Ewch i’r prif gynnwys

Datganoli, annibyniaeth a diffyg ariannol Cymru

12 Ionawr 2023

Welsh flag

Mae cyhoeddiad academaidd newydd yn dadlau bod yn rhaid i drafodaethau cyfansoddiadol am ddyfodol Cymru ystyried tanberfformiad economaidd hirsefydlog y wlad fel rhan o’r Deyrnas Gyfunol.

Yn ôl yr ymchwilwyr, mae trosglwyddiadau cyllidol o'r DG i Gymru yn “gwneud y nesaf peth i ddim” i wella sefyllfa economaidd Cymru. Fodd bynnag, mae’n anochel y byddai dod â'r trosglwyddiadau hynny i ben drwy ddod yn wlad annibynnol yn gorfodi Cymru i wneud “newidiadau sylweddol o ran polisi treth a gwariant”.

Yn yr erthygl academaidd, a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn blaenllaw y National Institute Economic Review, mae Guto Ifan, Cian Siôn a Daniel Wincott, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, yn rhoi cyd-destun i'r bwlch cyllidol tybiannol rhwng trethiant a gwariant yng Nghymru. Mae'r asesiad yn dangos gostyngiad sylweddol yn incwm Cymru o'i gymharu â'r DG ers diwedd y 1970au, yn ogystal â dirywiad economaidd cysylltiedig o ganlyniad i golli diwydiant cynhyrchiol.

Mae'r erthygl yn trafod hanes diweddar y datblygiadau cyfansoddiadol yng Nghymru, gan nodi bod y berthynas rhwng llywodraethau Cymru a'r DG yn parhau i fod yn un anodd, a bod Llywodraeth Cymru wedi dadlau fwyfwy o blaid undebaeth fwy gwirfoddol. Yn y cyfamser, mae mudiad lleiafrifol, ond un sy’n cynyddu o ran maint dros annibyniaeth, wedi sefydlu ei hun ar dirwedd wleidyddol Cymru, gan greu goblygiadau i ddyfodol yr undeb a chyfeiriad gwleidyddiaeth Cymru.

Gan gysylltu bodolaeth y bwlch cyllidol â'r bygythiad cyfyngedig hyd yma o ymwahanu yng Nghymru, mae'r awduron yn dadlau'n gryf y byddai angen lefelau 'trawsnewidiol' o adnoddau ychwanegol i newid amodau economaidd sylfaenol y genedl tra ei bod yn rhan o'r DG.

Ond byddai Cymru annibynnol yn cronni dyledion yn gyflym pe bai'n cynnal yr un polisïau treth a gwariant â’r rhai sydd ar waith fel rhan o'r DG. Pe byddai Cymru’n wladwriaeth annibynnol, byddai'n rhaid iddi wneud dewisiadau arwyddocaol ac anodd ynghylch polisïau cyllidol ac ariannol, gan gynnwys ystyried creu arian cyfred newydd. Byddai gan y cysylltiadau masnach trawsffiniol â gweddill y DG, nad ydym yn gwybod amdanynt eto, rôl hanfodol.

Rhannu’r stori hon