Ewch i’r prif gynnwys

Dewch i gwrdd ag arweinydd newydd Cerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd

6 Mawrth 2023

Photograph of Margarita Mikhailova

Mae Margarita Mikhailova yn ateb cwestiynau am gyfarwyddo ensemble mwyaf y brifysgol ac yn gwahodd staff i gyngerdd y gerddorfa yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ar 18 Mawrth.

Cerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd (CUSO) yw'r ensemble mwyaf yn yr Ysgol Cerddoriaeth ac mae'n perfformio'n rheolaidd mewn lleoliadau mawreddog megis Neuadd Dewi Sant a Neuadd Hoddinott.

Y flwyddyn academaidd hon, mae’r gerddorfa wedi croesawu arweinydd newydd, Margarita Mikhailova.

Beth wnaeth eich denu gyntaf at arwain?

Digwyddodd hyn yn annisgwyl yn fy ysgol gerddoriaeth, a oedd yn canolbwyntio'n bennaf ar hyfforddiant corawl. Roedd gennym gôr mawr wedi'i rannu'n nifer o grwpiau oedran. Pan wnes i ymuno â'r grŵp hŷn, gofynnodd ein harweinydd i mi a hoffwn ei helpu i gynnal ymarferiadau gyda’r aelodau iau. Esboniodd hanfodion arwain i mi a dyna ni! Ni allaf gredu ei bod wedi ymddiried mewn plentyn 12 oed i wneud hyn, ac mae'n debyg mai hyn sbardunodd fy ngyrfa broffesiynol.

Bydd eich cyngerdd cyntaf gyda'r gerddorfa ar 18 Mawrth. Beth âch sbardunoch i ddewis y rhaglen hon?

Nid oedd yn hawdd dewis y repertoire ar gyfer ein cyngerdd cyntaf. Nid oeddwn wedi cyfarfod ag aelodau’r gerddorfa, a oedd yn her ynddo’i hun, fodd bynnag, roeddwn yn ystyried symffoni ramantus o’r cychwyn cyntaf. Mae Kalinnikov yn enw llai adnabyddus ymhlith y cyfansoddwyr Rhamantaidd, a chynhwysais ei waith i gyfoethogi’r profiad i’r gerddorfa a’n gwrandawyr.

Yn ogystal â’r symffoni, fe ddewison ni Opus 46 bywiog o Slavonic Dances gan Dvorak, er mwyn cynnwys arddulliau a rhythmau penodol Bohemia.

Fe wnaethom hefyd gynnwys blas o gerddoriaeth Gymraeg o The Armed Man: A Mass for Peace gan Karl Jenkins:  Roeddwn i eisiau creu pont emosiynol i’r Pasg, fodd bynnag, gallai’r gerddoriaeth ennyn teimladau ychwanegol, o gofio ei bod wedi’i hysgrifennu ym 1999, gyda’r bwriad o goffau’r rhai a fu farw yn y gwrthdaro diweddar yn Kosovo.

Beth fu eich uchafbwynt o weithio gyda’r gerddorfa hyd yn hyn?

Rydw i wedi mwynhau pob ymarfer ers y dechrau. Mae’n galonogol gweld bod gennym adran linynnol gref yn ogystal â’r adrannau chwythbrennau a phres ar ôl y broses hir o glyweliadau. Rwy’n angerddol y dylai’r gerddorfa gynnig cyfle gwych i ddatblygiad cerddorol myfyrwyr a phrofiad cymdeithasol gwerthfawr yn ystod eu hamser yn y brifysgol.

Beth hoffech chi berfformio gyda'r gerddorfa yn y dyfodol?

Hoffwn archwilio mwy o gerddoriaeth Gymraeg - o'r cyfnod clasurol a chyfansoddwyr cyfoes. Rydw i hefyd yn gobeithio y byddwn yn meithrin cysylltiadau cryfach â cherddorfeydd proffesiynol yng Nghaerdydd ac yn sicr yn gwahodd chwaraewyr Cymreig gwych i berfformio concertos gyda ni.

Bydd y gerddorfa yn perfformio yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ar 18 Mawrth. Mae tocynnau rhad ac am ddim ar gael i fyfyrwyr a staff y brifysgol.

Rhagor o wybodaeth am yr ystod eang o ensembles sy'n cael eu cynnal gan yr Ysgol Cerddoriaeth.

Rhannu’r stori hon