Ewch i’r prif gynnwys

Academyddion a gwleidyddion blaenllaw yn trafod yr heriau polisi mwyaf allweddol sy'n wynebu Cymru

12 Rhagfyr 2023

Mae dyn yn sefyll y tu ôl i lectern yn annerch pobl yn ystod digwyddiad
Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn siarad â’r rhai a oedd yn bresennol yn nigwyddiad dathlu dengmlwyddiant Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn y Senedd

Mae’r Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) wedi nodi ei chynllun i helpu i ddatrys tair o’r heriau mwyaf allweddol sy'n wynebu llunwyr polisïau Cymru.

Mae'r Ganolfan, sydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi treulio'r degawd diwethaf yn darparu tystiolaeth a wnaeth lywio polisïau Llywodraeth Cymru, yr awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus eraill.

Yn ystod digwyddiad yn y Senedd a ddathlodd ei phen-blwydd yn 10 oed, nododd Cyfarwyddwr WCPP Steve Martin ymrwymiad y Ganolfan i: fynd i'r afael ag anghydraddoldebau; yr amgylchedd a sero net; a lles cymunedol.

Cafwyd ei thystiolaeth ddiweddaraf sy’n cefnogi grŵp Her Sero Net Cymru 2035 ei chyhoeddi ar yr un diwrnod, ac mae'n amlinellu'r heriau a'r cyfleoedd sydd ynghlwm â datgarboneiddiosystem  ynni Cymru.

Gan weithio ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), mae'r Ganolfan wedi cyhoeddi partneriaeth sylweddol newydd er mwyn cefnogi cynnydd y sector cyhoeddus yng Nghymru tuag at gyrraedd sero net erbyn 2030 .

Mae’r Ganolfan hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf yn sgil ennill gwerth £5 miliwn o gyllid oddi wrth y Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) er mwyn ymchwilio i’r ffactorau sy'n effeithio ar iechyd pobl yn y rhanbarth.

Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae WCPP wedi cysylltu llunwyr polisi yng Nghymru ag ymchwilwyr blaenllaw o bob cwr o'r byd er mwyn helpu i ddatblygu ystod o atebion polisi ar bynciau sy'n amrywio, o gydraddoldeb hiliol i ddigartrefedd, Brexit, adferiad yn sgîl y pandemig, cau'r bwlch o ran cyrhaeddiad, unigrwydd, allgáu cymdeithasol, a’r sgiliau sydd eu hangen i bontio’n deg tuag at sero net.

Meddai Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: "Mae gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru le canolog wrth iddi gefnogi'r ffordd y caiff llunio polisïau Llywodraeth Cymru eu cynllunio, eu cyflwyno a’u gweithredu.

"Mae’r WCPP yn darparu cyngor sydd wedi'i wreiddio o ddifrif mewn tystiolaeth, mewn dealltwriaeth o ehangder y dystiolaeth ac, yn bwysicaf oll, y gallu i ddadansoddi a chyflwyno'r dystiolaeth.

"Mae gan y Ganolfan hefyd ddealltwriaeth o fyd gwleidyddol y llywodraeth. Mae hyd yn oed y cyngor gorau yn y byd yn dda i ddim heb ddealltwriaeth o’r ffordd y mae'n rhaid i'r llywodraeth fod yn weithredol wrth geisio rhoi polisïau ar waith yn effeithiol i bobl yng Nghymru."

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd CLlLC a Chyngor Rhondda Cynon Taf: "Mae ymrwymiad WCPP i ddarparu tystiolaeth arbenigol wedi bod yn hollbwysig wrth lunio polisïau effeithiol sydd o fudd uniongyrchol i'n cymunedau.

"Mewn cyfnod lle mae gwneud penderfyniadau gwybodus o’r pwys mwyaf, rydym yn cydnabod pwysigrwydd dulliau gweithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae ymroddiad WCPP i ymchwil drylwyr a dadansoddiadau craff wedi gwella ein gallu i lunio polisïau sy'n mynd i'r afael â'r anghenion a'r heriau unigryw y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn eu hwynebu."

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Wendy Larner: "Roedd Prifysgol Caerdydd wrth ei bodd yn cael ei dewis gan Lywodraeth Cymru yn le i sefydlu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac mae'n falch o'r llwyddiant y mae wedi'i chyflawni.

"Edrychwn ymlaen at barhau â’n gwaith ar y cyd â Chyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), Llywodraeth Cymru a’r llywodraeth leol dros y pum mlynedd nesaf er mwyn inni allu adeiladu ar rôl annatod y Ganolfan wrth iddi gefnogi llunio a gwireddu polisi yng Nghymru."

Dyma a ddywedodd ein Cyfarwyddwr, yr Athro Steve Martin: "Rydyn ni'n falch o'r rôl unigryw rydyn ni wedi'i chwarae dros y 10 mlynedd diwethaf wrth helpu llunwyr polisi yma yng Nghymru i fynd i'r afael â rhai o’r heriau sydd â’r brys mwyaf.

"Drwy ddechrau gyda'r cwestiynau a ofynnir yn aml gan arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ac uwch lunwyr polisi, rydym wedi gallu rhoi tystiolaeth ac arbenigedd awdurdodol ac annibynnol iddyn nhw, sy'n eu helpu i fedru nodi ymatebion polisi effeithiol a datrysiadau ymarferol.

"Mae cyd-weithio â rhwydwaith byd-eang o arbenigwyr ymchwil a pholisi mwyaf blaenllaw yn golygu ein bod ni’n gallu darganfod yr hyn a dreialwyd yn rhywle arall, a chan ein bod ni’n deall y cyd-destun yng Nghymru, gallwn fod o gymorth i lunwyr polisi wrth iddynt benderfynu yr hyn fydd yn gweithio orau iddyn nhw a'u cymunedau."

Rhannu’r stori hon

Mae ein hymchwilwyr yn gweithio ar draws disgyblaethau i fynd i’r afael â heriau pwysig sy’n wynebu cymdeithas, yr economi a’n hamgylchedd.