Ewch i’r prif gynnwys

Plant a ddechreuodd yn yr ysgol uwchradd yn 2021 yn fwy tebygol o nodi bod ganddynt symptomau iselder uwch, yn ôl dadansoddiad

2 Awst 2022

O’u cymharu â phlant a ddechreuodd yn yr ysgol uwchradd yn 2019, roedd plant yng Nghymru a ddechreuodd ym mlwyddyn saith ym mis Medi 2021 yn llawer mwy tebygol o nodi eu bod â symptomau iselder uwch, yn ôl adroddiad gan Brifysgol Caerdydd.

Dangosodd y papur briffio, sy'n dadansoddi ymatebion y ddwy don a oedd yn rhan o Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN) 2021, yn dilyn y cyfnod clo cenedlaethol ac ailagor ysgolion yng Nghymru, fod 21% o blant ym mlwyddyn saith wedi nodi symptomau iselder uwch, i fyny o 15% yn 2019.

Y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n arwain o ran yr Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr a gynhelir bob yn ail flwyddyn yng Nghymru. Yr arolwg diweddaraf, a gynhaliwyd rhwng mis Medi 2021 a mis Ionawr 2022, oedd yr ymateb mwyaf i'r arolwg hyd yma, a chymerodd mwy na 120,000 o bobl ifanc 11-16 oed o 202 o ysgolion yng Nghymru ran ynddo.

Casglwyd data arolwg 2019 ychydig cyn canfod COVID-19, a chynhaliwyd yr arolwg diweddaraf ddwy flynedd yn ddiweddarach – sef 18 mis ar ôl dechrau'r pandemig.

Dyma a ddywedodd Dr Nicholas Page, Cydymaith Ymchwil yn DECIPHer, a arweiniodd y dadansoddiad: “Maepontio i'r ysgol uwchradd yn gyfnod sy’n gallu bod yn llawn straen a phryder cynyddol, ac mae'r canfyddiadau hyn yn awgrymu ei bod yn bosibl bod teimladau o'r fath yn uwch ymhlith pobl ifanc yng Nghymru a ddechreuodd yn yr ysgol uwchradd yn 2021, yn dilyn y tarfu yn sgîl y pandemig.”

Yn seiliedig ar yr ymatebion i'r Holiadur Hwyliau a Theimladau byr, dangosodd y dadansoddiad hefyd fod gynnydd cyffredinol wedi bod yng nghanran y plant a nododd symptomau iselder uwch yn 2021 (28%) o'i chymharu â 2019 (24%). Ni chafwyd unrhyw newid ymhlith bechgyn, sy'n awgrymu bod y cynnydd hwn wedi digwydd yn sgîl cyfraddau uwch ymhlith merched (o 33% i 39%) a nifer fach o ddisgyblion anneuaidd eu rhywedd (o 61% i 78%). Plant ym mlwyddyn un ar ddeg oedd â'r nifer uchaf o anawsterau iechyd meddwl o’u cymharu â grwpiau blwyddyn eraill, a nododd 36% o’r rhain symptomau iselder uwch yn 2021, i fyny o 33% yn 2019.

Dyma a ddywedodd yr Athro Simon Murphy, Cyfarwyddwr DECIPHer ac arweinydd SHRN: “Mae'r canlyniadau hyn, a gasglwyd cyn y pandemig, ac wedyn 18 mis ar ôl iddo dechrau, yn rhoi cipolwg pwysig ar y newidiadau yn iechyd meddwl a lles pobl ifanc yn ystod y cyfnod hwn. Er nad yw'n bosibl dweud a yw'r dirywiad yn iechyd meddwl pobl ifanc wedi bod oherwydd y pandemig neu oherwydd mai dyma’r duedd gyffredinol, bydd yn bwysig parhau i fonitro'r dangosyddion hyn i gynorthwyo’r ymdrechion i adfer yn sgîl COVID-19 yng Nghymru.”

Archwiliodd y papur briffio hefyd newidiadau o ran lles meddwl ac unigrwydd pobl ifanc dros y cyfnod hwn.  Datgelodd y canfyddiadau hyn gostyngiad bach ond sylweddol mewn lles meddyliol rhwng 2019 a 2021, yn gyffredinol ac ar draws y rhan fwyaf o grwpiau demograffig.  Roedd cynnydd bach ar y cyfan hefyd yng nghyfran y bobl ifanc sy'n adrodd eu bod yn aml yn teimlo'n unig (o 12% i 14%), ond ni chafodd hyn gefnogaeth ymysg yr holl grwpiau a astudiwyd.

Partneriaeth yw SHRN rhwng y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth ym maes Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) ym Mhrifysgol Caerdydd, Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymchwil Canser y DU. Ariennir y bartneriaeth gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Adran Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn ogystal ag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r ysgolion yn 2021 yn cynnwys pob ysgol uwchradd a chanol a gynhelir yng Nghymru.

Mae'r adroddiad llawn i gyd yma: https://www.shrn.org.uk/briffio-imll-2022

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.