Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr yn ymuno ag Urdd Gobaith Cymru i lansio neges wrth-hiliaeth

18 Mai 2023

Myfyrwyr yn cerdded gyda'i gilydd
Mae myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi bod yn gweithio gydag Urdd Gobaith Cymru ar ei Neges Heddwch ac Ewyllys Da flynyddol

Mae myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ac Urdd Gobaith Cymru yn rhoi sylw i wrth-hiliaeth fel rhan o Neges Heddwch ac Ewyllys Da blynyddol yr elusen Gymreig.

Mae mudiad ieuenctid mwyaf Cymru yn galw ar bobl ar draws y byd i’w Galw Allan, cyn ei Eisteddfod flynyddol yn Sir Gaerfyrddin, lle bydd gan y Brifysgol hefyd bresenoldeb.

Wedi ei chreu mewn gweithdy yng Nghaerdydd, mae neges gwrth-hiliaeth 2023 yr Urdd yn galw ar bobl ar draws y byd i ‘annog caredigrwydd, dysgu i dderbyn ac i alw allan hiliaeth a rhagfarnau’.

Mae’r neges, sy’n cael ei chefnogi gan y cerddor Eäydyth, yn cael ei chyflwyno mewn ffilm fer a’i rhyddhau heddiw ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol yr Urdd.

Dywedodd Y Dirprwy Is-Ganghellor Yr Athro Damian Walford Davies: “Mae aelodau staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn eilio’r pwyslais ar wrth-hiliaeth sy’n nodweddu neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd eleni. Ysgwydd-yn-ysgwydd â’r Urdd, rydym yn ein herio ein hunain yn ogystal ag eraill i brofi, drwy weithredoedd, ein bod yn wrth-hiliol.”

Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Pob blwyddyn mae’r Urdd yn rhoi llais a llwyfan i ieuenctid Cymru gael eu clywed ar draws y byd, ac mae ein neges gwrth-hiliaeth yn neges di flewyn ar dafod, yn dweud wrth bawb fod yn rhaid i ni alw allan hiliaeth pryd bynnag a lle bynnag y byddwn yn ei weld.

“Fel sefydliad rydym yn cydnabod bod yn rhaid i ni gymryd camau a chyfrifoldeb i wneud yn siŵr nad oes lle i hiliaeth yn y byd. Mae’r Urdd i bawb, ac fel Mudiad mae’n bwysig ein bod ni’n cynrychioli ac yn adlewyrchu Cymru gyfoes.”

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Mae neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn parhau i chwarae rhan annatod wrth gyflwyno gwerthoedd Cymru ledled y byd. "Rwy'n falch iawn o gefnogi'r neges eleni sy'n galw ar ddinasyddion y byd i weithredu a gwrthwynebu hiliaeth a rhagfarnau anymwybodol.

"Mae'r neges bwysig hon yn rhan o weledigaeth Llywodraeth Cymru i fod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030 - man lle gallwn ni oll fyw a ffynnu, gan greu cymdeithas lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi."

Mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn rywbeth unigryw i Gymru. Am dros ganrif, ar 18 Mai mae pobl ifanc Cymru wedi rhannu negeseuon ar themâu sy’n bwysig iddyn nhw trwy rannu’r neges gyda’r byd.

Mae neges gwrth-hiliaeth yr Urdd ar gael mewn amryw o ieithoedd, yn ogystal â BSL a gellir ei lawr-lwytho yma.  Mae’r Urdd yn annog pobl ledled y byd i helpu rhannu lleisiau Ieuenctid Cymru ar 18 Mai drwy rhannu’r neges ar y cyfryngau cymdeithasol a defnyddio’r hashnod #Heddwch2023.

https://youtu.be/9FnRXSwW5sM

Bydd Prifysgol Caerdydd yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin ar 29 Mai. Cewch ragor o wybodaeth am ein rhaglen o ddigwyddiadau yma.

Rhannu’r stori hon

Ein nod yw rhoi cyfle i’n myfyrwyr astudio a byw eu bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg.