Ewch i’r prif gynnwys

Mynd i'r afael â chasineb ar-lein

12 Hydref 2016

H A T E Keys

Mae tîm o arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd wedi ymuno â Llywodraeth Cymru i ddatblygu tri chanllaw ar-lein newydd i helpu i atal y llif cynyddol o gasineb ar-lein.

Mae’r Athro Matthew Williams o Labordy Gwyddor Data Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd a Dr Pete Burnup o Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg y Brifysgol wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu tri chanllaw dwyieithog newydd i gasineb ar-lein wedi'u targedu at bobl ifanc, oedolion ac ymarferwyr.

Mae pob un o'r canllawiau wedi cael ei lywio gan ymchwil i droseddau casineb a chasineb ar-lein a wnaed ym Mhrifysgol Caerdydd dros y pum mlynedd diwethaf.

Mae'r canllawiau ar-lein newydd yn rhoi gwybodaeth am natur a phatrymau casineb ar-lein, y cyfreithiau sy'n cael eu defnyddio i gosbi’r rhai sy’n tramgwyddo, effeithiau casineb ar-lein ar ddioddefwyr, ffyrdd effeithiol i’r cyhoedd ymateb yn ei erbyn, a sut mae rhoi gwybod i’r heddlu.

“Y Rhyngrwyd yw’r ffin newydd ym maes troseddu," yn ôl yr Athro Matthew Williams, Cyfarwyddwr Labordy Gwyddor Data Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd.

"Troseddu ar-lein yw un o’r ychydig ffurfiau ar droseddu lle mae cynnydd bob blwyddyn, tra mae’r rhan fwyaf o droseddau eraill yn gostwng.

"Mae ein hymchwil i ymateb y cyfryngau cymdeithasol i lofruddiaeth Lee Rigby yn 2013 yn dangos sut mae pobl yn mynd at y cyfryngau cymdeithasol i ledaenu teimladau o gasineb yn dilyn digwyddiadau. Gwelwyd ymateb ar-lein tebyg yn dilyn y refferendwm ar ddyfodol y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd."

“The internet acts as a force amplifier for hate, and these guides, informed by cutting edge research at Cardiff, are aimed to give young people, adults and practitioners the information they need to combat the rising tide of hate online.”

Yr Athro Matthew Williams Senior Lecturer

Arweiniodd yr Athro Williams Brosiect Troseddau Casineb Cymru Gyfan (2011-2013) a fu’n sail i Fframwaith ar gyfer Gweithredu ar Daclo Troseddau Casineb Llywodraeth Cymru.  Y prosiect yw’r astudiaeth fwyaf o droseddau casineb yn y DU o hyd, a chafodd werth £570,000 o Gronfa’r Loteri Fawr.

Yn dilyn yr astudiaeth hon, enillodd tîm o Brifysgol Caerdydd grant gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Google i astudio casineb ar-lein.

Mae’r Athro Williams a Dr Pete Burnup hefyd wedi sicrhau grant o fri gan Adran Cyfiawnder UDA i astudio casineb ar-lein yn Los Angeles.

Ychwanega Dr Burnap: "Bob 60 eiliad, mae bron i 300 mil o sylwadau’n cael eu rhoi ar Facebook ledled y byd. Yn y DU yn unig, mae 30 miliwn o negeseuon trydar yn cael eu gwneud bob dydd.

"Mae casglu a dadansoddi’r data hyn yn ein hastudiaethau o gasineb ar-lein yn gofyn am gyfrifiadura sy’n perfformio’n uchel ac algorithmau dysgu peiriannol soffistigedig er mwyn adnabod casineb ar-lein ar raddfa fawr."

"Rydym wedi cael ein hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol i ddatblygu'r dechnoleg hon gyda gwyddonwyr cymdeithasol, a hynny’n arwain at ganlyniadau a all gael effaith ym mywydau pobl go iawn."

Yr Athro Pete Burnap Lecturer

"Wrth ddefnyddio technoleg i nodi casineb ar-lein, gall ymarferwyr bellach dargedu mentrau i leihau niwed yn well, at y rhai sydd fwyaf mewn angen," ychwanegodd.

Mae Labordy Gwyddor Data Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd yn rhan o Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data Prifysgol Caerdydd Data a fydd yng Ngwreichionen Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol newydd y Brifysgol (SPARK).

Mae'r Labordy Gwyddor Data Cymdeithasol yn dod â gwyddonwyr cymdeithasol, cyfrifiadurol, gwleidyddol, iechyd, ystadegol a mathemategol ynghyd i astudio agweddau methodolegol, damcaniaethol, empirig a thechnegol ar Fathau Newydd o Ddata mewn cyd-destunau cymdeithasol a pholisi.

Mae’r tri chanllaw ar-lein wedi cael eu lansio yn ystod yr wythnos hon, sef Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb, o’r 10fed i’r 17eg o Hydref.