Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr doethuriaeth yn ennill gwobr efydd ar gyfer ffiseg yn STEM for BRITAIN 2024

28 Mawrth 2024

Dwy fenyw ifanc ac un dyn ifanc yn cael eu llun wedi’i dynnu gyda'u gwobrau yn STEM for BRITAIN 2024 yn San Steffan.
Enillodd Sama, myfyriwr PhD (chwith) y wobr efydd yn y categori ffiseg am ei hymchwil ar donnau disgyrchol. Llun gan John Deehan Photography a'r Pwyllgor Seneddol a Gwyddonol.

Mae myfyriwr PhD ail flwyddyn o Brifysgol Caerdydd wedi ennill y wobr efydd am ffiseg mewn cystadleuaeth wyddonol ac arddangosfa bosteri o bwys a gafodd ei chynnal yn San Steffan.

Cyflwynodd Sama Al-Shammari ei hymchwil ar donnau disgyrchol i ASau yn STEM for BRITAIN 2024 yn San Steffan.

Daeth Sama o Ddulyn i Gaerdydd yn 2020 i astudio am ei MSc mewn Astroffiseg yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth y Brifysgol.

Yn dilyn ei gradd ôl-raddedig, penderfynodd Sama aros yng Nghaerdydd i gynnal ei hastudiaethau doethuriaeth yn y Sefydliad Archwilio Disgyrchiant dan oruchwyliaeth Dr Vivien Raymond.

Dywedodd hi: “Mae'r ymchwil rydyn ni'n ei wneud yma yn gyffrous. Rwy'n mwynhau pob eiliad ohono ac mae’r bobl sydd o fy nghwmpas mor garedig a chefnogol. Rwy'n mwynhau pob cyfle rwy'n ei gael i rannu fy ymchwil gydag eraill, ac mae'n dod â llawenydd i mi pan fyddan nhw’n cydnabod pa mor gyffrous yw e hefyd.”

Mae PhD Sama yn canolbwyntio ar ddefnyddio technegau dysgu peiriannol i wella amcangyfrif paramedr o ddata tonnau disgyrchol. Mae’n cael ei ariannu gan y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg ac Ymchwil ac Arloesedd y DU, a hynny drwy'r Ganolfan Hyfforddiant Doethurol ym maes deallusrwydd artiffisial, dysgu peiriannol a chyfrifiadura uwch.

Ychwanegodd: “Mae astroffiseg yn bwnc gwych ac eang. Po fwyaf rydyn ni’n ei astudio ac yn archwilio ei gorneli cudd, y mwyaf rydyn ni’n ei ddeall am ein bydysawd.

Yn araf bach rydyn ni'n datod cyfrinachau'r cosmos sydd wedi ein drysu ers blynyddoedd, er enghraifft gwybodaeth am dyllau du a natur yr hyn sydd y tu mewn i sêr niwtron. Mae Prifysgol Caerdydd ar flaen y gad gyda’r ymchwil hwn ac mae'n anrhydedd i mi fod yn rhan ohono.

Sama Al-Shammari

Roedd STEM for BRITAIN yn gyfle i Sama gyflwyno canfyddiadau o'i hymchwil PhD hyd yma i ASau ac ymarferwyr o ystod eang o sefydliadau gwyddonol, peirianneg a mathemateg pwysig sy'n cefnogi’r digwyddiad.

Menyw ifanc yn cael ei llun wedi’i dynnu ochr yn ochr â phoster am ei hymchwil ar donnau disgyrchol.
“Rwy'n mwynhau pob cyfle i rannu fy ymchwil gydag eraill.” Cyflwynodd Sama ei hymchwil ar donnau disgyrchol i ASau yn STEM for BRITAIN 2024 yn San Steffan.

Ymwelodd Stephen Doughty, AS De Caerdydd a Phenarth â'r Brifysgol ar ôl y digwyddiad i ddysgu rhagor am waith Sama, a'r ymchwil sydd ar y gweill ymhlith y garfan ddoethurol ehangach yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth.

Dywedodd: “Roedd yn bleser cael cwrdd â Sama, i'w llongyfarch ar ei llwyddiant yn STEM for Britain, a gweld y gwaith gwych mae hi a'i chydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn ei wneud.

A finnau’n gyn-seryddwr amatur a rhywun a swynir gan y gofod a'r cosmos, roedd ei hymchwil wedi creu argraff fawr arnaf - sy'n cyfrannu at ein dealltwriaeth ehangach o'r Bydysawd.

Stephen Doughty AS

Ychwanegodd Dr Vivien Raymond, darllenydd yn y Sefydliad Archwilio Disgyrchiant ym Mhrifysgol Caerdydd a goruchwyliwr PhD Sama: “Mae hyn yn gyflawniad gwych gan Sama.”

Hanner ffordd i mewn i'w PhD mae ei hymchwil eisoes wedi ennill sawl gwobr. Alla i ddim aros i weld beth fydd hi'n ei wneud yn y dyfodol!

Dr Vivien Raymond Reader
Gravity Exploration Institute

Mae STEM for BRITAIN, o dan gadeiryddiaeth Stephen Metcalfe AS a gofal y Pwyllgor Seneddol a Gwyddonol, wedi’i gynnal ers 1997 a’i nod yw helpu aelodau’r ddau Dŷ yn San Steffan i ddeall y gwaith ymchwil rhagorol sy’n cael ei wneud ym mhrifysgolion y DU gan ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.

Dysgwch ragor am enillwyr STEM for BRITAIN 2024.

Rhannu’r stori hon

Ar hyn o bryd, rydym yn gwahodd ceisiadau ar gyfer nifer o ysgoloriaethau EPSRC wedi'u hariannu'n llawn ac sydd ar gael o 1 Hydref ymlaen mewn ystod o feysydd ymchwil.