Ewch i’r prif gynnwys

Dehongli’r ôl-dywyn a ddaw yn sgil brecwast twll du

5 Rhagfyr 2023

Cylch ambr ystumio wedi'i osod ar ben cefndir du. Y delwedd o’r twll du M87
Dyma dwll du M87, sydd tua 55 miliwn o flynyddoedd golau i ffwrdd ac y credir ei fod yn 6.5 biliwn gwaith yn fwy enfawr na'n Haul, a oedd ymhlith y sampl a ddefnyddiwyd yn astudiaeth yr ymchwilwyr. Cydnabyddiaeth: Delwedd a ddiwygiwyd o’r Telesgop Event Horizon gan Stuart Rankin.

Mae ffordd hollol newydd o archwilio sut mae tyllau du actif yn ymddwyn pan fyddant yn  bwyta wedi cael ei darganfod gan dîm rhyngwladol o seryddwyr.

Canfuwyd bod sampl o dyllau duon actif yng nghanol 136 o alaethau yn disgleirio drwy olau microdon a phelydr-x yn yr un modd, waeth beth yw eu harchwaeth am y mater galaethog o’u cwmpas megis cymylau nwy o lwch a phlasma.

Dan arweiniad gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, dywed y tîm nad yw'r broses yn rhywbeth a ellid ei rhagweld o’n dealltwriaeth gyfredol o sut mae tyllau duon yn bwyta.

O’r hyn a ddeallir ar hyn o bryd, mae tyllau du actif yn gynhenid wahanol i’w gilydd yn dibynnu ar eu harchwaeth a chânt eu nodweddu gan strwythur eu creiddiau a'r ffordd y maent yn tynnu mater galaethol i mewn i’w hunain.

Serch hynny, canfu'r tîm efallai bod gan y tyllau duon hyn fwy o debygrwydd rhyngddynt nag a feddyliwyd yn flaenorol.

Gall eu canfyddiadau a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Monthly Notices of the Royal Astronomical Society:  Letters, gynnig gwybodaeth newydd sbon inni ar sut mae galaethau’n esblygu.

Dyma a ddywedodd Dr Ilaria Ruffa, prif awdur a chydymaith ymchwil ôl-ddoethurol yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd: “Ymddengys bod y tywyn microdon a phelydr-x a ganfyddir gennym yn yr ardaloedd o amgylch y tyllau duon hyn yn ymwneud yn uniongyrchol â'u màs ac yn tarddu o’r ffrydiau o blasma sy’n disgyn yn ddidrefn i mewn iddynt.

“Mae hyn yn wir i’r ddwy system sydd ag archwaeth enfawr sy'n bwyta bron i seren gyfan, fel ein Haul, bob blwyddyn, a'r rhai sydd â llai o archwaeth sy'n bwyta'r un faint o ddeunydd, ond hynny dros gyfnod o 10 miliwn o flynyddoedd.

“Roedd hyn yn sioc fawr inni oherwydd roeddem o’r farn o'r blaen y dylai ffrydiau o'r fath ddigwydd yn unig mewn systemau sy'n bwyta ar gyfraddau cymharol isel, tra yn y rhai sydd ag archwaeth enfawr y dylai’r twll du gael ei fwydo drwy lif o fater sy’n fwy trefnedig a chyson (a elwir fel arfer yn `y ddisg ymgasglu rhyngserol').”

Gwnaeth y tîm ddarganfod hyn wrth ymchwilio i'r cysylltiad rhwng y nwy oer a geir o amgylch tyllau duon actif a’r modd y caiff y rhain eu bwydo yn y sampl WISDOM o 35 o alaethau cyfagos a gipiwyd gan y Arae Milimetrau Fawr Atacama a'r Telesgop Mawr Iawn (ALMA) yn Chile.

Ffotograff o'r Arae Milimetrau Fawr Atacama a'r Telesgop Mawr Iawn (ALMA) yn Chile a dynnwyd gyda’r nos.
ALMA, sydd wedi'i leoli yn anialwch Atacama yn Chile, yw'r telesgop mwyaf pwerus ar gyfer arsylwi ar y Bydysawd clear - nwy moleciwlaidd a llwch. Cydnabyddiaeth: Sangku Kim/ESO

The team made the discovery while investigating the link between the cold gas around active black holes and how these are fuelled in the WISDOM sample of 35 nearby galaxies captured by the Atacama Large Millimeter/submillimeter Array (ALMA) of telescopes in Chile

Mae ein hastudiaeth yn awgrymu y gallai'r golau microdon rydyn ni'n ei ganfod mewn gwirionedd yn dod o'r ffrydiau hyn o blasma ym mhob math o dyllau du actif, sy’n newid ein barn ar sut mae'r systemau hyn yn bwyta mater, ac yn tyfu i fod yn fwystfil cosmig a hanner a welwn ni heddiw.

Dr Ilaria Ruffa Postdoctoral Research Associate
Astronomy Group
Cardiff Hub for Astrophysics Research and Technology

Mae'r cydberthnasau a arsylwyd gan y tîm hefyd yn darparu dull newydd ar gyfer amcangyfrif màs y tyllau du - rhywbeth mae seryddwyr yn credu sy'n hollbwysig er mwyn deall eu heffaith ar esblygiad galaethau ledled y Bydysawd.

Ychwanegodd y cyd-awdur a’r Darllenydd Dr Timothy Davis, hefyd o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae’r tyllau duon sy'n bodoli o fewn creiddiau’r galaethau o bwys mawr iddynt. Ac mae'n debyg na ddylent oherwydd, er ein bod bob amser yn meddwl am dyllau du fel y bwystfilod anferthol hyn sy'n bwyta popeth o'u cwmpas, maent mewn gwirionedd yn fach iawn ac yn ysgafn o ran eu pwysau yng nghyd-destun alaeth gyfan. Ond eto i gyd mae ganddynt ddylanwad di-disgyrchol diamgyffred dros fater sydd cannoedd a miloedd o flynyddoedd golau i ffwrdd oddi wrthynt. Mae hyn yn rhywbeth yr ydyn ni, yn seryddwyr, wedi bod yn pendroni drosto ers blynyddoedd lawer.

Mesur màs tyllau du, a sut maent yn cymharu â phriodweddau eu galaethau lletyol yw'r ffordd orau o ddechrau deall pam mae dirgeledigaeth o’r fath yn parhau. Mae ein dull newydd yn rhoi rhagor o wybodaeth inni am y broblem hon, ac wrth i’r genhedlaeth nesaf o offerynnau gael eu creu, bydd yn caniatáu inni ymchwilio i hyn yn dra manwl dros amser cosmig.

Dr Timothy Davis Ddarllenydd, Nghanolfan Ymchwil a Thechnoleg Astroffiseg Caerdydd

Wedi’i gyfansoddi o ymchwilwyr o Ganolfan Caerdydd ar gyfer Ymchwil a Thechnoleg Astroffiseg (CHART) a phartneriaid rhyngwladol o bob rhan o Ewrop, Canada a Japan, bwriad y tîm yw profi eu canfyddiadau ymhellach yn rhan o brosiect newydd sef “Arsylwadau Aml-donfedd o Ardaloedd Allyriant yng Ngwrthrychau Tywyll Niwclear” (WONDER) a arweinir gan Dr Ruffa.

Cafodd eu papur academaidd, 'A fundamental plane of black hole accretion at millimetre wavelengths’ ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn Monthly Notices of the Royal Astronomical Society: Letters.

Rhannu’r stori hon

Dyma Ysgol gyfeillgar, y mae’n hawdd troi ati, gydag ymrwymiad cryf i ragoriaeth wrth addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf mewn ffiseg a seryddiaeth.