Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Cyn-fyfyrwyr (tua)30 2024
18 Medi 2024
Mae aelodau o gymuned cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau (tua)30 eleni.
Mae Gwobrau (tua)30 y Brifysgol yn dathlu llwyddiannau cyn-fyfyrwyr sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol at eu cymuned, a'r cyfan cyn eu bod yn 30 oed. Wel, (tua)30 oed.
Gan osgoi’r fformat traddodiadol o gael rhestr o '30 o dan 30', roedd y Gwobrau yn agored i gyn-fyfyrwyr o dan 30, yn ogystal â rhai hŷn, ond sy'n teimlo eu bod (tua)30. Cafodd y Gwobrau eu creu i gydnabod cyn-fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sydd wedi creu newid, arloesi a thorri tir newydd. Cafwyd ymateb anhygoel, gyda bron i 200 o enwebiadau yn cael eu cyflwyno.
Cafodd cyn-fyfyrwyr o bob cwr o'r byd ac o ystod eang o ddiwydiannau eu henwebu naill ai ganddyn nhw eu hunain neu gyn-fyfyrwyr eraill, staff neu gydweithwyr.
Ar ôl llawer o ystyriaeth, dewiswyd enillwyr (tua)30 mewn categorïau gan gynnwys Entrepreneuriaeth, Arloesi, Effaith Gymdeithasol, Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau, ac Iechyd a Lles.
Gweld y rhestr lawn o enillwyr.
Bydd yr enillwyr yn casglu eu gwobrau mewn digwyddiad arbennig ar ddydd Iau 10 Hydref a gynhelir yn Adeilad sbarc | spark. Bydd y noson yn cael ei gynnal gan Lywydd a'r Is-ganghellor, yr Athro Wendy Larner a'i chyflwyno gan y gohebydd a’r angor CNN, y cyn-fyfyriwr Max Foster (BSc 1994).
Ar y noson, bydd Gwobr yr Is-ganghellor newydd yn cael ei chyflwyno i un enillydd arbennig, a bydd Gwobr Dewis y Bobl yn cael ei chyhoeddi, ar ôl i enillwyr y gorffennol a'r presennol bleidleisio drostyn nhw.