Ewch i’r prif gynnwys

Hawliau carcharorion: Amser i ailfeddwl?

4 Awst 2023

Cafodd y cysyniad o hawliau carcharorion ei herio yn ystod seminar Cymdeithas Astudiaethau Cymdeithasol-Gyfreithiol (SLSA) a drefnwyd gan academyddion o Gaerdydd a Lerpwl.

Cyd-gynhaliodd Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd ac Ysgol y Gyfraith a Chyfiawnder Cymdeithasol Prifysgol Lerpwl y seminar ar 26 Gorffennaf, gan gynnwys academyddion o bob rhan o’r DG. Arweiniwyd y digwyddiad gan Dr Robert Jones a chyn-aelod Canolfan Llywodraethiant Cymru Dr Greg Davies, sydd wedi cyhoeddi ymchwil academaidd ar hawliau carcharorion yn ddiweddar.

Yn y seminar cyflwynwyd amrywiaeth o bapurau a oedd yn cynnig ‘gwerthusiad beirniadol’ o hawliau carcharorion. Dylai’r hawliau hyn ddarparu gwarant o amddiffyniadau i garcharorion yn wyneb pŵer y wladwriaeth. Fodd bynnag, clywodd y seminar mai anaml y mae’r hawliau hyn (gan gynnwys yr hawl i bleidleisio) wedi arwain at newid sylweddol, hyd yn oed ar ôl iddynt ymgyfreithio’n llwyddiannus.

Wrth i brif bleidiau gwleidyddol y DG ymrwymo i ehangu carchardai a dedfrydau o garchar, mae Canolfan Llywodraethiant Cymru yn cynnal ymchwil bellach ar garcharu i ymchwilio i’r goblygiadau i Gymru a’i dinasyddion.

Rhannu’r stori hon