Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil ar iechyd meddwl pobl ifanc yn gobeithio atal plant rhag 'disgyn drwy'r bwlch'

17 Ebrill 2023

Teenage girl sat on sofa

Mae academydd o Brifysgol Caerdydd yn ymchwilio i sut y gellid cefnogi’n well y bobl ifanc hynny sydd mewn perygl o ddatblygu cyflyrau iechyd meddwl.

Mae mwy na hanner holl faterion iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc yn digwydd erbyn eu bod yn 14 oed, ond mewn llawer o achosion, gellid estyn cymorth i bobl ifanc cyn bod angen gofal arbenigol arnyn nhw.

Mae ymyrraeth gynnar ac effeithiol yn allweddol i helpu pobl ifanc sydd mewn perygl o ddatblygu cyflyrau iechyd meddwl – ond sut beth yw ymyrraeth effeithiol?

Dyna'r cwestiwn mae Dr Hayley Reed, cydymaith ymchwil yng Nghanolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer), ym Mhrifysgol Caerdydd, yn gobeithio ei ateb drwy gynnal prosiect sy'n cael ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru fydd yn ystyried sut i gefnogi iechyd meddwl y glasoed mewn ysgolion.

Dyma a ddywedodd Dr Roberts yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: "Mae tua 19% o’r glasoed yng Nghymru yn rhoi gwybod bod ganddyn nhw symptomau uwch o ran pryder ac iselder, a thybir bod y ffigur hwn wedi cynyddu ers pandemig COVID-19, felly rydyn ni'n gwybod bod iechyd meddwl yn flaenoriaeth go iawn.

"Mae'r prosiect hwn yn ceisio llenwi bwlch pan fydd pobl ifanc yn is na throthwy anhwylder iechyd meddwl y gellir ei ddiagnosio, ond serch hynny mae ganddyn nhw symptomau uwch."

Term y grŵp penodol yma oedd "y canol coll" yn Mind Over Matter, adroddiad a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2018.


Roedd Mind Over Matter yn argymell dull statudol sy’n seiliedig ar yr ysgol gyfan ac a fydd yn ystyried iechyd meddwl yn rhan o strategaeth ehangach sy'n dod ag iechyd, addysg a’r gwasanaethau cymdeithasol at ei gilydd er mwyn sicrhau bod cymorth yn fwy cydgysylltiedig ac yn haws cael gafael arno.

Aeth Dr Reed yn ei blaen i ddweud: "Ers 2018 canolbwyntiwyd ar sicrhau bod iechyd meddwl pobl ifanc yn mynd yn flaenoriaeth genedlaethol yng Nghymru. Mae dull yr ysgol gyfan a'r Cwricwlwm newydd i Gymru, a gyflwynwyd yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, wedi rhoi rhagor o bwyslais ar iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl, ond efallai y bydd angen cymorth ar ysgolion i fodloni'r gofyniad i roi gwasanaethau wedi'u targedu i'r bobl ifanc hynny y mae angen y rhain arnyn nhw’n fwy. Efallai bod yr athrawon yn brin o amser ac arbenigedd iechyd meddwl i wneud hyn, ond gallwn ni ddysgu yn sgil yr ymyriadau sy'n cael effaith gadarnhaol mewn gwledydd eraill.

"Rwy eisiau deall yn well yr hyn sy'n gweithio mewn lleoedd eraill i wella iechyd meddwl ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd ac a fyddai modd addasu’r ymyriadau hyn i Gymru er mwyn atal plant rhag syrthio drwy'r bwlch."

Gobaith Dr Reed yw sicrhau rhagor o gyllid i helpu i ddatblygu a chyflwyno ei hargymhellion, ar y cyd ag athrawon, gweithwyr iechyd proffesiynol a phobl ifanc. "Yn dilyn fy ngwaith blaenorol gyda’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, mae'n amlwg bod yr ysgolion eisiau bod yn rhan o ymchwil sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl a lles. Dyma gyfle cyffrous i roi rhywbeth yn ei le fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ifanc."