Ewch i’r prif gynnwys

Dad-ddynoli ein cymunedau

19 Gorffennaf 2016

Dehumanisation

Bydd Prifysgol Caerdydd ac Ysgol Fusnes Caerdydd yn cynnal 19eg Cynhadledd y Gymdeithas Ryngwladol er Realaeth Feirniadol (IACR) ar Ddad-ddynoli mewn Cymdeithas rhwng dydd Mercher 20 a dydd Gwener 22 Gorffennaf 2016.

Bydd y gynhadledd ryngddisgyblaethol yn edrych ar ddad-ddynoli cymdeithasau cyfoes mewn termau economaidd, cymdeithasegol, trefol, crefyddol a pholisi cyhoeddus. Yn aml caiff angen dynol ei danseilio a’i anwybyddu gan ffactorau economaidd – mewn busnes, gwleidyddiaeth ac mewn bywyd bob dydd. Bydd y gynhadledd yn edrych sut y gallwn ail-ddynoli cymdeithas a sefydliadau er mwyn rhoi pobl yn ôl wrth galon prosesau penderfynu.

Yn y DU a thramor rydym ni’n dystion i gyfnod parhaus o gysylltiadau cymdeithasol sydd wedi’u dad-ddynoli mewn llawer maes o fewn cymdeithas. Boed yn osod proffidioldeb uwchlaw llesiant dynol neu bolisi cyhoeddus ac agendâu llywodraethol sy’n ynysu ac yn dadrithio llawer o garfannau o fewn cymdeithas, yn aml caiff angen a datblygiad dynol eu hanwybyddu.

Bydd carfan ryngwladol o siaradwyr a chynrychiolwyr yn bresennol ac mae’r prif siaradwyr yn wyddonwyr cymdeithasol adnabyddus.

Yr Athro Margaret Archer yw Cyfarwyddwr y Ganolfan Ontoleg Gymdeithasol ym Mhrifysgol Warwick ac mae’n un o sefydlwyr realaeth feirniadol. Fe’i hetholwyd yn Llywydd benywaidd cyntaf y Gymdeithas Gymdeithasegol Ryngwladol ac ym mis Mawrth 2014 fe’i penodwyd gan ei Sancteiddrwydd y Pab Francis yn Llywydd yr Academi Gwyddorau Cymdeithasol Archoffeiriadol.

Cyflwynir yr ail brif araith gan yr Athro Douglas Porpora, Athro Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Drexel yn Philadelphia a phrif olygydd y Journal for the Theory of Social Behaviour.

Dr Ismael Al-Almoudi o Ysgol Fusnes Caerdydd sy’n trefnu’r gynhadledd. Meddai: “Bydd yn bleser o’r mwyaf i groesawu ein gwesteion a’n cynrychiolwyr nodedig, y bydd rhai ohonynt wedi teithio miloedd o filltiroedd i ddod i’r gynhadledd hon ar ddad/ddynoli.

“Pa mor rhyfedd bynnag y bo hynny, nid yw siarad am yr hyn sy’n ein gwneud ni’n ddynol yn dasg rwydd i wyddonwyr cymdeithasol. Mae ein modelau cysyniadol yn ei wneud yn anodd siarad am arwyddocâd perthynas, am gariad, am foesoldeb. Ac eto, rhaid i ni wneud hynny os ydym ni am ail-ddynoli cymdeithas a rhoi’r gorau i gynhyrchu ac ailgynhyrchu cysylltiadau cymdeithasol sy’n ein hatal rhag ffynnu.”

Yn ystod y gynhadledd cynhelir digwyddiad lansio sylweddol gyda 10 cyfrol newydd ar realaeth feirniadol yn ymddangos o dri thŷ cyhoeddi blaenllaw (Cambridge University Press, Routledge a Springer). Ymhlith y cyfranogwyr yn y digwyddiad ddydd Iau 22 Gorffennaf mae’r cymdeithasegwyr blaenllaw Philip Gorski (Prifysgol Yale) ac Andrew Sayer (Prifysgol Lancaster) yn ogystal â Llywydd IACR, Alan Norrie (Prifysgol Warwick).