Ewch i’r prif gynnwys

Cynhadledd yn dod â chymuned PhD ynghyd

23 Ionawr 2023

An image of a class listening to a lady stood at the front presenting.
Professor Sarah Gilmore introducing the conference.

A PhD mini conference held at Cardiff Business School on 11 January 2023 brought together the research community and generated brilliant student feedback.

The annual conference was co-organised by Cardiff Organisational Research Group (CORGies) and the Employment Relations Unit (ERU).

The event, which around forty people attended, supported PhD student research and professional development. It gave PhD students the opportunity to share their work with peers and staff.

Professor Sarah Gilmore, co-cordinator of CORGies said:

“Rydym yn falch iawn gyda’r presenoldeb a’r cyfranogiad yn y digwyddiad, yn enwedig gan mai hwn oedd ein cyfle cyntaf i gynnal y gynhadledd wyneb yn wyneb yn ogystal ag ar-lein ers y pandemig. Roedd yn wych gweld myfyrwyr yn dal i fyny â’u cymheiriaid ac yn dechrau gwneud cysylltiadau dyfnach ag aelodau o staff ynghylch manylion eu hymchwil wrth iddi fynd yn ei flaen.”

Yr Athro Sarah Gilmore Professor of Organization Studies

Roedd y gynhadledd yn cynnwys 9 cyflwyniad wedi'u rhannu'n 3 thema. Thema rhan gyntaf y diwrnod oedd entrepreneuriaeth a chafodd ei chadeirio gan yr Athro Sarah Gilmore. Thema'r rhan nesaf, dan gadeiryddiaeth Dr Cara Reed, oedd aflonyddwch, cystadleuaeth a risg. Roedd rhan olaf y diwrnod, dan gadeiryddiaeth Dr Luciana Zorzoli, yn canolbwyntio ar bolisi cyhoeddus, gwaith a gwybodaeth.

Dywedodd Dr Luciana Zorzoli, cydlynydd dros dro ERU:

"Roedd y cyflwyniadau'n dangos dyfnder ac ehangder yr ymchwil sy'n cael ei wneud gan fyfyrwyr PhD yn ein cymuned ac roedd staff a myfyrwyr fel ei gilydd wedi'u plesio gan ansawdd y gwaith sy'n cael ei gynhyrchu."

Dr Luciana Zorzoli Lecturer in Employment Relations

Dywedodd Cara Reed, cydlynydd CORGies:

“Mae datblygu cymuned PhD gref yn flaenoriaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd ac mae digwyddiadau fel hyn yn ein galluogi i ddod â’r gymuned honno ynghyd i rannu uchafbwyntiau ac isafbwyntiau cynnal ymchwil a datblygu’r syniadau y mae’r gwaith hwn yn eu hysgogi.”

Dr Cara Reed Senior Lecturer in Organisation Studies

Dywedodd Katherine Parsons, myfyrwraig PhD yn ei blwyddyn olaf sydd wedi cyflwyno yn y gynhadledd dros y blynyddoedd diwethaf:

“Mae’r gynhadledd wedi bod yn rhan mor amhrisiadwy o’m taith PhD – o gyflwyno fersiwn gynharaf fy mhrosiect PhD hyd at y cynnyrch terfynol tair blynedd yn ddiweddarach, heddiw. Rwyf mor ddiolchgar i fod yn rhan o grŵp ymchwil mor galonogol, cefnogol ac ysbrydoledig ac yn elwa’n fawr nid yn unig o dderbyn adborth a chwestiynau ar fy ngwaith fy hun gan fy nghymheiriaid a’m cydweithwyr uchel eu parch ond hefyd o weld sut mae gwaith fy nghydweithwyr PhD yn datblygu. . Rwy'n teimlo fy mod yn cael fy ysgogi i wthio drwy rhwystr olaf yr arholiad llafar nawr. Diolch i chi, gydweithwyr."

A lady stood in front of a large powerpoint screen presenting to an audience
Katherine Parsons presenting at the conference.

Dywedodd Samta Marwaha, myfyriwr PhD ail flwyddyn a gyflwynodd am y tro cyntaf yn y gynhadledd:

“Fel myfyriwr PhD ail flwyddyn a chyflwynydd tro cyntaf mewn cynhadledd academaidd, roedd y gynhadledd yn llwyfan perffaith i arddangos fy ymchwil hyd yn hyn ac i dderbyn adborth craff ar gyfer cynnydd yn y dyfodol. Roedd yr amrywiaeth eang o bynciau ymchwil rhyngddisgyblaethol yn darparu ar gyfer agweddau newydd ar sgyrsiau diddorol a safbwyntiau ffres. Ychwanegodd yr awyrgylch golegol at werth cyffredinol bod yn gyflwynydd, trwy ei wneud yn brofiad dysgu llawn hwyl. Ar nodyn personol, cyfrannodd y gynhadledd at fy nhaith PhD barhaus trwy gynyddu fy ymwybyddiaeth o lwybrau newydd sy'n berthnasol i'm hymchwil. Yn gryno, mae’r gynhadledd PhD fach yn gyfle na ddylid ei golli!”

Dysgwch fwy am Uned Ymchwil Sefydliadol Caerdydd a'r Uned Cysylltiadau Cyflogaeth.

A man presenting to a class stood in front of a large screen
Anlan Zhang presenting at the conference.

Rhannu’r stori hon