Ewch i’r prif gynnwys

A fo ben, bid bont: Myfyrwyr yr Ysgol Fferylliaeth a’r Ysgol Peirianneg yn ymestyn allan i'r gymuned

14 Mehefin 2023

Engineering students
Petar Krcunovic, Will Dunlop, Robin Crundwell, Hannah Gray, Emily Mulley, Alex Rudd, Darshan Sudarsan, Oscar Llinares-Perales

Mae gwirfoddolwyr o'r Ysgol Peirianneg wedi adeiladu pont newydd ar gyfer llwybr natur yn hen gymuned lofaol Abercynon.

Ers 2021 mae'r Ysgol Fferylliaeth, yn sgil eu prosiect arloesol Pharmabees, wedi bod yn cydweithio â Cynon Valley Organic Adventures i greu llwybr natur i wella lles pobl yn yr ardal. Yn ogystal â chreu lleoedd gwyrdd a dymunol i’r trigolion lleol a bywyd gwyllt fel ei gilydd, bwriad y prosiect yw darparu data i feddygon teulu ym maes presgripsiynu gwyrdd, sef arfer sy'n mynd yn fwyfwy poblogaidd. Ers cryn amser, ystyrir bod treulio amser ym myd natur yn fuddiol i iechyd meddwl a diben y prosiect hwn yw atgyfnerthu’r dystiolaeth wyddonol yn hyn o beth.

Gan ddefnyddio data yn y byd go iawn sy’n dangos sut mae byd natur o fudd i iechyd cleifion, y gobaith yw y gall y llwybr fod yn erfyn ychwanegol i feddygon yn y frwydr yn erbyn salwch meddwl, yn ogystal â bod yn enghraifft o arferion gorau.

Yn y llwybr arloesol hwn bydd yr ymwelwyr yn cerdded drwy amser, boed ardal lle mae coetir hynafol yn tyfu, tŷ crwn Celtaidd a dôl grawn hynafol, gardd Rufeinig yn llawn llysiau meddygol neu ardd meddyginiaeth ganoloesol dan ysbrydoliaeth ysgrifau Meddygon Myddfai. Gan barhau ar hyd y llwybr bydd yr ymwelwyr yn cyrraedd llain beillio fodern a gardd synhwyrau.

Schematic
Sgematig o'r llwybr

Mae'r llwybr natur yn agos at afon Cynon a thrwy'r ardd mae nant fwydo fechan yn llifo, y mae angen i ddefnyddwyr fynd ar ei thraws i fynd o gwmpas y safle. Roedd y bont wreiddiol wedi dadfeilio ac roedd angen ei newid. Cysylltodd yr Athro Les Baillie, sy’n arwain tîm Pharmabees, a Phoebe Nicklin, sy’n rheoli prosiect Abercynon ar gyfer Prifysgol Caerdydd , â’u cydweithwyr yn yr Ysgol Beirianneg ynghylch adeiladu pont newydd a chawsant eu cysylltu drwy Dr Aled Davies a’r Athro Adrian Porch gydag Emily Mulley, myfyrwraig israddedig sydd ag angerdd am ymgysylltu cymunedol.

Gan ddefnyddio'r sgiliau a ddysgwyd o'i phrofiad personol a'i gradd, dyluniodd Emily bont bren a recriwtio rhai o'i chyfoedion i helpu i adeiladu'r strwythur 3.6 metr. Ar ôl torri’r deunyddiau yn Adeiladau’r Frenhines Peirianneg, ar fore oer ym mis Chwefror fe aeth Emily a’i thîm gwirfoddol o Will Dunlop, Robin Crundwell ac Oscar Llinares-Perales am y safle.

Volunteers hard at work
Y gwirfoddolwyr yn gweithio’n galed (Emily Mulley, Sam Gregory, Hannah Gray, Darshan Sudarsan)

Fel rhan o'u gwaith cymunedol, mae menter gymdeithasol arobryn Cynon Valley Organic Adventures (CVOA) yn ceisio helpu pobl â phroblemau iechyd meddwl trwy eu recriwtio i gynnal a chadw eu hardal bum erw. Un gwirfoddolwr o'r fath yw Mike Jenkins a oedd, fel technegydd llif gadwyn profiadol, wrth law i helpu i osod y sylfeini. Dyma a ddywedodd, “Gwych o beth oedd gweithio gydag Emily a’r tîm wrth adeiladu’r bont, cawson ni’r cyfle i rannu sgiliau a chydweithio â myfyrwyr y Brifysgol.” Siaradodd Mike yn deimladwy am ei brofiadau yn y gerddi, lle mae bellach yn Brif Arddwr a Rheolwr Safle Gwirfoddolwyr, ar Countryfile y BBC.

Site Manager
Rheolwr Safle, Mike Jenkins

Mae adeiladu pontydd rhwng y boblogaeth o fyfyrwyr a chymunedau lleol yn flaenoriaeth i Brifysgol Caerdydd ac mae'r cydweithio llythrennol iawn hwn wedi bod yn brofiad braf i bawb oedd ynghlwm. Dyma a ddywedodd Phoebe Nicklin, “Yn sgil y prosiect ar y cyd hwn roedd myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a phobl leol yn gallu cydweithio i greu rhywbeth y gall pawb fydd yn ymweld ag ef yn gallu ei fwynhau. Bellach, drwy gerdded ar hyd y bont, caiff pobl fynd yn ddiogel i’r coetir hynafol a glan yr afon lle cewch lonydd a’r cyfle i gadw llygad am y dyfrgwn lleol a Glas y Dorlan wrth ei waith.”

Gyda'r sylfeini yn eu lle dychwelodd Emily i'r safle ym mis Mawrth gydag ail hanner y tîm o fyfyrwyr yn gwirfoddoli i gwblhau'r gwaith. Roedd hyn yn cynnwys Hannah Gray, Sam Gregory, Petar Krcunovic, Alex Rudd a Darshan Sudarsan. Gyda chefnogaeth gan y gwirfoddolwr safle Lee Jenkins, sy'n rhoi llawer o'i amser i gynnal a gofalu am y safle.

Oherwydd y pandemig, daeth yn amlwg pa mor bwysig yw helpu pobl eraill a gwerth treulio amser ym myd natur. Llwyddodd y prosiect hwn o ran y ddau amcan hyn ac mae’n cefnogi ein nod ehangach, sef creu cartref i fyd natur a lle i bobl wella’n feddyliol.

Yr Athro Les Baillie Professor of Microbiology

Dyma a ddywedodd Emily, sydd yn y drydedd flwyddyn ac yn hanu’n wreiddiol o ddwyrain Dyfnaint, am y prosiect, “Dyma brosiect allgyrsiol yr ymgymerais ag ef gan fod profiad gen i a bydda i bob amser yn mwynhau trefnu cynlluniau o’r fath. Ro’n i’n arbennig o awyddus i’r prosiect hwn lwyddo, nid yn unig i roi'r cyfle i'r myfyrwyr oedd ynghlwm wrtho ond hefyd i helpu Janis, Lee a Mike. Ac roedd gweld y bont bren orffenedig yn rhoi teimlad o lwyddiant mawr ar ôl treulio misoedd o waith caled arni."

Emily and team
(Chwith i'r dde - Emily Mulley, Oscar Llinares-Perales, Petar Krcunovic, Will Dunlop)

Mae'r cyd-gynhyrchiad hwn rhwng yr ysgolion Fferylliaeth a Pheirianneg, CVOA a thrigolion Abercynon yn arddangosiad grymus o'r hyn y gellir ei gyflawni trwy gydweithio. Dyma a ddywedodd Janice Werrett, Cyfarwyddwr Cwm Cynon Oragnic Adventures, “Peth braf iawn oedd cynnal Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf. Mae’r bont yn ychwanegiad hyfryd newydd at ein coetir ac mae wedi gwella’r mynediad iddo’n fawr.”

Bridge
Y bont wedi'i chwblhau

Rhannu’r stori hon