Ewch i’r prif gynnwys

Cyhoeddi prosiect Lyonesse

26 August 2016

Scilly

Mae canlyniadau wedi eu cyhoeddi ar gyfer prosiect saith mlynedd yr oedd y Brifysgol yn rhan ohono. Astudiaeth ydoedd ar effaith lefel y môr yn codi ar Ynysoedd Sili dros y 12,000 o flynyddoedd diwethaf.

Comisiynwyd Prosiect Lyonesse gan Historic England ar ôl darganfod coedwig o dan ddŵr yn Sili.

Amcan y prosiect, a gynhaliwyd rhwng 2009 a 2013, oedd ail-greu esblygiad amgylchedd Sili yn ystod y cyfnod diweddar ac archwilio'r modd y bu i'r dirwedd arfordirol newid a chynyddu yn nwylo'r boblogaeth gynnar. Roedd hefyd yn ystyried newidiadau mewn hinsawdd yn y gorffennol a'r presennol ynghyd â chynnydd lefel y môr, yn ogystal â datblygu technegau geoffisegol i fapio hen dirweddau cuddiedig.

Amcanodd y tîm hefyd at wella'r modd y rheolir yr ynysoedd, hyrwyddo gwell ddealltwriaeth o amgylchedd hanesyddol yr ynysoedd ac annog ymgysylltu â'r gymuned leol o safbwynt yr amgylchedd hanesyddol.

Mae dadansoddi samplau o fawn a phaill a gafwyd o ystod o leoedd yn ystod y prosiect, gan gynnwys traethau a'r goedwig oedd o dan ddŵr, wedi rhoi cipolwg unigryw ar ddatblygiad y dirwedd yn ystod y cyfnod diweddar, a hynny pan oedd lefel y môr yn newid.

Dywedodd Dr Jacqui Mulville o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, sy'n arwain rhan Prifysgol Caerdydd yn y prosiect: "Datblygodd Prosiect Lyonesse fel rhan o ddeng mlynedd o gydweithio rhwng Prifysgol Caerdydd ac Archaeoleg Cernyw i adfywio'r ymchwil archeolegol ar Ynysoedd Sili.  Mae timau o staff a myfyrwyr wedi ymgymryd â gwaith cloddio, holiaduron ac allgymorth, ac mae'n wych gweld ein gwaith yn dwyn ffrwyth wrth inni archwilio perthynas yr ynysoedd â'r môr.  Mewn byd sydd â'i hinsawdd a'i glannau'n newid, mae edrych ar y gorffennol yn ein helpu wrth inni ystyried y presennol a chynllunio at y dyfodol.

"Daeth y prosiect hwn ag arbenigedd o Gymru a Lloegr ynghyd, gan ddefnyddio technegau arloesol i ddangos deinameg y môr mewn goleuni newydd. Dengys canlyniadau'r prosiect fanylder nas gwelwyd erioed o'r blaen yng nghyfradd y newid yn lefel y môr yn ne-orllewin Prydain. Rydym yn adeiladu ar y llwyddiant hwn trwy ddefnyddio technegau wedi'u mireinio o'r gwaith ymchwil hwn, a'u rhoi ar waith ar arfordir de Cymru.  Mae ein myfyriwr doethuriaeth newydd, Rhiannon Philip, yn archwilio'r coedwigoedd, y mawn a'r olion troed sydd wedi'u cadw ym Mhenrhyn Gŵyr i arddangos y newidiadau yn yr arfordir dros y 10,000 o flynyddoedd diwethaf."

Cynhaliwyd y gwaith ymchwil gan Uned Archeolegol Cernyw, sy'n rhan o Gyngor Cernyw, gyda thîm o arbenigwyr o Brifysgolion Aberystwyth, Caerdydd, Caerwysg, Plymouth, Rhydychen a Glasgow, ynghyd â Thîm Dyddio Gwyddonol, Historic England. Roedd gwirfoddolwyr ac arbenigwyr lleol o Gymdeithas Archaeoleg Forol Cernyw ac Ynysoedd Sili, ynghyd â Grŵp Archaeoleg Forol yr Ynysoedd hefyd yn rhan o'r gwaith ymchwil.

Dywedodd Charlie Johns, Swyddog Prosiectau Archaeoleg, o Uned Archeolegol Cernyw: "Mae'r data newydd yn dangos cyfnod o 500 mlynedd rhwng 2,500 a 2,000 cyn Crist pan fu'r golled gyflymaf o dir erioed yn hanes Sili. Roedd yn cyfateb i golli deuparth ardal yr Ynysoedd fel y mae heddiw.

"Wedi hyn, ni fu newid mor gyflym o bell ffordd, felly erbyn 1,500 cyn Crist roedd yr Ynysoedd yn edrych yn ddigon tebyg i fel y maent heddiw o ran eu tirwedd, ond â gwahaniaethau mawr o ran ardal rhynglanw corsiog llawer mwy - yr hyn a elwir yn lagŵn mewnol yr ynysoedd erbyn hyn.

"Byddai llawer o'r tir hwn wedi gallu bod yn ddefnyddiol, yn arbennig i stoc o anifeiliaid bori a byddai wedi bod modd ei groesi'n rhwydd y rhan fwyaf o'r amser. Dechreuodd y gors erydu'n sydyn unwaith daeth sianel agored i ogledd St Mary's yn ystod y rhan fwyaf o gyflyrau'r llanw. Mae dyddio radiocarbon yn awgrymu i hyn ddigwydd yn y cyfnod canoloesol cynnar, ar ôl 600-670 AD."

Ychwanegodd Daniel Ratcliffe, Arolygwr Henebion ar gyfer Historic England yn ne-orllewin Lloegr: "Mae Historic England yn falch iawn o noddi'r ymchwil arloesol hon.  Mae ein dealltwriaeth o arwyddocâd rhyngwladol yr etifeddiaeth archeolegol yn Sili ynghlwm â'n dealltwriaeth o newid yn yr amgylchedd.

"Bydd y gwaith ymchwil arloesol hwn yn hanfodol wrth ychwanegu at ein gwybodaeth o ran sut bu poblogaeth Sili'n ymateb i'r heriau cyson o fyw ar arfordir sydd wedi newid trwy gydol hanes."

Cyhoeddwyd The Lyonesse Project: a study of the historic coastal and marine environment of the Isles of Scilly gan Gyngor Cernyw.