Ewch i’r prif gynnwys

Cyllid awdurdodau lleol yng Nghymru ar “lwybr anghynaladwy”, medd adroddiad newydd

25 Hydref 2023

Tai teras yng Nghymru

Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn wynebu bwlch cyllidol o £744m erbyn 2027, yn ôl adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.

Daw’r adroddiad i’r casgliad y gallai defnyddio arian wrth gefn, cynyddu Treth Cyngor o fwy na 5%, a chyllid pellach gan Lywodraeth Cymru liniaru heriau cyllidol yn 2024-25. Ond tu hwnt i hynny, mae’n ymddangos bod cyllid awdurdodau lleol ar “lwybr anghynaladwy”, gyda’r bwlch ariannu yn tyfu bob blwyddyn.

Mae’r canfyddiadau hefyd yn amcangyfrif, os yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynyddu gwariant ar iechyd, ysgolion a gofal plant, y bydd angen dod o hyd i doriadau o £318 miliwn ym mhob maes arall erbyn 2027-28.

Dywedodd Guto Ifan o dîm Dadansoddi Cyllid Cymru: “Er bod gwasanaethau Llywodraeth Leol wedi’u harbed rhag y toriadau a gyhoeddwyd ar gyfer eleni, mae’r rhagolwg dros y blynyddoedd nesaf yn un anodd i gyllidebau lleol Cymru. Disgwylir i chwyddiant a chodiadau cyflog ostwng dros y blynyddoedd i ddod, ond mae pwysau gwariant dal yn debygol o fod yn fwy na’r cynnydd a ragwelir mewn cyllid. Gallai hyn gael effaith ddifrifol ar y ddarpariaeth o wasanaethau lleol.

“Yng nghyd-destun y toriadau dwfn mewn gwariant ers 2010, nid yw’n eglur sut y bydd modd cyflawni’r toriadau pellach i wasanaethau. Mae unrhyw gynnydd yng nghyllidebau awdurdodau lleol yn debygol o ddod o lefelau uwch o Dreth y Cyngor, fyddai’n cymryd cyfran mwy o arian o aelwydydd tlotach yng Nghymru. Mae hyn yn cryfhau’r achos dros ddiwygio’r Dreth Gyngor, a dylai unwaith eto annog trafodaeth ar ddefnyddio ffyrdd mwy blaengar o godi refeniw, megis cynyddu treth incwm ddatganoledig.”

Yn ôl y canfyddiadau, mae pwysau gwariant wedi bod yn fwy na’r twf mewn refeniw llywodraeth leol dros y ddwy flynedd diwethaf, er gwaethaf cynnydd sylweddol mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru. Un sbardun allweddol fu codiadau cyflog sylweddol i staff llywodraeth leol ac athrawon, er bod llawer o weithwyr wedi gweld toriadau cyflog mewn termau real.

Mae awdurdodau wedi lliniaru pwysau drwy ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn – a adeiladwyd yn ystod y ddwy flynedd flaenorol – a thrwy gynyddu Treth y Cyngor O 5.8% ar gyfartaledd eleni.

Mae ymchwilwyr yn amcangyfrif, erbyn 2027-28, y bydd dros bedair rhan o bump o’r cynnydd mewn refeniw llywodraeth leol yn dod o gynyddu Treth y Cyngor.

Ychwanegodd Guto Ifan: “Wrth gwrs, fel sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf, fe allai’r cyd-destun economaidd a chyllidol newid yn sylweddol. Mae’r diwygiadau diweddar i ddata economaidd y DG yn dangos yr ansicrwydd cynhenid mewn cynlluniau a rhagolygon cyllidol. Yn dilyn Etholiad Cyffredinol y DG y flwyddyn nesaf, gallai llywodraeth wahanol osod llwybr newydd ar gyfer gwariant cyhoeddus. Ond gyda’r llywodraeth bresennol a’r brif wrthblaid yn gwrthod ymrwymo i wariant ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus, rhaid i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol nawr bwyso a mesur y dewisiadau anodd sydd o’u blaenau.”

Rhannu’r stori hon

Yn ymgymryd â gwaith ymchwil arloesol ynghylch pob agwedd ar y gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraeth ac economi wleidyddol Cymru, yn ogystal â chyd-destun llywodraethu tiriogaethol ehangach y DU ac Ewrop.