Ewch i’r prif gynnwys

Diwylliant bwyd ar ôl 1066

10 Hydref 2016

1066 Bayeux Tapestry

950 o flynyddoedd ers i Gwilym o Normandi lanio yn Lloegr, a oedd yn un o achlysuron mwyaf nodedig hanes Prydain, mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd am ddysgu pa effaith a gafodd y goncwest ar ddeiet, arferion coginio ac iechyd.

Bydd Effaith y Goncwest Normanaidd ar Ddeiet yn archwilio gweddillion pobl ac anifeiliaid a chrochenwaith cyn ac ar ôl y goncwest yn Rhydychen i adrodd stori effaith 14 Hydref 1066, sef Brwydr Hastings.

Mae arbenigwyr o Brifysgolion Sheffield a Bryste’n cydweithio ar brosiect ymchwil a ariennir gan Brifysgol Caerdydd, Cymdeithas Hynafiaethau Llundain, y Sefydliad Archeolegol Brenhinol a’r Gymdeithas Archaeoleg Ganoloesol.

Cafwyd newid cymdeithasol-wleidyddol amlwg a sylweddol yn Lloegr ar ôl y Goncwest Normanaidd. Yn sensitif i’r fath newidiadau, gall deiet fod yn arwydd o ddewis diwylliannol, economeg a hunaniaeth. Mae ymchwil archeolegol a hanesyddol flaenorol wedi dangos i archwaeth yr uchelwyr newydd yn gyflym gyda dyfodiad bwyd o Ffrainc. Bwytawyd mwy o borc, cyw iâr a chig carw, ond mae’r effaith ar y boblogaeth ehangach yn llai eglur.

Mae’r astudiaeth newydd am geisio datgelu:

  • sut y newidiodd deiet y werin
  • sut y newidiodd arferion coginio
  • effaith ehangach y Goncwest Normanaidd ar iechyd corfforol poblogaeth benodol

Bydd arbenigwyr mewn arteffactau, archaeoleg Eingl-Normanaidd, archaeoleg angladdol a bioarchaeoleg yn defnyddio dull aml-sgalar o ymchwilio i un ddinas yn fanwl, gan ganolbwyntio ar Rydychen fel croesbwynt diwylliannol rhwng y gogledd a’r de yn ystod y canol oesoedd cynnar.

Mae’r prosiect yn unigryw o ran y dulliau aml-sgalar y mae’n eu dwyn ynghyd:

Dadansoddiad isotop sefydlog o golagen esgyrn i ddatgelu deietau unigolion

Bydd dadansoddiad o gemeg esgyrn yn cynnig tystiolaeth uniongyrchol o boblogaeth Rhydychen fel unigolion. Bydd yn asesu cyfraniad cig, pysgod a grawn yn y deiet. Mae’r ymchwil yn cynnwys dadansoddiad swmp o esgyrn, gan gynnig cyfartaledd hirdymor o ddeiet a dadansoddiadau graddedig lluosog o ddannedd i roi cipolwg cadarnach ar ffynonellau bwyd a hefyd iechyd yn ystod plentyndod a glaslencyndod. Drwy gynllun Lleoliadau Cyfleoedd Ymchwil Prifysgol Caerdydd, bydd y myfyrwyr Archaeoleg israddedig Will Barrow a Rachael Mott yn cael cyfle unigryw i gyfrannu at yr ymchwil hon.

Osteoleg ddynol i ddangos effaith y newidiadau deietegol

Bydd asesiad palaeopatholegol o iechyd esgyrn a dannedd unigolion o fynwentydd Rhydychen, a wneir gan y Dr Elizabeth Craig-Atkins a’r fyfyrwraig MSc Allie Taylor o Brifysgol Sheffield yn archwilio effaith ffisiolegol newidiadau i’r deiet.

Dadansoddiad olion organig o gerameg i ddynodi dulliau a chynhwysion coginio

Bydd samplau o grochenwaith o safleoedd a gloddiwyd yn ddiweddar yn Rhydychen yn sefydlu pa fwydydd a broseswyd mewn dysglau (e.e. porc, cig oen, cig eidion, cynnyrch llaeth, pysgod) cyn ac ar ôl y goncwest. Cyflawnir hyn drwy ddadansoddiad olion lipidau gan y Dr Lucy Cramp (Prifysgol Bryste).

Meddai arweinydd y project, Dr Ben Jarvis, sy’n arbenigwr mewn archaeoleg Eingl-Normanaidd yn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd: “Mae’r astudiaeth yn gipolwg unigryw ar effaith 1066 ar weithgareddau domestig."

Ben Jervis

"Drwy ganolbwyntio ar ddiwylliant bwyd, bydd ein hymchwil yn gwella ein dealltwriaeth o oblygiadau newid cymdeithasol-wleidyddol yn y canol oesoedd cynnar i fywydau bob dydd pobl gyffredin.”

Dr Ben Jervis, Lecturer in Archaeology

Meddai’r bioarchaeolegydd, Dr Richard Madgwick, sydd hefyd o’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd: “Mae’r dulliau difyr rydym yn eu defnyddio am gynnig manylder digyffelyb o ddeiet ac iechyd cymunedau Rhydychen cyn ac ar ôl y goncwest.

Richard Madgwick

"Bydd manylion y canlyniadau’n werthfawr iawn, gan gynnig darlun cyffredinol o ddeiet ac iechyd yn y gymuned a hefyd i unigolion penodol a hyd yn oed cyfnodau penodol ym mywydau unigolion. Mae hyn yn wirioneddol unigryw yng nghyd-destun y canol oesoedd."

Dr Richard Madgwick, British Academy Post-Doctoral Research Fellow

Meddai Dr Elizabeth Craig-Atkins, Darlithydd Osteoleg Ddynol ym Mhrifysgol Sheffield: “Gall dadansoddi esgyrn pobl gynnig pob math o wybodaeth werthfawr am newid iechyd a deietegol, ond nid yw data o weddillion archeolegol o bobl erioed wedi cael ei integreiddio’n effeithiol wrth ystyried effaith y Goncwest. Rydym wedi gallu creu sampl mawr o ddata ar heintiau metabolig, heintiau deintyddol a straen biolegol cyffredinol a fydd, am y tro cyntaf, yn cael ei integreiddio’n llawn â thystiolaeth isotopau a cherameg i ystyried sut y gwnaeth bywydau pobl gyffredin newid ar ôl y Goncwest Normanaidd.”

Caiff Effaith y Goncwest Normanaidd ar Ddeiet ei gwblhau ar ddechrau 2017, a bydd yn rhannu’r canlyniadau â phobl Rhydychen yn Amgueddfa Swydd Rydychen ac mewn cyfnodolion academaidd i ddatblygu ymhellach ymchwil yn y newid nodedig hwn yn hanes Prydain.

Rhannu’r stori hon

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalennau gwe'r Ysgol.