Ewch i’r prif gynnwys

Mae Prifysgol Caerdydd yn nodi marwolaeth gwyddonydd a fu ar flaen y gad ym myd cadwraeth, ynghyd â bod ei Deon Cynaladwyedd Amgylcheddol cyntaf

27 Ebrill 2023

Mike Bruford

Gyda thristwch ac ymdeimlad o golled enfawr, mae Prifysgol Caerdydd yn nodi marwolaeth gwyddonydd a fu ar flaen y gad ym myd cadwraeth, ynghyd â bod ei Deon Cynaladwyedd Amgylcheddol cyntaf - yr Athro Mike Bruford.

Bu farw Mike ddydd Iau 13 Ebrill 2023; cysegrodd ei yrfa i ddeall ac atal colli bioamrywiaeth.

Arloesodd y defnydd o eneteg gadwraethol i hysbysu ac ysbrydoli gweithredu byd-eang i amddiffyn rhywogaethau mewn perygl.

Gwasanaethodd fel llysgennad dros yr anifeiliaid oedd yn eu hastudio, gan ennill ymddiriedaeth a pharch llywodraethau ac ymchwilwyr ledled y byd i ysgogi newid cynaliadwy.

Er ei fod yn benderfynol ac yn llawn cymhelliant, roedd arddull hygyrch Mike yn sicrhau ei fod yn cyfathrebu gwybodaeth wyddonol gymhleth mewn modd a oedd hefyd yn argyhoeddiadol a chymhellgar, gan ddarparu atebion hyd yn oed mewn sefyllfaoedd hynod heriol.

Pan ofynnwyd iddo ar ôl un cyflwyniad yn 2022, “A allwn ni fforddio gwneud yr holl newidiadau hyn i warchod bioamrywiaeth?” roedd ei ymateb yn syml ond uniongyrchol: “Ni allwn fforddio peidio”.

Darllenwch yr ysgrif lawn