Ewch i’r prif gynnwys

Iechyd a lles plant yng Nghymru o dan sylw

4 Chwefror 2020

Secondary aged school children in class

Bydd paratoadau i gyflwyno newidiadau i’r cwricwlwm sy’n rhoi pwyslais newydd ar iechyd a lles yn cael eu harchwilio’n rhan o astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd.

Dr Sara Long sy’n arwain yr ymchwil, ac mae’n gweithio gydag ysgolion, swyddogion polisïau a rhanddeiliaid addysg eraill cyn i’r diwygiadau gael eu cyflwyno yn 2022. Am y tro cyntaf, bydd iechyd a lles yn un o chwe Maes Dysgu a Phrofiad (AoLE) ochr yn ochr â Chelfyddydau Mynegiannol; y Dyniaethau; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu; Mathemateg a Rhifedd, a Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Gyda lwc, bydd yr ymchwil hon yn cael ei defnyddio fel sail ar gyfer astudio effeithiau’r newidiadau ar ôl iddynt gael eu cyflwyno.

Dywedodd Dr Long, o’r Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer): “Gallai diwygio ysgolion gyflwyno manteision cyffredinol i ddisgyblion, ysgolion a’r gymdeithas ehangach, ond gallai arwain at oblygiadau anfwriadol hefyd. Dyma pam mae’n bwysig bod gwerthusiadau o ansawdd da’n cyd-fynd â pholisïau newydd fel hon."

Mae’r ymchwil yn cynnig cyfle dros gyfnod penodol i edrych ar beth sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni, ac yn ymarferol, er mwyn paratoi ysgolion a phlant ar gyfer diwygiad cenedlaethol yr ysgolion. Mae hefyd yn cynnig y cyfle i osod y sylfeini ar gyfer asesiad manwl dros y 5 i 10 mlynedd ganlynol, er mwyn cynnal gwerthusiad mawr o effeithiau’r cwricwlwm newydd ar iechyd a lles disgyblion.

Dr Sara Long Research Associate, DECIPHer

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r gymrodoriaeth ymchwil dair blynedd hon, sy’n cynnwys tair rhan. Bydd yr un gyntaf yn cynnwys cyfweliadau ag athrawon a llunwyr polisïau. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio i gael dealltwriaeth o farn pobl am rôl ysgolion o ran iechyd a lles; sut bydd y diwygiadau yn edrych mewn gwirionedd; a chynnig y dystiolaeth gyntaf i ddangos a yw’r cwricwlwm newydd wedi bod yn llwyddiannus.

Drwy ddefnyddio data presennol, bydd yr ail ran yn mesur iechyd a lles y disgyblion sy’n dysgu’r cwricwlwm presennol. Yna, gellir cymharu’r canlyniadau yn erbyn disgyblion sy’n cael y cwricwlwm newydd yn y dyfodol.

Hefyd, cynhelir gwaith ymgynghori â grŵp o bobl ifanc a grŵp o rieni yn ystod yr astudiaeth. Bydd yr holl ganfyddiadau hyn yn helpu i lywio sut mae’r newidiadau’n cael eu gweithredu a gosod y sylfeini ar gyfer ymchwil bellach wrth i’r diwygiadau ennill eu plwyf.

Ychwanegodd Dr Long: “Mae ysgolion yn amgylchedd pwysig ar gyfer ymyriadau cynnar er mwyn atal problemau corfforol ac iechyd meddwl yn hwyrach. Mae rhoi iechyd a lles plant wrth galon y cwricwlwm newydd yn gam dewr ac uchelgeisiol a allai drawsnewid addysg i blant yng Nghymru. Mae’r ymchwil hon yn cael ei chynnal yn ystod cyfnod pwysig ac rwy’n edrych ymlaen at rannu’r canfyddiadau.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.