Ewch i’r prif gynnwys

Mae 48% o blant oedran cynradd yng Nghymru’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd, yn ôl adroddiad

12 Hydref 2023

merched yn defnyddio ffôn clyfar gyda'u gilydd

Mae bron i hanner (48%) o blant Cymru rhwng saith a 11 oed yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd, yn ôl arolwg dan arweiniad academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cyflwynir yr Arolwg o Iechyd a Lles Myfyrwyr Ysgol Gynradd Rhwydwaith Ymchwil Iechyd yr Ysgolion (SHRN) mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mae ei arolwg o bobl ifanc rhwng 11 a 16 oed mewn ysgolion uwchradd yn un hirsefydlog ac mae’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei effaith ar bolisïau ac ymarfer. Y cylch diweddaraf hwn o ddata yw'r cyntaf i ymchwilio i farn plant iau rhwng saith a 11 oed. Cymerodd cyfanswm o 354 o ysgolion cynradd a 32,606 o ddisgyblion yng Nghymru ran yn yr arolwg dienw.

Mae’r prif ganfyddiadau'n dangos:

  • Rhoddodd bron i hanner (48%) yr holl ddysgwyr wybod eu bod yn defnyddio safleoedd neu apiau’r cyfryngau cymdeithasol ychydig o weithiau’r wythnos neu bob dydd.
  • Ar y cyfan, rhoddodd y rhan fwyaf o’r disgyblion (63%) wybod bod ganddyn nhw ffôn clyfar. Er bod gan leiafrif o ddysgwyr Blwyddyn 3 (43%) eu ffôn clyfar eu hun, mae cynnydd serth wedi bod yn y berchnogaeth yn ôl oedran, gan fod pump ym mhob chwe dysgwr ym Mlwyddyn 6 (83%) yn berchen ar un.
  • Rhoddodd bron i hanner (46%) yr holl ddysgwyr wybod eu bod wedi cael eu bwlio yn yr ysgol yn ystod yr ychydig o fisoedd diwethaf, a rhoddodd 28% o ddysgwyr Blwyddyn 6 wybod eu bod wedi cael eu seiberfwlio yn ystod yr ychydig o fisoedd diwethaf.
  • Rhoddodd llai na hanner y dysgwyr wybod eu bod yn ymarfer corff bedair gwaith neu ragor yr wythnos.
  • Cytunodd y rhan fwyaf (90%) o ddysgwyr fod eu hathrawon yn poeni amdanyn nhw, ac mae 89% yn cytuno bod eu hathrawon yn eu derbyn fel y maen nhw.
  • Rhoddodd bron i ddwy ran o dair (62%) o'r dysgwyr wybod bod ganddyn nhw broblemau cysgu weithiau neu bob amser.

Dyma a ddywedodd yr Athro Simon Murphy, Cyfarwyddwr y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae’r Rhwydwaith wedi bod yn fodel ymchwil hynod lwyddiannus gan fod pob ysgol uwchradd prif ffrwd yng Nghymru yn bartneriaid inni. Mae hyn yn cynnwys arolygon i ddysgwyr ac ysgolion bob dwy flynedd, gan ddal cipolwg rheolaidd ar fathau o ymddygiad iechyd a lles pobl rhwng 11 a 16 oed.

“Fodd bynnag, mae ffocws ar y glasoed yn unig yn rhy hwyr i lawer o bobl ifanc. Mae ehangu’r Rhwydwaith i ysgolion cynradd yn gyfle i weithio mewn ffordd gydgysylltiedig ar draws plentyndod a’r glasoed, ac yn ffordd o ddeall a chefnogi digwyddiadau megis pontio i'r ysgol uwchradd yn well.

Dyma a ddywedodd Dr Kelly Morgan, uwch-gymrawd ymchwil yn DECIPHer: “Mae'r canfyddiadau hyn yn cynnig dealltwriaeth newydd i wahanol agweddau ar iechyd a lles plant. Mae'r ffigurau'n dangos bod technoleg yn chwarae rhan enfawr ym mywydau plant heddiw ac mae angen mwy o ymchwil i ddeall yn llawn yr effaith y mae'n ei chael ar ddysgu yn ogystal â’r cysyniad o ymgysylltiad â’r byd ac iechyd meddwl. Yr hyn sydd hefyd yn amlwg o lawer o'r materion a gwmpaswyd gennym yw bod pobl ifanc o deuluoedd llai cefnog yn cael canlyniadau llai cadarnhaol ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen ymchwilio ymhellach iddo i ddeall sut mae'n effeithio ar blant wrth iddyn nhw dyfu i fod yn oedolion.

“Rydyn ni’n ddiolchgar i bob ysgol, disgybl a rhiant am weithio gyda ni ar yr ymchwil newydd a phwysig hon.”

Dyma a ddywedodd Emily van de Venter, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae cyflwyno'r Arolwg o Iechyd a Lles Myfyrwyr Ysgol Gynradd yn ddatblygiad o bwys i Gymru, gan ei fod yn cynnig gwybodaeth werthfawr am y ffactorau sy'n dylanwadu ar iechyd a lles plant ifanc.

“Mae'r canfyddiadau ynghylch y defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol ymhlith plant ysgol gynradd yn destun pryder ac yn pwysleisio pwysigrwydd cyflwyno Bil Diogelwch Ar-lein y DU yn ddiweddar. Er bod cwmnïau’r cyfryngau cymdeithasol yn gosod cyfyngiadau oedran nid yw'r rhain yn cael eu gorfodi na'u rheoleiddio'n dda Nod y Bil Diogelwch Ar-lein yw mynd i'r afael â hyn. Mae hefyd yn bwysig i oedolion (yn rhieni, gofalwyr, ac athrawon) fod yn ymwybodol o’r defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol ymhlith plant iau a siarad â nhw am fathau posibl o niwed. Mae addysg gynnar am y defnydd hwn a chamau gweithredu priodol i fynd i'r afael â seiberfwlio yn hollbwysig i alluogi’r defnydd cadarnhaol o'r cyfryngau cymdeithasol yn hytrach na’r defnydd niweidiol ohonyn nhw.”

Mae’r adroddiad llawn ar gael yma.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.