Enwebiadau Gwobrau Cyn-fyfyrwyr (tua)30 2025 ar agor
16 Ebrill 2025

Mae'r Gwobrau (tua)30 yn dychwelyd am y bedwaredd flwyddyn i ddathlu a rhannu straeon y rhai sydd wedi creu newid, wedi arloesi ac wedi torri’r rheolau yng nghymuned cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
Byddwn ni’n cydnabod rhestr o gyn-fyfyrwyr sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol yn eu cymuned cyn troi’n 30 oed. Wel, (tua) 30 oed. Mae'r enwebiadau ar agor, felly p'un a ydych chi'n cymryd yr awenau ac yn enwebu eich hun, neu'n adnabod arloeswr arall sy’n haeddu cydnabyddiaeth yn eich barn chi, cofiwch gyflwyno'ch cais erbyn 20 Gorffennaf 2025.
Bydd yr holl enillwyr yn cael eu gwahodd i ddigwyddiad Gwobrau (tua)30, ddydd Iau 23 Hydref yn adeilad sbarc | spark, wedi’i gyflwyno gan yr Is-Ganghellor. Fydd dim angen i chi wisgo'r tei du traddodiadol - prif nod y digwyddiad yw rhwydweithio gyda phobl alluog o’r un anian.
Bydd Gwobr yr Is-Ganghellor yn cael ei chyhoeddi ar y noson, a’i chyflwyno i un enillydd arbennig. Bydd gwobr ‘Dewis y Bobl’ y mae’r cyn-fyfyrwyr a chymuned Caerdydd yn pleidleisio drosti yn cael ei chyflwyno ar y noson hefyd.
Y llynedd, cafodd dros 30 o gyn-fyfyrwyr eithriadol eu cydnabod gyda gwobrau am arloesi, creadigrwydd, gwaith da yn eu cymuned neu ar gyfer yr amgylchedd, a rhagoriaeth yn eu maes. Mae'r enillwyr wedi cynnwys yr ymchwilydd pegynol Prem Gill (BSc 2017), yr hyrwyddwr cyfiawnder cymdeithasol Stella Nderitu (MScEcon 2022), yr entrepreneur Konstantinos Kousouris (BSc 2021), y newyddiadurwr Will Hayward (BScEcon 2011, MA 2017) a chyflwynwyr BBC Radio 1 Sam MacGregor (BSc 2020) a Danni Diston (BA 2019).
Darllenwch am enillwyr y llynedd.
Dewch i adnabod cyfraniadau cyn-fyfyrwyr a chymryd y cyfle iddyn nhw (neu eich hunain) gael noson o rwydweithio â chyn-fyfyrwyr arloesol eraill o Brifysgol Caerdydd. Dysgwch ragor a chyflwyno’ch enwebiadau.
Rhannu’r stori hon
Clywch am newyddion cyn-fyfyrwyr, cyfleoedd, cynigion, a gwahoddiadau i ddigwyddiadau drwy e-bost neu gylchgrawn blynyddol.