Ysgol Busnes Caerdydd yn cynnal cynhadledd ddoethurol flaenllaw
6 Gorffennaf 2023
Cynhaliwyd Cynhadledd Ymchwil Ôl-raddedig flynyddol Cymru (WPGRC) mewn busnes, rheolaeth ac economeg ddydd Iau 15 Mehefin yn Ysgol Busnes Caerdydd.
Gan gryfhau a dathlu'r gymuned ymchwil yng Nghymru, cynigiodd y digwyddiad lwyfan i arddangos a thrafod y datblygiadau diweddaraf mewn ymchwil busnes, rheolaeth ac economeg.
Mynychwyd y gynhadledd undydd gan fyfyrwyr PhD ac academyddion o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor, a Phrifysgolion GW4. Ariannwyd y digwyddiad ar y cyd gan Ysgol Busnes Caerdydd a Phartneriaeth Hyfforddiant Doethurol (DTP ESRC Cymru) Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Cymru (ESRC).
Croesawyd cynrychiolwyr y gynhadledd yn y bore gan yr Athro Rachel Ashworth, Deon a Phennaeth Ysgol Busnes Caerdydd, a'r Athro Luigi M. De Luca, Dirprwy Ddeon Astudiaethau Doethurol Ysgol Busnes Caerdydd.
Yn ystod y gynhadledd, cyflwynodd myfyrwyr PhD o bob cam o'u hastudiaethau eu hymchwil mewn sesiynau cyfochrog, gyda 70 o gyflwyniadau papur llafar a 14 o arddangosiadau poster.
Cafodd sesiynau eu clystyru yn ôl themâu i annog cyfnewid rhyngddisgyblaethol mewn awyrgylch cydweithredol a chyfeillgar ac i gryfhau'r gymuned ymchwil ar draws llwybrau a sefydliadau.
Cyflwynwyd y brif araith gan yr Athro Andrew Sturdy o Ysgol Busnes Prifysgol Bryste ar y pwnc 'paratoi ar gyfer eich viva'.
Cafwyd trafodaeth ford gron i ddilyn gyda'r Athro Melanie Jones a'r Athro Keith Whitfield o Ysgol Busnes Caerdydd, ac ymunwyd â nhw gan ddau fyfyriwr PhD diweddar a chyn-enillwyr gwobrau WPGRC, Dr Tracey Rosell a Dr John Poole.
Dyfarnwyd gwobrau'r gynhadledd i:
- Katie Lloyd (Ysgol Busnes Caerdydd) am y Poster Gorau, yn dwyn y teitl ‘Offline is the new luxury: A study of influencer’s neutralisation techniques to online hate.’
- Vanja Strand (Ysgol Busnes Caerdydd) am Werth Cyhoeddus gyda ‘How supply chains are tackling the issue of modern slavery at the national and international levels: Tackling modern slavery in supply chains through B2N collaborations.’
- Suzanna Nesom (Ysgol Busnes Caerdydd) am y Cyflwyniad Cynhadledd Gorau gyda ‘Why does the Gender Pay Gap vary across areas in Wales?’
Dyma ambell air gan enillwyr gwobrau myfyrwyr WPGRC
Katie Lloyd:
"Roedd yn bleser cael cyflwyno fy mhoster ymchwil yng Nghynhadledd Ymchwil Ôl-raddedig Cymru. Mwynheais ddysgu am ymchwil cyd-fyfyrwyr PhD a chysylltu â chydweithwyr hen a newydd yn fawr. Hwn oedd y tro cyntaf i mi rannu fy ymchwil gydag unrhyw un heblaw fy ngoruchwylwyr, felly roeddwn i wrth fy modd o dderbyn 'Gwobr Poster Gorau' y gynhadledd hefyd. Mae’r dalent a’r arloesedd yng ngwaith fy nghydweithwyr mor ysbrydoledig, rwy’n edrych ymlaen at weld cynnydd pawb y flwyddyn nesaf!"
Vanja Strand:
"Ces i’r profiad mwyaf cofiadwy yn mynychu a chyflwyno yn 3edd Gynhadledd Ymchwil Ôl-raddedig Cymru mewn Busnes/Rheolaeth ac Economeg a drefnwyd gan Ysgol Busnes Caerdydd. Roedd y cyflwyniadau ymchwil o ansawdd gwych a dysgais lawer gan fy nghyfoedion. Roedd hefyd yn hyfryd cwrdd â phobl newydd a dysgu am eu profiadau fel ymgeiswyr TAR."
Suzanna Nesom:
"Fe wnes i fwynhau'r cyflwyniadau yn fawr, yn ogystal â chwrdd â chydweithwyr ledled Cymru a phartneriaid GW4 Caerdydd. Mae'n anrhydedd i mi dderbyn y wobr Cyflwyniad Gorau am fy ymchwil ar Fylchau Cyflog Rhanbarthol a Lleol rhwng y Rhywiau ym Mhrydain a fydd, gobeithio, o werth cyhoeddus mawr yn y dyfodol."
Dywedodd Dr Nicole Koenig-Lewis, Cynullydd Llwybr DTP ESRC Cymru ar gyfer Busnes a Rheolaeth:
Roedd pwyllgor trefnu WPGRC yn cynnwys: Luigi De Luca, Jonathan Gosling, Tommaso Reggiani, Nicole Koenig-Lewis, Beverly Francis.