Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro Mike Bruford yn ennill Gwobr ZSL Marsh am Fioleg Cadwraeth

19 Tachwedd 2020

Mike Bruford

Mae gwyddonydd sy'n arbenigo mewn geneteg cadwraeth wedi ennill gwobr gan yr elusen gadwraeth ryngwladol ZSL (Cymdeithas Sŵolegol Llundain).

Wedi'i sefydlu ym 1991, mae'r Wobr yn cydnabod unigolyn am ei gyfraniadau o wyddoniaeth sylfaenol i warchod rhywogaethau a chynefinoedd anifeiliaid.

Mae'r Athro Bruford, sy'n gyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy'r Brifysgol a Deon Cynaliadwyedd Amgylcheddol Prifysgol Caerdydd, yn arloeswr ym maes geneteg cadwraeth ac mae wedi mentora dwsinau o wyddonwyr o bob cwr o'r byd, gan gynnwys dros 50 o fyfyrwyr PhD.

Mae gan Mike y sgiliau i fynd i’r afael ag amrywiaeth o broblemau mewn ystod eang o dacsonau. Mae wedi arwain astudiaethau ar esblygiad dofi a chadwraeth yr amrywiad genetig cysylltiedig a strwythur poblogaeth a demograffeg poblogaethau primatiaid gwyllt. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi bod yn rhan o sawl prosiect yn ymwneud â dilyniannu genomau.

Ar lefel genedlaethol arweiniodd y prosiect CryoArks. Mae hefyd wedi codi £1m cychwynnol gan BBSRC, i alluogi cymuned ymchwil y DU i greu banc bio gyda miloedd o samplau meinwe unigryw na ellir eu hatgynhyrchu ac sydd ag arwyddocâd cadwraethol posibl.

Yn ôl yr Athro Bruford: “Mae'n anrhydedd mawr i mi gael fy nghydnabod gyda’r wobr hon, yn enwedig o weld y rhestr o dderbynwyr blaenorol, yr holl wyddonwyr y mae gen i barch mawr tuag atynt.“

Rhannu’r stori hon