Ewch i’r prif gynnwys

Mae’r Brifysgol wedi sicrhau cyllid arloesi ym maes rheilffyrdd gan UKRI gwerth £15m

6 Gorffennaf 2023

Ffotograff o safle GCRE yn Ne Cymru
Y safle GCRE yn Ne Cymru

Mae Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Birmingham a Phrifysgol Abertawe wedi sicrhau cyllid Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI) gwerth £15m i sefydlu canolfan ymchwil flaenllaw ym maes rheilffyrdd yn ne Cymru.

Yn sgil y prosiect, dan arweiniad Prifysgol Birmingham, bydd Canolfan Ymchwil ac Arloesi’r Rheilffyrdd yn cael ei chreu yn y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd.

Mae Ysgol Peirianneg Caerdydd yn dod ag ystod eang o wybodaeth arbenigol i'r prosiect.

Dyma a ddywedodd yr Athro Carol Featherston, arbenigwraig ym maes trafnidiaeth gynaliadwy ac arweinydd prosiect Caerdydd: "Rydyn ni’n falch iawn o allu creu partneriaeth â Chanolfan Ymchwil ac Addysg er Rheilffyrdd Birmingham (BCRRE) i adeiladu'r ganolfan newydd.

"Bydd ein harbenigedd ym maes Ynni, Systemau Digidol a seiberddiogelwch, Ffactorau Dynol a Seilwaith, ar y cyd â Birmingham ac Abertawe, yn cefnogi'r diwydiant rheilffyrdd yn y DU ac Ewrop drwy gyflymu’r broses o arloesi, cefnogi datgarboneiddio a datblygu seilwaith rheilffyrdd sy’n fwy cost-effeithiol."

Dyma a ddywedodd yr Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil ac Arloesi: "Mae Caerdydd yn awyddus i weithio gyda’r Ganolfan ar brosiect sy'n cyd-fynd â nodau datgarboneiddio a chynaliadwyedd y Brifysgol ac sy'n dod â manteision i economi ehangach Cymru drwy gefnogi rheilffordd sero net gyntaf y DU."

Bydd y Ganolfan Ragoriaeth newydd fydd yn profi rheilffyrdd ac yn dilysu profiad cwsmeriaid yn darparu cyfleusterau pwrpasol ar y cyd ag arbenigedd diwydiannol rheilffyrdd mawr y DU i gefnogi arloesi ym maes rheilffyrdd, ymchwil a datblygu yn y Ganolfan, a hynny ar y cyd â phartneriaid blaenllaw yn y diwydiant.

Bydd y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd yn gyfleuster ar gyfer ymchwil, profi ac ardystio cerbydau o'r radd flaenaf yn ogystal â seilwaith a thechnolegau arloesol newydd ar y rheilffyrdd.

Dyma a ddywedodd Simon Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan: "Mae ymchwil ac arloesi o'r radd flaenaf wrth wraidd cenhadaeth y Ganolfan.  Bydd gweithio gyda phrifysgol Birmingham, Caerdydd ac Abertawe yn ein galluogi i wireddu'r uchelgais hon."

Dyma a ddywedodd yr Athro Clive Roberts, Cyfarwyddwr BCRRE: "A ninnau’n arweinydd byd-eang ym maes ymchwil ac addysg ar reilffyrdd, rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid ledled y byd i ddatblygu eu gweithlu a'u galluoedd technegol a gweithredol.  Rydyn ni hefyd yn arweinydd ym maes mentrau ac arloesi rheilffyrdd, ac mae'r tîm yn parhau i weithio gyda busnesau bach a chanolig a gweithgynhyrchwyr cyfarpar gwreiddiol (OEM) i gadw'r rheilffyrdd ar y cledrau.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies AS: “Mae’r cyllid sylweddol diweddaraf hwn gan Lywodraeth y DU ar gyfer ymchwil ac arloesi yn y Ganolfan Fyd-eang ar gyfer Rhagoriaeth Rheilffyrdd (GCRE) yn adeiladu ar ein hymrwymiad presennol o £28m i’r prosiect a bydd yn helpu i sicrhau bod y weledigaeth gyffrous ar gyfer GCRE yn cael ei gwireddu.”

Dywedodd Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog ar gyfer Newid Hinsawdd gyda chyfrifoldeb dros Drafnidiaeth: “Mae’r Ganolfan Fyd-eang ar gyfer Rhagoriaeth Rheilffyrdd yng Nghwm Dulais yn un o’r prosiectau seilwaith mwyaf hanfodol a chreadigol sy’n digwydd yn unrhyw le yn Ewrop. Mae dyfarnu’r cyllid newydd hwn i ddatblygu cyfleusterau ymchwil a datblygu unigryw ymhellach, mewn partneriaeth â Phrifysgolion Birmingham, Caerdydd ac Abertawe, yn dangos hyder yng Nghymru wrth i ni barhau i gynnal ac adeiladu economi arloesol, gystadleuol a gwyrddach.”

Hwylusodd Rhwydwaith Arloesi Cymru y dewis o bartneriaid prifysgolion Cymru ar gyfer y prosiect.

Sefydlwyd y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd yn 2021 yn sgil ymrwymiad cychwynnol gwerth £50 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth y DU yn cefnogi'r prosiect drwy roi cyllid ar gyfer ymchwil a datblygu ynghyd â chyllid cyfalaf gwerth £20 miliwn. Yn ddiweddar, lansiodd y Ganolfan brosiect caffael cyhoeddus o bwys i ddenu cyllid preifat ar gyfer y prosiect.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.