Ewch i’r prif gynnwys

Denu pobl fedrus o sawl cwr o’r byd

12 Mai 2023

The 4 panel members stood smiling
L-R, Chris Chugg, Rakshanda Khaunte, Glyn Lloyd and Emily Davis.

Roedd manteision cyflogi pobl fedrus o sawl cwr o’r byd a hwyluso proses gofyn am deithebau o dan sylw ar 3ydd Mawrth 2023 mewn cyfarfod amser brecwast yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Roedd digon o siaradwyr gwadd yno i gyfrannu profiad o safbwynt graddedigion a chyflogwyr fel ei gilydd.

Joanna Harris, un o gynghorwyr gyrfaoedd Prifysgol Caerdydd gyflwynodd y sesiwn. “Rydyn ni am hybu galluoedd ein myfyrwyr rhyngwladol presennol a blaenorol ac yn effro i’r anawsterau y gallen nhw eu hwynebu wrth chwilio am swydd,” meddai.

Ychwanegodd Joanna fod rhaid ystyried safbwynt y cyflogwyr hefyd, am y gall proses ceisio teitheb i raddedigion o dramor ymddangos braidd yn gymhleth.

Glyn Lloyd ac Emily Davis (Newfields Law), cwmni yng Nghaerdydd sy’n arbenigo yn y gyfraith ym maes mewnfudo, oedd y siaradwyr cyntaf ymhlith y panel. Egluron nhw fod dau brif gategori - graddedigion heb noddwr a chrefftwr noddedig. Trafododd Emily a Glyn gostau ac amserlenni yn ogystal â manteision ac anfanteision teitheb yn y ddau gategori.

Alex Hicks, rheolwr lleoliadau yn Ysgol Busnes Caerdydd, a David Keane (tîm Dyfodol Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd) siaradodd nesaf. Esbonion nhw sut y gallan nhw helpu cwmnïau i gyflogi myfyrwyr trwy drefniadau bwrw tymor a phrofiad gwaith. Dywedon nhw fod modd denu pobl alluog i’w cwmnïau trwy gynnig cyfleoedd iddyn nhw dreulio cyfnod yno a bod rhai cyflogwyr wedi rhoi swyddi i raddedigion oedd wedi bwrw tymor gyda nhw.

Wedyn, soniodd dau o raddedigion rhyngwladol Ysgol Busnes Caerdydd am ddod o hyd i swydd yn y deyrnas hon. Dywedodd Pistachio Bu o Tsieina ei bod wedi’i chael yn anodd dod o hyd i swydd am na fyddai cyflogwyr am ei noddi. Mae hi’n ymgynghorydd recriwtio i gwmni Vargo yma bellach yn sgîl cael teitheb yng nghategori’r crefftwyr noddedig.

Dywedodd Rakshanda Khaunte o’r India ei bod wedi meithrin sawl medr a chryfhau ei hyder trwy dreulio blwyddyn ym myd gwaith er mwyn paratoi ar gyfer swydd ar ôl graddio.  Mae hi’n gweithio yn Llundain bellach yn sgîl cael teitheb yng nghategori’r graddedigion heb noddwr.

Chris Chugg, sylfaenydd Vargo Group, sy’n denu gweithwyr ar ran cwmnïau technoleg rhyngwladol, oedd y siaradwr olaf. Soniodd Chris am ei brofiad o gael gafael ar deitheb ar gyfer cyflogi Pistachio, un o’r siaradwyr blaenorol.

Ymhelaethodd ar amryw fanteision cyflogi ymgeiswyr o dramor. Er enghraifft:

  • Llawer mwy o bobl alluog
  • Amrywioldeb ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol yn y gwaith, gan roi hwb i greadigrwydd ac arloesedd.
  • Gwell cynhyrchiant ac elw
  • Lleddfu prinder medrau

Dywedodd Chris fod rhai cwmnïau technoleg ymhlith cwsmeriaid Vargo Group wedi elwa’n fawr o ganlyniad i gyflogi ymgeiswyr o dramor, yn arbennig yng ngoleuni prinder medrau technoleg. Mae nifer a safon yr ymgeiswyr wedi cynyddu’n fawr.

Ddiwedd y sesiwn, roedd cyfle i’r gynulleidfa holi’r panel am bynciau megis trefniadau bwrw tymor, anawsterau proses ceisio teitheb a phennu costau. Dywedodd Joanna fod awydd i barhau â’r drafodaeth am gyflogi pobl o dramor a bod cymorth ar gael.

Dyma fideo o’r sesiwn

Mae Cyfres Sesiynau Hysbysu Amser Brecwast Ysgol Busnes Caerdydd yn rhwydwaith o ddigwyddiadau sy’n galluogi cyflogwyr i ddysgu rhagor am yr ymchwil ddiweddaraf a’r prif ddatblygiadau ymhlith partneriaid diwydiannol.

Gwybodaeth i gyflogwyr
Gwybodaeth i fyfyrwyr

Dysgu sut y gall Dyfodol Myfyrwyr eich helpu yn eich gyrfa gan gynnwys cymorth ar gyfer cyflwyno ceisiadau am brofiad gwaith a swyddi graddedigion.

Rhannu’r stori hon