Ewch i’r prif gynnwys

Dengys astudiaeth y gall argaeau tebyg i afanc wella strategaethau rheoli llifogydd presennol ar gyfer cymunedau sydd mewn perygl

8 Awst 2023

Ffotograff o strwythur ar ffurf argae wedi'i wneud o foncyffion mewn nant. O amgylch hwn mae offerynnau gwyddonol i fesur lefelau’r dŵr.
Rhwystr sy'n gollwng yn Wilde Brook ar ddalgylch Corve, Swydd Amwythig (Ffotograffiaeth gan Daniel Jones, ar 21 Mehefin 2023).

Mae ymchwil newydd wedi canfod bod rhwystrau afonydd sy'n cynnwys deunyddiau naturiol fel coed, canghennau, boncyffion a dail yn gallu lleihau llifogydd mewn cymunedau sydd mewn perygl drwy storio dŵr ymhellach i fyny'r afon.

Bu'r astudiaeth, dan arweiniad gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerwrangon, yn asesu effaith rhwystrau sy'n gollwng ar safle rheoli llifogydd naturiol ar afon fechan yn Swydd Amwythig dros gyfnod o ddwy flynedd.

Mae rhwystrau sy'n gollwng a grëwyd gan bobl, sydd wedi'u cynllunio i ddynwared argaeau afanc, yn gweithio mewn unedau o 50-100, gan godi lefelau'r dŵr i fyny'r afon yn fwriadol i arafu llif yr afon trwy storio a dargyfeirio llif, gan ddarparu buddion ecolegol i goridor yr afon ac ar dir fferm gerllaw.

Hyd yn hyn, mae gwyddonwyr wedi defnyddio modelu rhifiadol yn seiliedig ar nifer o ragdybiaethau i ddeall effaith rhwystrau sy'n gollwng, ond casglodd tîm Caerdydd a Chaerwrangon ddata go iawn o 105 o rwystrau sy'n gollwng dros bellter o dair milltir i ddeall sut mae rhwystrau sy'n gollwng yn gweithredu pan fyddant yn cael eu gorlifo gan ddyfroedd llifogydd.

Canfu eu hastudiaeth, a gyhoeddwyd yn y Journal of Hydrology, y gallai rhwystrau gollwng y safle storio digon o ddŵr i lenwi o leiaf pedwar pwll nofio maint Olympaidd yn ystod digwyddiadau storm sylweddol fel Storm Dennis.

Cofnododd y tîm lefelau dŵr uwch hyd at 0.8 metr ym mhob rhwystr, a oedd, medden nhw, wedi arafu llif yr afon yn ystod y stormydd hyn, gan gymryd rhwng saith a naw diwrnod i ddychwelyd i lefelau dŵr arferol ac amddiffyn cymunedau ymhellach i lawr yr afon rhag llifogydd.

Dywedodd Dr Catherine Wilson, Darllenydd yn Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd ac un o gyd-awduron yr astudiaeth: "Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn y perygl o lifogydd ledled y DU ac yn rhyngwladol oherwydd mwy o ddwyster stormydd a ffactorau eraill sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd.

"Lle mae llifogydd yn digwydd, rydym yn aml yn gweld cost ddynol ac economaidd-gymdeithasol eithafol. Ac felly, mae'n hanfodol ein bod yn deall yn well sut i fynd i'r afael â'r digwyddiadau hyn yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl."

Gosododd y tîm offer monitro ar dair sianel sy'n rhychwantu rhwystrau sy'n gollwng yn y nant i fesur eu heffeithiau ar lefelau'r dŵr i fyny'r afon ac i lawr yr afon dros amser.

Cafodd rhagor o ddata ei dynnu gan ddelweddau drôn o'r safle gan ddefnyddio techneg a elwir yn ffotogrametreg, a alluogodd y tîm i fesur drychiad y tir mewn rhannau o'r afon a orchuddiwyd gan goed a fflora eraill.

"Am y tro cyntaf, mae ein hastudiaeth yn darparu tystiolaeth fanwl fesuradwy o effeithiolrwydd atebion sy'n seiliedig ar natur wrth fynd i'r afael â'r llifogydd hyn. Rydym yn dangos bod rhwystrau sy'n gollwng yn effeithiol wrth arafu llif yr afon yn ystod cyfnodau o law, gan storio llawer iawn o ddŵr a fyddai fel arall yn llifo drwodd gan achosi difrod i gymunedau ymhellach i lawr yr afon. Yn lle hynny, mae'r grym hwn yn cael ei ryddhau'n araf dros gyfnod o wythnos i 10 diwrnod."

Dr Catherine Wilson Senior Lecturer - Teaching and Research

"Mae rhwystrau sy'n gollwng yn fwyaf effeithiol mewn sianeli cul gyda glannau serth ac yn well o ran lleihau llifogydd yn ystod stormydd llai nag yn ystod rhai mwy. Dengys hyn eu bod yn ychwanegiad gwerthfawr at strategaethau rheoli llifogydd presennol.

"Yn fwy na hynny, mae rhwystrau sy'n gollwng yn cynnig cost isel o rhwng £50 a £500 ac maent yn ddatrysiad cynaliadwy sy’n amddiffyn rhag llifogydd sydd felly’n cynyddu bioamrywiaeth yn ein hafonydd ac ar dir cyfagos."

Mae'r tîm yn parhau i fonitro effeithiolrwydd rhwystrau sy'n gollwng ar safle Swydd Amwythig, sy'n un o drigain a nodwyd gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, i werthuso safleoedd rheoli llifogydd naturiol.

Maen nhw'n dweud y gall y llywodraeth a'r diwydiant ddefnyddio eu canfyddiadau i ddatblygu amddiffynfeydd rhag llifogydd ar gyfer stormydd llai, mwy cyffredin, a helpu i greu dull ar gyfer modelu rhwystrau sy'n gollwng ar gyfer stormydd mwy, hefyd.

Dywedodd yr Athro Ian Maddock, Athro Gwyddor Afonydd ym Mhrifysgol Caerwrangon ac un o gyd-awduron yr astudiaeth: "Mae canlyniadau'r astudiaeth wedi helpu i lywio ein gwaith gydag awdurdodau lleol i nodi safleoedd newydd ar gyfer Rheoli Llifogydd yn Naturiol.

"Mae wedi ein galluogi i dargedu safleoedd lle bydd gosod rhwystrau sy'n gollwng yn cael yr effaith fwyaf o ran lleihau perygl llifogydd i gymunedau a thirfeddianwyr ymhellach i lawr yr afon."

Yr Athro Ian Maddock Prifysgol Caerwrangon

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn un ysgolion peirianneg mwyaf blaenllaw'r DU ac mae ganddi enw da am ymchwil o'r radd flaenaf ac amgylchedd addysgu bywiog a chyfeillgar.