Ewch i’r prif gynnwys

Y Brifysgol i gynnal symposiwm technegol CIBSE 2024 yn canolbwyntio ar ddarparu adeiladau a diffinio cyflawniad ar gyfer dyfodol sero net

22 Awst 2023

Gofod arddangos Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn adeilad Bute Prifysgol Caerdydd.
Y gofod arddangos yn adeilad Bute Prifysgol Caerdydd, cartref Ysgol Pensaernïaeth Cymru a fydd yn cynnal Symposiwm Technegol Sefydliad Siartredig Peirianwyr Gwasanaethau Adeiladu 2024.

Bydd ymarferwyr o feysydd academaidd, polisi a’r diwydiant yn ystyried yr heriau a’r cyfleoedd o ddarparu amgylchedd adeiledig sero net sy’n addas ar gyfer y dyfodol mewn digwyddiad a gynhelir gan Brifysgol Caerdydd.

Bydd Symposiwm Technegol Sefydliad Siartredig y Peirianwyr Gwasanaethau Adeiladu (CIBSE) yn cael ei gynnal ar11 ac 12 Ebrill 2024 yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru. Bydd papurau a adolygwyd gan gymheiriaid a chyflwyniadau yn amlinellu datblygiadau o ran ymarfer, technoleg ac ym maes polisi, Bydd y canllawiau diweddaraf ar gyfer peirianwyr gwasanaethau adeiladu hefyd yn cael eu harddangos.

Bydd ymarferwyr hefyd yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau o ran bodloni safonau gorfodol carbon sero net a datblygiadau arloesol digidol, yn ogystal â rhannu gwybodaeth ac arfer gorau wrth greu amgylcheddau adeiledig iach.

Tîm Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel (LCBE) Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn gafael mewn tri thlws ar lwyfan Gwobrau Cyflawniad Cenedlaethol CIBSE 2023.
Enillodd tîm Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel (LCBE) Ysgol Pensaernïaeth Cymru dros gyflwyniadau gan ymgynghoriaethau peirianneg rhyngwladol a phrifysgolion arobryn eraill yng Ngwobrau Cyflawniad Cenedlaethol CIBSE 2023.

Mae’r digwyddiad yn dilyn llwyddiant Prifysgol Caerdydd yng Ngwobrau Cyflawniad Cenedlaethol CIBSE yn gynharach eleni, pan enillodd Tîm yr Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel (LCBE) y wobr ar gyfer categorïau ‘Prosiect Domestig Gorau’ a ‘Cydweithrediad Gorau’ yn ogystal â’r wobr ‘Hyrwyddwr Cyflawniad Adeiladu’ gyffredinol am eu gwaith gyda’r sector tai cymdeithasol yng Nghymru.

Dywedodd arweinydd prosiect LCBE, yr Athro Jo Patterson, Cymrawd Ymchwil Athrawol yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru: “Bydd symposiwm eleni yn canolbwyntio ar ddiffinio a darparu cyflawniad adeiladau fel eu bod nhw, boed yn hen neu’n newydd, yn addas ar gyfer y dyfodol ar draws ystod o gyd-destunau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

“Mae gennym hanes cryf o gyflawni’r math hwn o waith yma yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn ymarferol a thrwy ein hysgoloriaeth. Ac felly, rydym yn edrych ymlaen at ddefnyddio ein llwyddiannau yn y gwobrau yn gynharach eleni yn sail i rannu ein canfyddiadau gyda rhwydwaith academaidd, polisi a’r diwydiant CIBSE.”

Yr Athro Jo Patterson Professorial Research Fellow

Ychwanegodd Anastasia Mylona, ​​Pennaeth Ymchwil yn CIBSE: “Mae CIBSE yn falch o fod yn cynnal Symposiwm Technegol y flwyddyn nesaf yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru ac am y tro cyntaf yng Nghymru. Nod y Symposiwm yw datblygu dealltwriaeth o sut y gall yr amgylchedd adeiledig wneud cyfraniad cadarnhaol at gyflawni sero net tra hefyd yn dylunio gwytnwch yn ein cartrefi a’n hadeiladau gan ragweld newidiadau tebygol yn ein hinsawdd. Mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru mewn sefyllfa dda i’n helpu i gyflawni nodau’r Symposiwm a chyrraedd y gymuned ymchwil ehangach.”

Mae’r pwyllgor trefnu yn gwahodd papurau sy’n ystyried:

  • effaith newid cymdeithasol, amgylcheddol a digidol ar ailddiffinio a monitro cyflawniad adeiladau
  • rôl technolegau digidol a dulliau modern o adeiladu wrth geisio cyflawni sero net a gwydnwch o ran yr hinsawdd
  • safonau dylunio iechyd a lles ar ôl y pandemig ac mewn hinsawdd sy'n newid
  • rôl y rheiny sy’n byw mewn adeiladau mewn perthynas â’u gweithrediad effeithiol
  • bodloni safonau carbon sero net i fynd er mwyn mynd i'r afael â sicrwydd ynni a diogelwch preswylwyr

Mae'r alwad am grynodebau ar agor tan ddydd Llun 11 Medi 2023.

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol hon yn unigryw oherwydd ei thraddodiad o gyfuno creadigrwydd â chanolbwyntio ar greu, ei phortffolio ymchwil, calibr ei staff a'i lleoliad unigryw.