Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn penodi Is-Ganghellor newydd

31 Ionawr 2023

Close portrait photo of Wendy Larner

Mae’r Athro Wendy Larner wedi’i phenodi’n Llywydd ac Is-Ganghellor newydd Prifysgol Caerdydd, a bydd yn dechrau ei rôl ar 1 Medi 2023.

Yr Athro Larner yw Profost Prifysgol Wellington Victoria yn Seland Newydd ar hyn o bryd. Cyn symud i Wellington, bu'n Ddeon y Gwyddorau Cymdeithasol a'r Gyfraith ac yn Athro Daearyddiaeth Ddynol am 10 mlynedd ym Mhrifysgol Bryste. Mae wedi bod mewn swyddi academaidd ym Mhrifysgol Waikato a Phrifysgol Auckland, ac roedd hefyd yn Gymrawd Fulbright ym Mhrifysgol Wisconsin-Madison.

Hi fydd y fenyw gyntaf i fod yn Is-Ganghellor y Brifysgol yn hanes 140 mlynedd y sefydliad.

Wrth ymateb i'w phenodiad, dywedodd yr Athro Larner: “Rwy'n hynod falch o gael fy mhenodi'n Is-Ganghellor newydd Prifysgol Caerdydd. Mae'n brifysgol ragorol, yn llawn addewid ac uchelgais, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda staff, myfyrwyr a phartneriaid allanol i ddatgloi ei photensial ymhellach.  Mae gennym y cyfle i fod yn brifysgol o bwys sy’n weithgar ar lwyfannau lleol a byd-eang, gan greu dyfodol gwell i Gymru a'r byd.”

Dywedodd Pat Younge, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Caerdydd: “Dros fisoedd lawer, rydym wedi chwilio ar draws y byd am Is-Ganghellor newydd. Gwnaethom wahodd yr holl staff a myfyrwyr i ddweud wrthym beth oeddent am ei weld gan ein harweinydd delfrydol, ac fe gymeron nhw ran flaenllaw yn y broses recriwtio. Mae’r Athro Larner yn academydd uchel iawn ei pharch ac yn arweinydd talentog, ac edrychaf ymlaen at ei chroesawu i Gaerdydd ym mis Medi.”

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor presennol y Brifysgol: “Roeddwn yn falch iawn o glywed bod Wendy wedi’i phenodi, ac rwy’n gwbl hyderus y bydd yn adeiladu ar sylfeini cadarn Caerdydd. Rwyf wedi dysgu dros y degawd diwethaf bod cryfder Caerdydd yn seiliedig ar amrywiaeth cefndiroedd, profiadau a syniadau ei chymuned. Mae wedi bod yn fraint ac yn bleser arwain y Brifysgol fywiog hon, a dymunaf bob llwyddiant i Wendy wrth iddi barhau i lywio ei dyfodol.”

Rhannu’r stori hon

Rydym yn rhagori mewn addysg, ymchwil ac arloesi ac yn adeiladu perthnasoedd wrth ddangos ein hymrwymiad i Gymru.