Rhedwyr Hanner Marathon Caerdydd #TeamCardiff yn codi dros £27,000
11 Hydref 2023
Ddydd Sul 1 Hydref, gwnaeth dros 100 o gynfyfyrwyr, myfyrwyr a staff redeg Hanner Marathon Principality Caerdydd yn rhan o #TeamCardiff.
Roedd rhedwyr wedi wynebu amodau heriol i gwblhau'r 13.1 milltir i godi arian hanfodol ar gyfer niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, ac ymchwil canser ym Mhrifygsol Caerdydd.
Hyd yn hyn, mae'r tîm wedi codi £27,700, a fydd yn helpu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr canser a niwrowyddoniaeth. Bydd eu hymdrechion yn helpu i gyflymu darganfyddiadau a datblygu triniaethau ar gyfer ystod o ganserau, clefyd Alzheimer a Parkinson, ADHD, iselder ysbryd, a sgitsoffrenia.
Roedd gan lawer o'n rhedwyr resymau personol am redeg yr Hanner Marathon ac roeddent yn codi arian i ddathlu neu er cof anwyliaid.
Ar y diwrnod, cawsant gefnogaeth gan filoedd o wylwyr, ond derbynion nhw hwb ychwanegol ar yr 8fed Filltir yng ngorsaf codi hwyl #TeamCardiff. Daeth cefnogwyr, teulu, ffrindiau, Dylan y Ddraig, a Band Pres Prifysgol Caerdydd ynghyd i greu awyrgylch gwych a rhoi'r anogaeth angenrheidiol i'n rhedwyr i fynd i'r afael â'r 5 milltir olaf i'r llinell derfyn.
https://youtu.be/wpf98V8h_C8?si=wpGGFPYb6Z7NDfQb
Ar ôl y ras, cafodd y rhedwyr blinedig dylinau am ddim gan fyfyrwyr Ffisiotherapi o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd.
Rydym mor ddiolchgar i'n holl redwyr #TeamCardiff yn ogystal â'r gwirfoddolwyr am greu digwyddiad mor wych. Diolch.
Cefnogwch #TeamCardiff
Gallwch ddal i gefnogi ein rhedwyr #TeamCardiff drwy eu tudalennau JustGiving unigol neu drwy gyfrannu at y tîm cyfan.
Ymunwch â’r tîm yn 2024
Diddordeb mewn rhedeg gyda #TeamCardiff y flwyddyn nesaf? Gallwch nawr rag-gofrestru eich diddordeb yn Hanner Marathon Caerdydd 2024.
Fel arall, gallwch Ddewis eich Her a chodi arian mewn ffordd sy’n addas i chi. Os hoffech chi ddarganfod mwy am godi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd, cysylltwch â Steph Cuyes, Swyddog Codi Arian Cymunedol drwy donate@caerdydd.ac.uk.