Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro Mike Bruford

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Gyda thristwch ac ymdeimlad o golled enfawr, mae Prifysgol Caerdydd yn nodi marwolaeth gwyddonydd a fu ar flaen y gad ym myd cadwraeth, ynghyd â bod ei Deon Cynaladwyedd Amgylcheddol cyntaf - yr Athro Mike Bruford. 

Bu farw Mike ddydd Iau 13 Ebrill 2023; cysegrodd ei yrfa i ddeall ac atal colli bioamrywiaeth. Arloesodd y defnydd o eneteg gadwraethol i hysbysu ac ysbrydoli gweithredu byd-eang i amddiffyn rhywogaethau mewn perygl. Gwasanaethodd fel llysgennad dros yr anifeiliaid oedd yn eu hastudio, gan ennill ymddiriedaeth a pharch llywodraethau ac ymchwilwyr ledled y byd i ysgogi newid cynaliadwy. Er ei fod yn benderfynol ac yn llawn cymhelliant, roedd arddull hygyrch Mike yn sicrhau ei fod yn cyfathrebu gwybodaeth wyddonol gymhleth mewn modd a oedd hefyd yn argyhoeddiadol a chymhellgar, gan ddarparu atebion hyd yn oed mewn sefyllfaoedd hynod heriol. Pan ofynnwyd iddo ar ôl un cyflwyniad yn 2022, “A allwn ni fforddio gwneud yr holl newidiadau hyn i warchod bioamrywiaeth?” roedd ei ymateb yn syml ond uniongyrchol: “Ni allwn fforddio peidio”.

Wedi’i eni yn Ne Cymru (6 Mehefin 1963), dewisodd Mike ddychwelyd i Gaerdydd ym 1999 fel Darllenydd yn Ysgol y Biowyddorau; fe’i dyrchafwyd yn Athro yn 2001. Digwyddodd hyn ar ôl cwblhau astudiaethau gradd yn Portsmouth a Chaerlŷr, a phenderfynu peidio â dilyn gyrfa fel aelod band roc! Bu i’w PhD, o dan oruchwyliaeth yr Athro Terry Burke, ac yn archwilio “Marcwyr goramrywiol yng ngenom ieir” yn allweddol iddo’n yrfaol a gwelwyd defnydd helaeth o farcwyr genetig i asesu canlyniadau colledion bioamrywiaeth. Ym 1990, ymunodd Mike â grŵp geneteg gadwraethol Cymdeithas Sŵolegol Llundain; fel cymrawd ymchwil yn gyntaf, ond o 1994 fel arweinydd y grŵp. Dyma’r cyfnod yr ehangodd ei yrfa ryngwladol ar raddfa eang, a lle datblygodd ei gariad gydol oes at Affrica. Er ei waith golygyddol ar gyfnodolion gwyddonol, ei gyfraniad helaeth fel aelod a chadeirydd sawl gweithgor rhyngwladol, a goruchwyliaeth dros 70 o fyfyrwyr PhD ac ôl-ddoethuriaethol, ni phallodd ei ymroddiad i hyrwyddo geneteg gadwraethol.

Yn Ysgol y Biowyddorau, gosododd Mike sylfeini cadarn i’r Is-adran Organebau a’r Amgylchedd (y Grŵp Bioamrywiaeth a Phrosesau Ecolegol yn wreiddiol), ac arweiniodd ei gyd-weithwyr yn ddiflino am 17 mlynedd, gan arwain trwy esiampl a chymryd arno’i hun llawer o’r cyfrifoldebau gweinyddol heb achwyn. Mor addas yr hen ddywediad hwnnw “Os oes angen gwneud rhywbeth, gofynnwch i berson prysur” ym muchedd Mike; gwelwyd hefyd ei frwdfrydedd dros gefnogi mentrau newydd a chanmol pan oedd angen canmoliaeth. Hawdd oedd ymddiried yn Mike ac os oedd angen cyfrinachedd - roedd mor ddiogel â’r banc! Gwnaeth ei ostyngeiddrwydd argraff annileadwy: roedd Mike yn ofalus am bawb, pwy bynnag oeddent - roedd pobl (a phêl-droed) yn bwysig iddo. Ar yr un pryd, arweiniodd ei ymrwymiad i roi newid ar waith iddo gymryd swydd Deon Cynaliadwyedd Prifysgol Caerdydd. Yn y byd academaidd, roedd ei gyflawniadau yn niferus, yn cynnwys sefydlu Grŵp Arbenigol Geneteg Cadwraeth Undeb Rhyngwladol Cadwraeth Natur (IUCN), ymwneud â mentrau Darwin a fframweithiau ymchwil Bioamrywiaeth yr Undeb Ewropeaidd, a’r FrozenArk sef banc-bio i hybu geneteg cadwraeth yn y dyfodol. Yn allanol, cafodd ei waith ei gydnabod trwy nifer o wobrau gan gynnwys Medal Wyddonol Cymdeithas Sŵolegol Llundain (2003), Gwobr Marsh mewn Bioleg Cadwraeth (2020), Cymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru (2010), Gwobr Teilyngdod Ymchwil Wolfson y Gymdeithas Frenhinol (2012-2016), ei ethol i'r Academia Europaea (2020) a phenodiad yn Athro Arbennig ym Mhrifysgol Pretoria (2021). Roedd Mike yn unigolyn prin a gyflwynodd achosion effaith lluosog i Fframweithiau Rhagoriaeth Ymchwil 2014 a 2021 gan adlewyrchu statws cenedlaethol a rhyngwladol ei ymchwil. Ar ei farwolaeth, mae ei waith wedi cael ei ddyfynnu bron i 34,000 o weithiau gan ysgolheigion ac ymarferwyr eraill yn y maes.

Gweithredodd Mike fel esiampl i eraill ei ddilyn trwy arddel ac arddangos y grefft o ‘bod pethau’n bosibl’. Roedd yn golegol a chymunedol ei natur, yn fentor ac yn ysbrydoliaeth i lawer. Fe luniodd yrfaoedd a gwireddu dyheadau cymaint o’i adnabod yn fyd-eang, roedd iddo ‘statws academydd enwog’ ond cadwodd ei gynhesrwydd, hiwmor a’i gymeriad drygionus. Ein gobaith yw y bydd y wybodaeth bod Mike yn cael ei garu a’i barchu gan gynifer yn dod â chysur, ymhen amser, i Claire, Rhys, Erin a’i deulu ehangach, gan iddo ddweud cymaint o weithiau “Allwn i ddim bod gwneud hyn hebddyn nhw”.

Jo Cable, Benoit Goossens a Steve Ormerod ar ran yr Is-adran Organebau a'r Amgylchedd, Ysgol Biowyddorau Caerdydd