Ewch i’r prif gynnwys

“Gwrandewch arnon ni”: yn rhy anfynych y bydd pobl ifanc yn destun ymgynghori ynghylch addysg rhyw, rhywioldeb a pherthnasoedd

4 Mai 2023

Deunyddiau trafod yn cynnwys y gair 'diogel'

Mae academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd a Choleg Prifysgol Llundain wedi ceisio cael gwell dealltwriaeth o brofiadau pobl ifanc o ddysgu am ryw, rhywioldeb a pherthnasoedd.

Defnyddiodd yr ymchwil, a gomisiynwyd gan y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC), ddulliau creadigol a chyfranogol er mwyn i ymchwilwyr allu gwrando’n ofalus ar farn a phrofiadau pobl ifanc rhwng 11 a 18 oed o bob rhan o Gymru, Lloegr a’r Alban, ynghylch sut a ble maen nhw’n dysgu am berthnasoedd, rhyw. a rhywioldeb, yr hyn yr hoffen nhw ddysgu rhagor yn ei gylch a sut maen nhw’n ceisio cymorth a chyngor.

Rhan ganolog o’r prosiect oedd gweithio gyda grŵp cynghori pobl ifanc (YPAG) a oedd wedi helpu i lunio’r dulliau ymchwil, cyfrannu at y broses ddadansoddi a chyd-lunio’r allbynnau creadigol, gan gynnwys cyfansoddi wyth cerdd ddata yn sgil dyfyniadau gan bobl ifanc sy’n cyd-fynd â phob neges allweddol yn yr adroddiad.

Canfu'r tîm fod pobl ifanc wedi cyfeirio at ystod o leoedd lle maen nhw’n dysgu am y pwnc, gan gynnwys gyda ffrindiau, y teulu, y cyfryngau cymdeithasol, diwylliant poblogaidd a’r ysgol.

Er bod rhai pobl ifanc yn disgrifio’r hyn y maen nhw’n ei ddysgu am addysg rhyw, rhywioldeb a pherthnasoedd (RSE) yn yr ysgol yn rhywbeth cyfyngedig, sy’n codi embaras, yn aneffeithiol ac yn amherthnasol yn eu bywydau bob dydd, dywedodd llawer eu bod eisiau dysgu o hyd am berthnasoedd, rhyw a rhywioldeb yn yr ysgol. Maen nhw eisiau trafod a gofyn cwestiynau am yr hyn y maen nhw’n ei ddysgu mewn cyd-destunau dysgu diogel a chefnogol ac maen nhw eisiau i'r rheini sy'n darparu addysg rhyw, rhywioldeb a pherthnasoedd gael cymorth ac adnoddau i beri i hyn ddigwydd.

Dyma a ddywedodd un o’r sawl a gymerodd ran, Hattie (ffugenw): “Roedd y ffordd roedden nhw’n ein haddysgu am atal cenhedlu, oherwydd ei fod yn rhan o’r cwricwlwm, yn ymddangos yn wyddonol iawn ac yn amhersonol iawn, yn bell i ffwrdd rywsut oherwydd ein bod yn dysgu amdano yn hytrach na’i drin yn berthnasol inni (…) dylech chi siarad â ni (ar sail heddiw), nid am sut y byddwn ni yn y dyfodol.” (17 oed)

Dyma a ddywedodd Ryan (ffugenw): Rwy'n hoffi fy nhiwtor, ond athro mathemateg yw e, felly nid arbenigwr popeth yw e mewn gwirionedd. Mae’n neis, ond rwy eisiau iddo wybod beth mae’n ei drafod a theimlo’n gyfforddus am yr hyn mae’n ei ddweud.”

Ymchwilydd: Ac a oes gennych chi syniad o sut y gallai hynny ddigwydd?”

Ryan: Hyfforddiant ar y pwnc, siŵr iawn.” (14 oed)

Pan ofynnwyd iddyn nhw pa newidiadau yr hoffen nhw eu gweld, dywedodd y bobl ifanc yr hoffen nhw’r canlynol:

  • Y dylai oedolion ddeall rhagor am fywydau a phrofiadau pobl ifanc.
  • Dylai rhieni, oedolion yr ymddiriedir ynddyn nhw, addysgwyr, a disgyblion eraill ddangos gofal a thosturi am eu profiadau amrywiol, bod yn fwy meddwl agored, sefyll dros degwch a herio gwahaniaethu yn erbyn pobl.
  • Dylai athrawon gael yr adnoddau a’r cymorth i'w helpu i deimlo'n fwy cyfforddus a hyderus yn yr hyn y maen nhw’n ei addysgu a’r ffordd maen nhw’n gwneud hyn.
  • Dylai’r cwricwlwm fod yn fwy cynhwysfawr ac yn agosach at eu bywydau a phrofiadau pobl eraill yn y byd go iawn.
  • Bod yn destun ymgynghori ar sut yr hoffen nhw ddysgu a chael gafael ar gymorth yn y meysydd hyn, megis yr hyn y maen nhw’n ei feddwl yw cyd-destun dysgu diogel, cefnogol a chynhwysol.

Dyma a ddywedodd arweinydd y prosiect, yr Athro EJ Renold, sy'n gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd:Mae gwrando ar bobl ifanc yn bwysig. Defnyddiodd yr ymchwil hon ddulliau creadigol i hwyluso cyd-destunau cynhwysol a diogel i wrando ar bobl ifanc. Drwy wrando ar bobl ifanc, rydyn ni’n addysgu ein hunain ynghylch beth a sut maen nhw’n ei ddysgu am berthnasoedd, rhyw a rhywioldeb.  Mewn gwirionedd,daeth y ffordd rydyn ni’n gwrando ar bobl ifanc yn y maes hwn ac yn ymgynghori â nhw’n ganfyddiad ymchwil hollbwysig i’r rheini sy’n gweithio gyda phobl ifanc. Roedd hefyd yn rhan o’r ffordd yr aethon ni ati i lunio ein hadroddiad ymchwil a chyd-greu ein hallbynnau creadigol gyda grŵp cynghori’r bobl ifanc.

“Mae pob un o’n hallbynnau yn blaenoriaethu ac yn chwyddo llais pobl ifanc, gan gynnwys yr argymhellion i greu newid. Gobeithiwn y bydd y rhain yn arwain y rheini sy’n gwneud penderfyniadau er mwyn sicrhau bod polisïau, adnoddau ac arferion presennol ac yn y dyfodol yn y maes hwn yn cael eu llywio gan yr hyn y mae pobl ifanc eisoes yn ei ddysgu ac yn dymuno ei ddysgu a’r ffordd maen nhw eisiau gwneud hyn.”

Gwyliwch y ffilm, “Mwy fel hyn” i wybod rhagor am sut roedd y tîm ymchwil yn gwrando ar bobl ifanc gan ddefnyddio dulliau creadigol.

https://youtu.be/WfUDVcjRJK4

Dyma a ddywedodd Dr Sara Bragg o Goleg Prifysgol Llundain: “Mae’n adeg hynod bwysig i gymryd o ddifrif hawliau pobl ifanc i fod yn destun ymgynghori ynghylch sut y darperir addysg rhyw, rhywioldeb a pherthnasoedd. Yn rhy aml mae'r hyn a ystyrir yn briodol i oedran neu'n amserol yn cael ei ddatgysylltu oddi wrth safbwyntiau a phrofiadau pobl ifanc. Seilir ein hymchwil ar fywydau bob dydd pobl ifanc, gan ddangos sut y maen nhw’n llywio’r ffordd maen nhw’n dysgu am berthnasoedd, rhyw a rhywioldeb ar draws cyd-destunau amrywiol a lleoedd, arferion a sefyllfaoedd sefydliadol. Gobeithiwn y bydd canfyddiadau ein hymchwil yn cyfrannu at sgyrsiau mwy ystyrlon a gwybodusgyda phobl ifanc am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw pan fyddan nhw’n dysgu am berthnasoedd, rhyw a rhywioldeb.”

Dyma a ddywedodd Maria Neophytou, Cyfarwyddwr Strategaeth a Gwybodaeth yr NSPCC: “Mae addysg rhyw a pherthnasoedd o safon yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn deall perthnasoedd iach a’u bod yn gallu adnabod ymddygiad difrïol ac yn gwybod sut i geisio cymorth. Mae'n atgyfnerthu’r ffaith bod gan bobl ifanc yr hawl i fod yn ddiogel, bod pobl yn gwrando arnyn nhw a’u bod yn cael eu parchu.

“Mae’n hanfodol bod pobl ifanc yn rhan o’r sgwrs am y ffordd y caiff addysg rhyw a pherthnasoedd ei chyflwyno. Mae ein hymchwil yn dangos cymaint sydd gan bobl ifanc i gyfrannu at y sgwrs hon.”

Mae'r tîm ymchwil llawn yn cynnwys yr Athro EJ Renold (arweinydd y prosiect); Dr Vicky Timperley a Dr. Honor Young o Brifysgol Caerdydd, Betsy Miln, Dr Sara Bragg a'r Athro Jessica Ringrose o Goleg Prifysgol Llundain, Dr Ester McGeeney (ymchwilydd annibynnol) a Rachel Margolis, Dr Vicky Hollis a Chloe Gill o’r NSPCC.

Mae holl allbynnau’r ymchwil creadigol, a’r adroddiad llawn, We have to educate ourselves: How young people are learning about relationships, sex and sexuality, ar gael yma.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.