Ewch i’r prif gynnwys

Penodi arbenigwr ym maes rheoli plâu yn gynaliadwy, yn Athro er Anrhydedd

5 Hydref 2023

Dr Owen Jones

Mae arloeswr ym maes rheoli plâu yn gynaliadwy wedi ei benodi’n Athro er Anrhydedd gan Brifysgol Caerdydd.

Mae Dr Owen Jones, cynghorydd masnachol a rhanddeiliad yn y maes diwydiant sy'n arbenigo mewn masnacheiddio ymchwil, wedi cydweithio ers blynyddoedd lawer ag arbenigwyr yn Ysgol Cemeg y Brifysgol.

Mae’r penodiad yn cydnabod ei gyfraniad eithriadol i faes rheoli plâu sy’n bryfed, a’i gyfraniadau pwysig at ddatblygiadau diweddar yn ymchwil Prifysgol Caerdydd.

Yn un o'r ymchwilwyr cyntaf i fod yn gweithio i ddod o hyd i opsiynau cynaliadwy yn hytrach na phlaladdwyr synthetig, mae ffocws Dr Jones wedi bod ar fioblaladdwyr, opsiynau biolegol sy’n bodoli eisoes ym myd natur a all gymryd lle plaladdwyr confensiynol.

Mae bioblaladdwyr yn llai gwenwynig yn gynhenid felly na phlaladdwyr confensiynol; yn wir mae plaladdwyr confensiynol yn cael eu rheoleiddio’n fwyfwy felly ac mewn nifer o achosion yn cael eu gwahardd. Ar ben hynny, yn gyffredinol, dim ond effeithio ar y pla dan sylw mae bioblaladdwyr - yn wahanol i'r opsiynau cemegol, a all gael effeithiau dinistriol ar fywyd gwyllt.

Yn ystod ei amser yn entomolegydd ymchwil ym Mhrifysgol Southampton, fe fu i Dr Jones arloesi’r ymarfer o ddefnyddio fferomonau pryfed i reoli plâu sy’n bryfed a hynny ar hyd ystod meysydd amaethyddiaeth, coedwigaeth ac iechyd y cyhoedd. Yna sefydlodd y cwmni, a ddaeth maes o law i ddwyn yr enw AgriSense BCS Ltd, cwmni sy'n canolbwyntio ar sicrhau masnacheiddio fferomonau pryfed ar gyfer rheoli plâu ledled y byd.

Ers 2012, mae Dr Jones wedi bod yn bartner arweiniol yn Lisk & Jones Consultants Ltd yn arbenigo ym maes defnyddio cynhyrchion biolegol ar gyfer rheoli plâu, gan ganolbwyntio ar fferomonau a semiogemegion eraill.

“Mae’n anrhydedd mawr ac rwy’n hynod ddiolchgar i’r Ysgol Cemeg a Phrifysgol Caerdydd am roi’r teitl Athro Er Anrhydedd i mi; rydym wedi cydweithio’n llwyddiannus dros flynyddoedd lawer ac rwy’n gobeithio ein bod wedi creu posibiliadau newydd ar gyfer semiogemegion ym maes rheoli plâu sy’n bryfed trwy weithio gyda’n gilydd.” 

Dr Owen Jones

Mae perthynas Dr Jones â Phrifysgol Caerdydd yn ymestyn dros sawl degawd ers i Brifysgol Caerdydd gydweithio ag Agrisense ar brosiect gan y Comisiwn Ewropeaidd sy'n astudiaeth o’r modd y defnyddir semiogemegion wrth reoli plâu sy’n effeithio ar goed olewydd.

Yn fwyaf diweddar, mae ei arbenigedd wedi bod yn ganolog i brosiectau dan arweiniad Caerdydd gan gynnwys datblygiad arloesol diweddar ym maes technegau cynhyrchu systemau semiogemegol newydd ar gyfer diogelu cnydau, a gwaith a ariannwyd gan Sefydliad Bill a Melinda Gates (BMGF) ar ‘trapiau siwgr’ ar gyfer mosgitos sy’n lledaenu afiechydon.

Mae ei waith yn cynnwys rheoli treialon maes yn y DU ac ar gyfandir Ewrop, yn ogystal â rhoi hyfforddiant i ymchwilwyr ôl-raddedig ym maes technolegau semiogemegol.

Wrth groesawu’r penodiad, cydnabu’r Rhag Is-Ganghellor yr Athro Rudolf Allemann gyfraniad Dr Jones: “Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu rhoi’r teitl anrhydeddus hwn i Dr Jones, sydd wedi cael cymaint o effaith ar y maes hynod bwysig hwn ac ar ddyfodol amaethyddiaeth gynaliadwy.

“Mae Owen yn gydweithiwr sy’n dod ag arbenigedd amhrisiadwy i’n Prifysgol o ran masnacheiddio ymchwil. Mae trosglwyddo gwybodaeth rhwng y byd academaidd a’r byd diwydiant yn hanfodol at ddibenion sicrhau bod ein hymchwil yn cael yr effaith gymdeithasol fwyaf posibl ar raddfa fyd-eang.”

Yr Athro Rudolf Allemann Pro Vice-Chancellor, International and Student Recruitment and Head of the College of Physical Sciences and Engineering

Ychwanegodd yr Athro John Pickett o Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd, sydd wedi gweithio’n agos gyda Dr Jones ers blynyddoedd lawer: “Mae gwaith Owen wedi bod yn hollbwysig i ddatblygiad rheoli plâu yn gynaliadwy ar raddfa fyd-eang.

“Ni ellir gorbwysleisio ei gyfraniad i Brifysgol Caerdydd a'r Ysgol Cemeg; y tu hwnt i’w waith gyda phrosiectau ymchwil penodol, mae wedi bod yn aelod o fwrdd Cronfa Partneriaeth Caerdydd, Bwrdd Cynghori Rhwydwaith Arloesedd y Brifysgol a Bwrdd Arloesedd ac Ymgysylltu Prifysgol Caerdydd.”

Yr Athro John Pickett Distinguished Honorary Professor

“Mae’r penodiad yn gydnabyddiaeth o berthynas sy’n estyn dros sawl degawd, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio’n agos ag ef yn y dyfodol.”

Cyhoeddodd Canghellor y Brifysgol, y Fonesig Jenny Randerson, y penodiad mewn digwyddiad diweddar yn Nhŷ’r Cyffredin.

Rhannu’r stori hon

Call us on 0800 801750 to find out how our research can help your organisation.