Ewch i’r prif gynnwys

STEM - Yn Fyw!

8 Gorffennaf 2016

STEM Live!

Daeth dros 200 o blant ysgol uwchradd ledled y de i'r Brifysgol i gymryd rhan mewn diwrnod llawn gweithgareddau cyffrous a diddorol ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).

Roedd y digwyddiad yn arddangos yr ymchwil amrywiol a gynhelir yn y Brifysgol, gan gynnwys y wyddoniaeth y tu ôl i sinema 3D a defnyddio catalysis i greu byd gwell. Yn ogystal, cyflwynodd y myfyrwyr i amrywiaeth eang o gyfleoedd a ddaw yn sgîl dilyn gyrfa ym meysydd pynciau STEM.

Trefnwyd y digwyddiad gan Goleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg a'r Coleg Biomeddygol a Gwyddorau Bywyd, mewn partneriaeth â Choleg Chweched Dosbarth Catholig Tŷ Ddewi Sant, a chafodd ei gyflwyno'n ehangach i fyfyrwyr chweched dosbarth o 12 o ysgolion ar draws de Cymru.

Cymerodd y disgyblion chweched dosbarth ran mewn amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys dylunio a phrofi cychod; ymchwilio i sut y defnyddir gwenyn mêl i amlygu cyffuriau sy'n deillio o blanhigion i ymladd bacteria; dylunio strwythur sy'n gallu gwrthsefyll daeargryn; a darganfod priodoleddau a phosibiliadau cemymoleuedd.

Mae STEM Live! wedi'i gynllunio i roi safbwynt newydd i fyfyrwyr drwy eu tywys o'r ystafell ddosbarth a'u rhoi mewn amgylchedd lle gallant ymgolli ym myd gwyddoniaeth.

Dywedodd Dr Fiona Wyllie, prif drefnydd y digwyddiad: "Roeddem am roi gwybod i fyfyrwyr chweched dosbarth am ehangder llawn y cyrsiau STEM a'r ymchwil sydd ar gael yn y Brifysgol, gan gynnwys pynciau sy'n anghyfarwydd iddynt drwy eu cwricwlwm yn yr ysgol."

Disgrifiodd Mr Hughes, Pennaeth Cynorthwyol y Chweched Dosbarth yn Ysgol Uwchradd Gatholig St Joseph y ddgwyddiad fel cyfle unigryw i fyfyrwyr gael cipolwg ar ystod eang o bynciau STEM. Dywedodd hefyd bod rhai ohonynt hyd yn oed wedi'u cymell i ailystyried y pwnc STEM y maent am gyflwyno cais ar ei gyfer i'w astudio y flwyddyn nesaf.

Ychwanegodd: "Mae ein myfyrwyr wedi cael eu hysbrydoli a'u llenwi â brwdfrydedd gan angerdd amlwg yr ymchwilwyr a'r myfyrwyr israddedig ynglŷn â'u pynciau. Erbyn hyn, rwyf yn teimlo eu bod mewn gwell sefyllfa i wneud penderfyniad deallus am eu gyrfaoedd yn y dyfodol ym meysydd STEM."

Dyma'r trydydd tro i'r Brifysgol drefnu digwyddiad STEM - Yn Fyw! Mae'n un o sawl menter ym Mhrosiect Partneriaeth Ysgolion y Brifysgol sy'n cynorthwyo ymchwilwyr i ymgysylltu'n uniongyrchol â myfyrwyr, ac mae'n helpu i gyflwyno cyd-destunau ymchwil modern ac ysbrydoledig ym meysydd dysgu ffurfiol ac anffurfiol. Ariennir y Prosiect Partneriaeth gan Gynghorau Ymchwil y DU (RCUK) fel rhan o'u Menter Partneriaethau Ysgol-Prifysgol.