Ewch i’r prif gynnwys

Grŵp ymchwil newydd yn mynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern a chynaliadwyedd cymdeithasol

12 Medi 2023

A group of members stood at the The Modern Slavery and Social Sustainability Research Group
The Modern Slavery and Social Sustainability Research Group

Mae grŵp ymchwil newydd a sefydlwyd gan Ysgol Busnes Caerdydd a SPARK, Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, yn dod ag arbenigwyr academaidd a phartneriaid allanol ynghyd i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern a chynaliadwyedd cymdeithasol.

Y Grŵp Ymchwil i Gaethwasiaeth Fodern a Chynaliadwyedd Cymdeithasol yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru a’r DU.

Dr Maryam Lotfi, Darlithydd mewn Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi yn Ysgol Busnes Caerdydd, a Dr Anna Skeels, Cymrawd Ymchwil ym Mharc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd (SPARK), yw cyd-sylfaenwyr a chyd-gyfarwyddwyr y grŵp.

Gan weithio gyda phartneriaid allweddol ar draws y byd academaidd, diwydiant, busnes, a sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector i feithrin a rhannu arbenigedd, eu nod yw darparu atebion sy’n seiliedig ar dystiolaeth i heriau yn y maes hwn.

Mae caethwasiaeth fodern yn fater cymhleth a chudd, sy'n her i ymdrechion ymchwil sy'n archwilio natur a maint y broblem. Mae ymchwil ar gynaliadwyedd yn tueddu i or-ganolbwyntio ar agweddau economaidd ac amgylcheddol ar draul cynaliadwyedd cymdeithasol.

Nod y grŵp ymchwil yw llywio polisi ac arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gaethwasiaeth fodern a chynaliadwyedd cymdeithasol, gan gael effaith gadarnhaol ar gymunedau yng Nghymru, y DU, ac yn rhyngwladol.

Gan alinio ag is-grwpiau Fforwm Gwrth-Gaethwasiaeth Cymru (ASFW) Llywodraeth Cymru, trefnir ymchwil o amgylch y themâu canlynol:

  • hyfforddiant ac ymwybyddiaeth
  • dioddefwyr a goroeswyr
  • atal
  • cadwyni cyflenwi a rhyngwladol

"Drwy gydweithio, mae gan Ysgol Busnes Caerdydd a SBARC botensial sylweddol i sefydlu a datblygu enw da rhyngwladol i Brifysgol Caerdydd mewn ymchwil ac effaith go iawn ar gaethwasiaeth fodern a chynaliadwyedd cymdeithasol."
Dr Maryam Lotfi Lecturer in Supply Chain Management

Llwyddodd y grŵp i sicrhau cyllid Kickstarter gan y Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Troseddu a Chudd-wybodaeth i helpu â digwyddiad amlasiantaeth, amlddisgyblaeth, yn ogystal ag ariannu teithiau ymchwil ac ymweliadau cyfnewid gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'r Grŵp Ymchwil a'r hyn y mae’n canolbwyntio arno.

Cynhaliodd y grŵp lansiad ar 27 Gorffennaf. Yn y digwyddiad poblogaidd, daeth ymchwilwyr a phartneriaid at ei gilydd i ddysgu am y grŵp a thrafod ymchwil ar reoli risg caethwasiaeth fodern yn y gadwyn gyflenwi a phobl sydd â phrofiad go iawn o gaethwasiaeth fodern. Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o Brifysgol Caerdydd, prifysgolion eraill y DU, a phartneriaid fel Llywodraeth Cymru, Unseen UK, Barnardo’s, a llawer o rai eraill.

Rhagor o wybodaeth am y Grŵp Ymchwil i Gaethwasiaeth Fodern a Chynaliadwyedd Cymdeithasol.

Rhannu’r stori hon