Ewch i’r prif gynnwys

Mynd i'r afael â throseddau casineb yn Los Angeles

22 Medi 2016

LA Street

Mae arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd yn datblygu adnodd ystadegol sy'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i wneud rhagfynegiadau amser real o ble gallai troseddau casineb ddigwydd.

Bydd y tîm, o Labordy Gwyddoniaeth Data Cymdeithasol y Brifysgol, yn treialu eu hastudiaeth yn Sir Los Angeles ar ôl cael dros $600,000 o arian gan Adran Cyfiawnder yr Unol Daleithiau.

Dyma'r tro cyntaf i'r cyfryngau cymdeithasol gael eu defnyddio yn yr Unol Daleithiau i greu modelau rhagfynegol i blismona troseddau casineb.

Dros y tair blynedd nesaf, bydd y tîm yn craffu'n fanwl ar ddata o Twitter ac yn croesgyfeirio'r wybodaeth â throseddau casineb a gofnodir yn Los Angeles. Bydd y rhain yn datblygu marcwyr, neu lofnodion, a allai ddangos a yw troseddau casineb yn debygol o gael eu cyflawni ar adeg neu mewn man penodol, a galluogi swyddogion yr heddlu i gamu i mewn.

Mae 'trosedd casineb' yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio trosedd sydd wedi'i chymell gan ragfarn. Mae'n aml yn drosedd dreisgar sy'n digwydd pan mae'r troseddwr yn targedu rhywun oherwydd ei gysylltiad â grŵp cymdeithasol e.e. ei ryw, ethnigrwydd, anabledd neu grefydd.

Yn ôl Swyddfa Ystadegau Cyfiawnder (BJS) yr Unol Daleithiau, amcangyfrifir y cafwyd 293,800 o droseddau casineb treisgar yn 2012 nad oeddent yn angheuol ac yn erbyn eiddo yn yr Unol Daleithiau.

Mae data swyddogol y DU yn dangos y cafodd 52,528 o droseddau casineb eu cofnodi gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr yn 2014/15. Roedd hyn 18 y cant yn uwch na'r ffigur ar gyfer 2013/14.

Mae gwaith ymchwil blaenorol gan y Labordy Gwyddoniaeth Data Cymdeithasol eisoes wedi dangos y gellir defnyddio data Twitter i amlygu mannau penodol, fel rhai taleithiau neu ddinasoedd, lle gwelwyd achosion o gasineb geiriol, ond lle na chafodd troseddau casineb eu cofnodi. Gall amharodrwydd mewnfudwyr i roi gwybod am droseddau rhag ofn iddynt gael eu halltudio fod yn enghraifft o hyn.

"Gall cael gwell dealltwriaeth o deimladau cas a fynegir ar-lein, a'u cysylltiad â throseddau ar y strydoedd, alluogi gwasanaethau'r heddlu i amlygu, cofnodi a mynd i'r afael â throseddau casineb sy'n digwydd wyneb yn wyneb."

Yr Athro Matthew Williams Senior Lecturer

Meddai'r Athro Matt Williams, o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol: "Bydd yr hyn a amlygir gan ein gwaith yn helpu awdurdodau'r Unol Daleithiau i lunio polisïau i fynd i'r afael â throseddau casineb sy'n ymwneud yn benodol â'u hardal a galluogi darparwyr i deilwra eu gwasanaethau i gyd-fynd ag anghenion y dioddefwyr, yn enwedig os ydynt yn aelodau o gategori a dargedir yn gynyddol gan y rhai sy'n cyflawni troseddau casineb."

Mae Adran Heddlu Los Angeles yn hen law ar ymgorffori dulliau blaengar yn eu gweithdrefnau plismona. Yn y gorffennol, maent wedi defnyddio modelau mathemategol i ddarogan meysydd troseddau eraill, gan ostwng cyfraddau troseddau o ganlyniad i hynny.

Mae'r holl ddata a gynhyrchir gan y cyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd wedi rhoi llawer iawn o wybodaeth y gall ymchwilwyr ei defnyddio i amlygu patrymau a thueddiadau mewn nifer o feysydd ar draws y gymdeithas, gan gynnwys troseddau.

"Dyma'r astudiaeth gyntaf yn yr Unol Daleithiau i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn modelau rhagfynegol i blismona troseddau casineb. Mae plismona rhagfynegol yn fodel rhagweithiol o orfodi'r gyfraith sydd wedi dod yn fwy cyffredin. Mae hyn yn rhannol oherwydd dyfodiad dadansoddeg datblygedig fel cloddio data a rhaglenni cyfrifiadurol sy'n gallu addasu eu hunain wrth gael rhagor o ddata."

Yr Athro Pete Burnap Lecturer

Meddai Dr Pete Burnap, o Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg y Brifysgol: "Mae dulliau dadansoddol newydd a'r gallu i brosesu setiau data enfawr wedi cynyddu cywirdeb modelau rhagfynegol o'u cymharu â dulliau traddodiadol o ddadansoddi troseddau. Bydd y prosiect hwn yn gwerthuso a all adrannau'r heddlu fanteisio ar y data a'r technegau newydd hyn i leihau troseddau casineb."

Mae Labordy Gwyddoniaeth Data Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd yn rhan o Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data, ac mae wedi bod yn gysylltiedig â grantiau ymchwil gwerth dros £6 miliwn. Mae'r Labordy Gwyddoniaeth Data Cymdeithasol yn dod â gwyddonwyr cymdeithasol, cyfrifiadurol, gwleidyddol, iechyd a mathemategol ynghyd i astudio agweddau methodolegol, damcaniaethol, empirig a thechnegol o Fathau Newydd o Ddata mewn cyd-destunau cymdeithasol a pholisi.