Ewch i’r prif gynnwys

Y rhai sy’n torri rheolau ac yn creu newid: cynfyfyrwyr (tua)30 oed yn cael cryn effaith

1 Tachwedd 2022

Image of Alex Davis with Dan Bickerton and Alex's wife, Kathryn
30ish winner Alex Davis with Dr Daniel Bickerton, School of Music Senior Lecturer, and Alex's wife Kathryn (L-R)

Bu Gwobrau(tua)30 oed cyntaf y Brifysgol yn dathlu llwyddiannau cynfyfyrwyr sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned, a'r cyfan cyn eu bod yn 30 oed. Wel, (tua)30 oed.

Gan osgoi’r fformat traddodiadol o gael rhestr o '30 o dan 30', roedd y seremoni wobrwyo’n agored i gynfyfyrwyr o dan 30 neu dros 30 sy'n teimlo eu bod (tua)30 oed. Cafodd y Gwobrau eu creu i gydnabod cynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sydd wedi creu newid, arloesi a thorri tir newydd. Cafwyd ymateb anhygoel, gyda bron i 300 o enwebiadau yn cael eu cyflwyno. Wel, (tua)300.

Cafodd cynfyfyrwyr o bob cwr o'r byd ac o ystod eang o ddiwydiannau eu henwebu naill ai ganddyn nhw eu hunain neu gynfyfyrwyr eraill, staff neu gydweithwyr.

Gwahoddwyd enillwyr (tua)30 oed i'r digwyddiad gwobrwyo cyntaf yn adeilad arloesol y Brifysgol, sbarc. Arweiniydd y noson oedd Cadeirydd y Cyngor a'r cynfyfyriwr Pat Younge (BSc 1987). Cyflwynwyd y digwyddiad gan y cynfyfyriwr Babita Sharma (BA 1998). Daeth tua 70 o gynfyfyrwyr, gwesteion a staff i'r noson arbennig hon, gyda chynfyfyrwyr yn teithio o UDA, Canada ac Ewrop i dderbyn eu gwobrau.

Mae cynfyfyrwyr y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ymhlith y rhestr ddisglair o enillwyr, gan gynnwys y cynfyfyriwr Alex Davis (BMus 2015, MA 2016) o'r Ysgol Cerddoriaeth.

Ers graddio, mae Alex nid yn unig wedi rhagori yn ei lwybr gyrfa fel cerddoriaeth, ond mae hefyd wedi cymryd camau breision i wella dyheadau cymuned heriol ac amrywiol o fyfyrwyr yn Dagenham, Essex.

Ymunodd Alex pan oedd yr ysgol yn newydd sbon a sefydlodd “prosiect y band mawr” a ariannwyd gan sefydliad Andrew Lloyd Webber er mwyn i bob disgybl CA3 ddysgu sut i chwarae offeryn ac i chwarae yn rhan o ensemble jazz. Fe greodd hefyd 'Rhaglen Gyfoethogi' sy'n galluogi pob grŵp blwyddyn, pob blwyddyn i fynd i brifysgol y gallent astudio ynddi.

Mae Alex wedi meithrin cysylltiadau â Phrifysgol Caerdydd i greu 'Digwyddiad Band Mawr' blynyddol ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 9. Mae'n hyrwyddwr dros gydraddoldeb, amrywiaeth, a chynwysoldeb yn y celfyddydau. Mae'n parhau i drawsnewid bywydau disgyblion yn y rhan hon o Lundain, ac mae llawer ohonynt bellach yn y chweched dosbarth ac ar fin cyflwyno ceisiadau i astudio mewn prifysgol neu conservatoire.

Darllenwch y restr lawn o enillwyr (tua)30 oed 2022.

Rhannu’r stori hon