Ewch i’r prif gynnwys

Mae modd sicrhau polisïau cyllid y cytundeb cydweithio o ystyried y rhagolygon cyllidol, yn ôl adroddiad

8 Rhagfyr 2021

Mae penderfyniadau gwariant llywodraeth y DG wedi rhoi hwb i gyllideb Cymru ac yn sgîl hyn mae uchelgeisiau'r cytundeb cydweithio rhwng llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru yn rhai fforddiadwy, yn ôl adroddiad.

Mae canfyddiadau Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn dangos mai’r amcangyfrif ar gyfer y gwariant o ddydd i ddydd y flwyddyn nesaf yw£1.6 biliwn yn uwch na'r hyn a ragwelodd dadansoddwyr ddeufis yn ôl, yn dilyn cyhoeddiad canghellor y DG ar y gyllideb. Ac eithrio cyllid COVID-19 yn 2021-22, bydd y gyllideb refeniw yn tyfu £2 biliwn y flwyddyn nesaf, a £2.9 biliwn erbyn 2024-25, yn ôl data'r adroddiad.

Mae'r ymchwilwyr yn disgwyl y bydd y GIG yn amsugno mwy na hanner y cynnydd a ragwelir o ran cyllid. Mae’r polisïau cychwynnol a gyhoeddwyd gan lywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru, gan gynnwys ehangu prydau ysgol yn rhad ac am ddim a darpariaeth gofal plant, hefyd yn debygol o elwa ar hyn.

Dyma’r hyn a ddywedodd y prif awdur Guto Ifan, Cydymaith Ymchwil yn Uned Dadansoddi Cyllid Cymru yn y Ganolfan: "Mae profiad y misoedd diwethaf wedi dangos unwaith eto yr effaith enfawr y gall polisïau cyllidol llywodraeth y DG ei chael ar rhagolygon cyllideb Cymru. Mae’r newid a gafwyd yn llywodraeth y DG tuag at gynnydd mewn trethi a gwariant adrannol uwch wedi gweddnewid gallu llywodraeth Cymru i fodloni pwysau gwariant ac ehangu gwasanaethau datganoledig yn ystod y blynyddoedd nesaf.

"Mae'r cilio a throi i ffwrdd o fwy na degawd o lymder cyllidol yn golygu bod polisïau yn y cytundeb cydweithio rhwng llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn edrych yn gyraeddadwy ac yn fforddiadwy ar y cyfan."

Dadansoddodd y tîm y cyllid a gadarnhawyd ar gyfer llywodraeth Cymru yn Adolygiad o Wariant 2021 llywodraeth y DG ym mis Hydref, ynghyd â'r rhagolygon diweddaraf ar gyfer refeniw datganoledig,er mwyn asesu'r rhagolygon ariannu ar gyfer cyllideb Cymru hyd at 2024-25.

Cafodd yr amcanestyniadau hyn eu cyfuno ag asesiadau o bwysau gwariant amrywiol sy'n wynebu’r gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, megis y GIG, gofal cymdeithasol ac ysgolion, er mwyn astudio rhai o'r opsiynau a'r cyfaddawdau sy'n wynebu llywodraeth Cymru wrth iddi baratoi i gyhoeddi ei chyllideb ddrafft yn ddiweddarach y mis hwn.

Er gwaethaf ansicrwydd parhaus y pandemig a’r ffaith bod yr amrywiolyn Omicron newydd wedi ymddangos, mae'r adroddiad o’r farn bod cyllid y GIG, a allai fod yn £530 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd yn ystod y tair blynedd nesaf, yn ddigon ar y cyfan i dalu am y pwysau sy'n gysylltiedig â COVID-19 a mynd i'r afael â'r ôl-groniad cynyddol yn y rhestrau aros.

Ond yn ôl yr ymchwilwyr, bydd y cynnydd hwn mewn gwariant cyfalaf ar y GIG i adfer yn sgîl y pandemig yn ogystal â buddsoddiadau oherwydd y newid yn yr hinsawdd yn arwain at ddewisiadau anodd o ran mathau eraill o wariant cyfalaf, o ystyried y gostyngiad yng ngrant y cyfalaf bloc a’r pwerau benthyca cyfalaf sy’n gyfyngedig iawn.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ragor o heriau yng ngwariant yr awdurdodau lleol o ran pwysau sylfaenol cost a galw, effeithiau parhaol y pandemig, a'r angen am wariant ychwanegol mewn ysgolion.

Ychwanegodd Guto Ifan: "Un cwestiwn allweddol i lywodraeth Cymru yw i ba raddau y dylai cyllid y llywodraeth ganolog dalu am y pwysau ariannol hyn yn hytrach na thrwy gynnydd yn y dreth gyngor. Nid oes amheuaeth y bydd y rhagolygon ar gyfer cyllid cartrefi yn heriol am beth amser i ddod.

"Mae ein hadroddiad yn dangos sut mae penderfyniadau gwariant a wna canghellor y DG yn parhau i gael effaith bendant ar yr hyn y gall llywodraeth Cymru ei gyflawni ar gyfer ei dinasyddion.

"Mae hyn yn golygu, wrth feddwl am gynaliadwyedd tymor hwy gwasanaethau cyhoeddus Cymru a’r cynigion polisi newydd, fod yn rhaid i lunwyr polisi Cymru fod yn ymwybodol o’r newidiadau posibl yng nghyfeiriad polisïau cyllidol y DG yn y dyfodol."

Darllenwch Rhagolygon Cyllideb Cymru 2021.

Rhannu’r stori hon