Ewch i’r prif gynnwys

Seryddwyr yn gweld strwythurau “nad yw unrhyw delesgop blaenorol wedi gallu eu gweld” mewn delweddau newydd o seren sy’n marw

4 Awst 2023

Nifwl y Fodrwy
Nifwl y Fodrwy a dynnwyd gan y JWST rhwng Gorffennaf ac Awst 2022.

Mae delweddau newydd o seren sy'n marw yng nghanol nifwl planedol adnabyddus 2,600 o flynyddoedd golau o'r Ddaear wedi datgelu strwythurau na allai unrhyw delesgop blaenorol eu canfod, yn ôl tîm rhyngwladol o wyddonwyr, a ryddhaodd y delweddau ddydd Iau 3 Awst 2023.

Mae’r tîm sy’n cynnwys ymchwilwyr yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd, yn dweud bod y delweddau o Nifwl y Fodrwy a dynnwyd gan y JWST rhwng Gorffennaf ac Awst 2022 yn dangos strwythur y nifwl mewn manylder nas gwelwyd erioed o’r blaen.

Er bod yr amrywiaeth o strwythurau a chyfnodau a ddatgelir yn y delweddau yn rhannu nodweddion â nifylau eraill sydd wedi'u hastudio'n fanwl, dywed yr ymchwilwyr fod y cyfnod lle gellid modelu nifylau planedol fel sfferau dwysedd unffurf wedi hen fynd.

Dywedodd Dr Roger Wesson, Cydymaith Ymchwil yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd a arweiniodd y dadansoddiad: “Mae'r delweddau newydd hyn a dynnodd JWST yn dangos strwythurau anhygoel o gymhleth ar ffurf arcau, pigau, plu (wisps) a chlystyrau, pob un wedi'i ffurfio wrth i seren sy'n marw daflu ei haenau allanol i ffwrdd.”

Sypiau yn all-lif Nifwl y Fodrwy.

Mae nifylau planedol fel y Fodrwy yn ffurfio pan fydd sêr sydd â hyd at wyth gwaith màs ein Haul yn defnyddio’r hydrogen yn eu creiddiau, i gyd, ac yn cael gwared ar eu haenau allanol.

Yn ffynhonnell ar gyfer llawer o'r carbon a'r nitrogen yn y bydysawd, mae'r ffordd y mae'r sêr hyn yn esblygu ac yn marw yn hanfodol o ran deall tarddiad yr elfennau hyn, na fyddai bywyd ar y Ddaear wedi gallu datblygu hebddynt.

Ychwanegodd Dr Wesson: “Ar un adeg, roedd nifylau planedol yn cael eu hystyried yn wrthrychau syml iawn, yn sfferig, yn fras felly, a chyda seren sengl yn eu canol. Dangosodd Hubble eu bod yn llawer mwy cymhleth na hynny, a gyda'r delweddau diweddaraf hyn mae JWST yn dangos manylion mwy cymhleth eto o ran y gwrthrychau hyn.”

Wedi'i lansio ym mis Rhagfyr 2021, mae JWST yn rhaglen ryngwladol dan arweiniad NASA gyda'i bartneriaid, Asiantaeth Ofod Ewrop ac Asiantaeth Ofod Canada.

Hon yw prif arsyllfa'r degawd nesaf a bydd JWST yn galluogi seryddwyr ledled y byd i astudio pob cam yn hanes ein Bydysawd, yn amrywio o'r tywynnau goleuol cyntaf ar ôl y Glec Fawr, i ffurfio systemau serol a phlanedol sy'n gallu cynnal bywyd ar blanedau fel y Ddaear, i esblygiad ein Cysawd yr Haul ni.

Cynnydd cyflym yn all-lif Nifwl y Fodrwy.

Dywedodd Dr Mikako Matsuura, Darllenydd yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae telesgop chwe metr o ddiamedr JWST deirgwaith yn fwy na thelesgop Hubble ac mae hefyd yn gweithredu dau gamera isgoch, sy'n gallu canfod tonfeddi hirach nag sy'n weladwy i'r llygad dynol nac, yn wir, i Hubble.

“Mae'r arloesiadau hyn o ran y telesgop a chanfod elfennau isgoch yn golygu nad oedd llawer o’r manylion ynghylch y Fodrwy a ddatgelwyd yn y delweddau JWST diweddaraf hyn yn weladwy i seryddwyr yn flaenorol.

“Lle o’r blaen dim ond modrwy roeddem ni’n ei gweld, rydym bellach yn gwybod ei bod yn llawn 20,000 globiwl. Ac, am y tro cyntaf, gallwn hefyd weld y tu hwnt i’r fodrwy, sy’n ymestyn gyda phigau ac arcau gwan, gan siapio strwythur tebyg i betalau sy’n debyg i flodyn.”

Rhannu’r stori hon

Dyma Ysgol gyfeillgar, y mae’n hawdd troi ati, gydag ymrwymiad cryf i ragoriaeth wrth addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf mewn ffiseg a seryddiaeth.