Ewch i’r prif gynnwys

Astudio rhan-amser am ddim

28 Tachwedd 2022

Money

Gallai oedolion sy'n dysgu fod yn gymwys i astudio cwrs mewn Addysg Barhaus a Phroffesiynol (CPE) a bydd y ffioedd yn cael eu talu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

Mae'r meini prawf cymhwysedd wedi'u hehangu'n ddiweddar i annog mwy o bobl i ddychwelyd i'r ystafell ddosbarth. Bydd Hepgoriad Ffioedd Myfyrwyr yn cefnogi myfyrwyr sy'n teimlo nad oedd addysg uwch yn draddodiadol yn opsiwn iddynt. Un newid pwysig i'w nodi yw y gall myfyrwyr y dyfarnwyd gradd eisoes iddynt wneud cais am hepgoriad ffioedd hefyd.

Os ydych chi’n derbyn budd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau neu os ydych chi wedi cael eich cofrestru yn rhywun sy’n chwilio am swydd ers chwe wythnos, neu os ydych chi’n perthyn i grŵp sy’n cael ei ystyried yn un sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ym maes addysg uwch gallai eich cwrs fod yn rhad ac am ddim.

Rhaid i chi fodloni’r meini prawf isod i fod yn gymwys:

  • Heb astudio mwy na 20 credyd yn ystod y flwyddyn academaidd hon
  • Byw yng Nghymru

Mae’n rhaid ichi fodloni o leiaf un o'r meini prawf canlynol:

  • Rydych yn dod o ardal o amddifadedd economaidd-gymdeithasol neu o gyfranogiad isel mewn addysg uwch
  • Rydych yn derbyn budd-daliadau cymwys fel Credyd Cynhwysol
  • Rydych yn perthyn i grŵp Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig
  • Rydych chi'n ffoadur neu'n geisiwr lloches
  • Mae gennych chi anabledd
  • Rydych yn ofalwr
  • Rydych wedi Gadael Gofal neu wedi cael Profiad o Ofal
  • Nid yw eich rhieni/gwarcheidwaid wedi cael eu haddysgu i lefel addysg uwch

Cewch hyd i ragor o wybodaeth am yr hepgoriad ffioedd yma

Mae manylion y cyrsiau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer 2023 i'w gweld yma

Rhannu’r stori hon