Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd yn ymuno ag Wythnos Ymchwil Agored GW4

23 Hydref 2023

ymchwilwyr ifanc wrth eu gwaith mewn labordy

Bydd Prifysgol Caerdydd yn dangos sut mae'n gwneud ymchwil yn fwy hygyrch, yn fwy tryloyw, yn fwy gweladwy i'r cyhoedd ac yn haws i’w hatgynhyrchu.

Mae'r Brifysgol yn ymuno â'i phartneriaid yng Nghynghrair GW4 i lansio Wythnos Ymchwil Agored gyntaf GW4 2023.

Bydd y digwyddiad yn rhoi sylw i arferion ymchwil agored gorau’r pedwar partner Cynghrair - Caerfaddon, Bryste, Caerdydd ac Exeter – prifysgolion mwyaf ymchwil ddwys ac arloesol y DU.

Dan arweiniad Prifysgol Bryste, mae'r digwyddiad eleni rhwng 20 a 24 Tachwedd 2023, gan ganolbwyntio ar y thema Theori Newid.

Mae mabwysiadu arferion Ymchwil Agored yn gwella gonestrwydd o ran ymchwil, yn ychwanegu at ansawdd yr allbynnau ymchwil drwy ragor o gydweithio, ac yn gwella gwerth cyhoeddus ymchwil trwy sicrhau fod pawb yn gallu ei chyrchu’n rhwydd.

Yn ôl yr Athro Roger Whitaker, Y Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter ym Mhrifysgol Caerdydd: Mae gonestrwydd ymchwil, moeseg ac Ymchwil Agored yn rhan hanfodol o weledigaeth Prifysgol Caerdydd, ac mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i sicrhau bod Caerdydd yn arweinydd yn y meysydd hyn. Mae cymryd rhan yn yr Wythnos Ymchwil Agored, ochr yn ochr â'n cydweithwyr o’r Gynghrair GW4, yn golygu ein bod yn gallu parhau â’n cenhadaeth o ran bod ein staff a'n myfyrwyr yn gwneud ymchwil drylwyr a dibynadwy i'r safon uchaf. Mae'n wych gallu defnyddio'r wythnos hon yn gyfle i arddangos manteision Ymchwil Agored i gynulleidfaoedd ledled y byd academaidd a'r tu hwnt i hynny.”

Yn ystod yr wythnos bydd digwyddiadau ar-lein, hybrid a wyneb yn wyneb, sy'n rhychwantu ystod amrywiol o bynciau ac yn agored i aelodau prifysgolion Cynghrair GW4. Ymhlith y pynciau dan sylw bydd:

  • Dydd Llun 20 Tachwedd - Yr Amgylchedd Sylfaenol: Gwneud pethau’n Bosibl
  • Dydd Mawrth 21 Tachwedd - Amgylchedd o Alluogi: Gwneud pethau’n Rhwydd
  • Dydd Mercher 22 Tachwedd - Cymunedau: Gwneud pethau’n Normadol
  • Dydd Iau 23 Tachwedd - Cymhellion: Gwneud i bethau Weithio
  • Dydd Gwener 24 Tachwedd - Polisi: Gwneud yn glir ei fod yn Angenrheidiol

Bydd nifer o ddigwyddiadau hefyd yn agored i bawb, gan gynnwys y sawl sy’n rhan o sefydliadau y tu allan i Gynghrair GW4, grwpiau cynulleidfaoedd rhyngwladol, ac aelodau o'r cyhoedd sydd â diddordeb yn atgynhyrchioldeb, tryloywder a gonestrwydd ymchwil.

Rhestrir manylion llawn y digwyddiadau, gan gynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau sy'n agored i bawb, ar dudalennau digwyddiadau Wythnos Ymchwil Agored GW4. Mae'n bosibl y bydd sesiynau yn cael eu recordio a’u rhoi ar-lein er mwyn i bobl eu gwylio yn ôl.

Mae Cynghrair GW4 yn sefyll ar flaen y gad ym maes safonau ymchwil, ac mae’r Wythnos Ymchwil Agored yn ffurfio rhan o ymrwymiad y Gynghrair i sicrhau bod ei hymchwilwyr yn mabwysiadu arfer gorau wrth ymgymryd ag ymchwil.

Dywedodd yr Athro Phil Taylor, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil a Menter Prifysgol Bryste: “Yn ystod Wythnos Ymchwil Agored eleni, a ddatblygwyd gyda chefnogaeth arbenigwyr o bob un o bedwar sefydliad Cynghrair GW4, bydd digwyddiadau a gweithgareddau gwych a fydd yn helpu i amlygu pwysigrwydd Ymchwil Agored, lledaenu gwybodaeth, a thaflu goleuni ar enghreifftiau presennol o arfer gorau sy'n digwydd ledled Cynghrair GW4. Dyma'r tro cyntaf i Gynghrair GW4 ddod at ei gilydd i gydweithio ar Wythnos Ymchwil Agored o'r raddfa hon, ac rydym yn gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn ymuno â ni ac yn dysgu rhagor am ymchwil agored.”

Yn ystod yr wythnos, bydd y prifysgolion hefyd yn dod at ei gilydd i gyflwyno Gwobrau Ymchwil Agored GW4 2023 ar y cyd am y tro cyntaf erioed a gall pob ymchwilydd mewnol (gan gynnwys myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig) ym mhob disgyblaeth ar draws pedair prifysgol y Gynghrair gystadlu.

Bydd gwobrau yn cael eu dyfarnu am y cyflwyniadau gorau mewn pedwar categori:

  • Gwella Ansawdd
  • Ehangu Cyrhaeddiad
  • Sesiwn Posteri
  • Y Wobr am y Traethawd Gorau gan Ymchwilydd ar Ddechrau eu Gyrfa (ECR)

Panel o feirniaid o bob rhan o’r prifysgolion sy’n pennu ar y rhestrau byrion ar gyfer y Gwobrau Ymchwil Agored a bydd y gwaith yn cael ei feirniadu yn ôl y gallu i ddangos arferion ymchwil agored.

I ddarganfod rhagor am y gwobrau, gan gynnwys manylion ynghylch sut i gyflwyno cais, cliciwch yma.

Rhannu’r stori hon

Dysgwch sut mae ein hymchwil arloesol yn cael effaith yn fyd-eang.