda'r amgylchedd amlddiwylliannol ac mae gallu gwella datblygiad personol y plant drwy'r cynllun mentora gyda Phrifysgol Caerdydd yn anhygoel."

Football Warm up

Ychwanegodd Owain Jones, capten y tîm: "Mae'r cynllun yn gwneud mwy na dim ond addysgu'r plant. Mae hefyd yn rhoi cyfle i aelodau o'n tîm addysgu sgil y gallwn ei ddefnyddio yn ein swyddi proffesiynol ac ar y cae pêl-droed."

Mae partneriaeth rhwng y clwb a'r gymuned yn cyd-fynd â dwy o themâu'r Porth Cymunedol – 'Grangetown Iach a Bywiog' a 'mannau a gweithgareddau i bobl ifanc'.

Dywedodd Ali Abdi, Rheolwr Partneriaethau y Porth Cymunedol: "Rydym yn cydnabod bod llawer o blant eisoes yn chwarae yn Ngerddi Grange. Mae gweithgareddau trefnus wedi bod ymhlith y ceisiadau yr ydym wedi'u cael gan y gymuned, ac mae wedi bod yn bleser gennym gynnig y rhain yn rhan o'r rhaglen wythnosol.

"Rydym eisoes wedi cynnal sesiynau criced a thenis bwrdd, yn ogystal â sefydlu Grŵp Rhedeg Run Grangetown. Roedd ychwanegu hyfforddiant pêl-droed yn gam naturiol gyda hyrwyddwyr Grange All Stars yn mentora plant mewn amgylchedd diogel ym Mhafiliwn Grange."

Mae'r Porth Cymunedol yn cydweithio â thrigolion Grangetown i wneud yr ardal yn lle gwell byth i fyw ynddi.

Fel rhan o raglen gyffredinol Trawsnewid Cymunedau Prifysgol Caerdydd, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.

Rhannu’r stori hon

Could your research, teaching or skills support this idea? We want your help to develop projects in Grangetown.