Ewch i’r prif gynnwys

Meithrin cymuned seiber amrywiol a chynhwysol

16 Ebrill 2024

Myfyriwr yn gwisgo sbectol haul, hwdi coch o Brifysgol Caerdydd a jîns yn cael ei lun wedi’i dynnu y tu allan i adeilad Canolfan Bywyd y Myfyrwyr ar Blas y Parc, Caerdydd
Dywed Jonathan fod Prifysgol Caerdydd wedi creu amgylchedd cynhwysol ac wedi meithrin cyfleoedd ar gyfer cydweithio sydd wedi ei helpu i ddatblygu y tu hwnt i'w astudiaethau academaidd

Mae ysgolhaig Chevening o Brifysgol Caerdydd wedi cael ei gydnabod am ei ymdrechion rhagorol i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn sector seiberddiogelwch y DU.

Cafodd Jonathan Ayodele, o Lagos yn Nigeria, ganmoliaeth uchel yn y categori Hyrwyddwr Myfyrwyr: Amrywiaeth ym maes Seiberddiogelwch yng Ngwobrau ‘Cyber Diversity’ y DU 2024.

Mae'r wobr yn cydnabod myfyriwr sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol at feithrin cymuned seiber amrywiol a chynhwysol trwy eiriolaeth, gweithredu neu fentrau.

Ac yntau wedi derbyn Ysgoloriaeth Chevening wedi’i hariannu gan lywodraeth y DU, astudiodd Jonathan yr MSc mewn Seiberddiogelwch yn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd.

Yn llysgennad STEM y DU ac aelod allweddol o fenter CyberFirst Cymru, mae wedi helpu i greu cyfleoedd i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, yn enwedig unigolion du, ym maes seiberddiogelwch.

Mae’n anrhydedd wych cael fy nghydnabod am fy ngwaith yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn sector seiberddiogelwch y DU. Mae'r enwebiad hwn yn dyst i ymdrechion pobl ifanc Nigeria ar y cyd sy'n ceisio creu effaith gadarnhaol ar y llwyfan byd-eang.
Jonathan Ayodele

Mae mentrau Jonathan yn cynnwys cymryd rhan yng ngweithgor Mis Hanes Pobl Dduon 2023 Prifysgol Caerdydd, a’i brosiect a oedd yn tynnu sylw at arloeswyr benywaidd du ym maes technoleg seiberddiogelwch.

Mae'n dweud bod ei gyfraniadau yn helpu i bwysleisio pwysigrwydd amrywiaeth wrth feithrin arloesedd a mynd i'r afael â'r diffyg o ran sgiliau seiberddiogelwch.

Ychwanegodd: “Rwy’n ddiolchgar i fy narlithwyr a staff yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg am eu cefnogaeth drwy gydol fy astudiaethau i greu amgylchedd cynhwysol a meithrin cydweithio.

Delwedd o’r llwyfan yng Ngwobrau ‘Cyber Diversity’ y DU 2024. Mae enw Jonathan Ayodele ar y sgrin. Mae’n dweud ei fod wedi cael canmoliaeth uchel yn y categori gwobr Hyrwyddwr Myfyrwyr: Amrywiaeth ym maes Seiberddiogelwch
: Cafodd Jonathan Ayodele ganmoliaeth uchel yn y categori Hyrwyddwr Myfyrwyr: Amrywiaeth ym maes Seiberddiogelwch yng Ngwobrau ‘Cyber Diversity’ y DU 2024

“Mae Prifysgol Caerdydd wedi cyfrannu nid yn unig at fy nhwf academaidd ond hefyd at fy natblygiad a’m rhwydweithiau personol.”

Nod Gwobrau ‘Cyber Diversity’ y DU yw codi ymwybyddiaeth am ddiffyg cynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig yn y sector seiberddiogelwch.

Daeth y digwyddiad mawreddog hwn, a gafodd ei gynnal yn Wolverhampton, ag arweinwyr y diwydiant, gweithwyr proffesiynol, eiriolwyr a chynghreiriaid ynghyd. Mae’n anrhydeddu'r rhai sy'n hyrwyddo amrywiaeth ac sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i faes seiberddiogelwch.

Darllenwch y rhestr lawn o enillwyr Gwobrau ‘Cyber Diversity’ y DU 2024.

Rhannu’r stori hon

Mae gan yr Ysgol, sy'n blaenoriaethu ymchwil, enw da am addysgu ardderchog a gweithgareddau ymchwil medrus rhyngwladol.