Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect dan arweiniad Prifysgol Caerdydd yn rhan o raglen COP27

10 Tachwedd 2022

Dried lake and river stock image

Mae prosiect dan arweiniad Prifysgol Caerdydd sy’n dogfennu effeithiau go iawn newid yn yr hinsawdd ar gymunedau bregus yn Sychdiroedd Corn Affrica (HAD) yn rhan o raglen swyddogol COP27.

Bydd prosiect DOWN2EARTH, wedi’i gyllido gan raglen Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd, dan arweiniad yr Athro Michael Singer, Dirprwy Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dŵr y Brifysgol, yn dangos dwy ffilm fer ar ddiogelwch dŵr a bwyd yn HAD am y tro cyntaf yn y digwyddiad byd-eang.

Bydd cyfres o bodlediadau a grëwyd gan y tîm ymchwil a’r chwaer brosiectau, sydd hefyd yn cael eu hariannu gan yr UE, hefyd yn cael ei lansio yn COP27. Recordiwyd y podlediadau, sy'n canolbwyntio ar addasu i’r newid yn yr hinsawdd, yng nghymunedau gwledig dwyrain Affrica.

“Mae’r COP hwn, sy’n canolbwyntio ar Affrica, yn hynod bwysig. Mae angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â dulliau o addasu i’r newid yn yr hinsawdd,” meddai’r Athro Singer.

“Mae prosiect DOWN2EARTH yn canolbwyntio’n uniongyrchol ar yr effeithiau ar bobl, sefydliadau a pholisïau yn y cymunedau amaethyddol a bugeiliol gwledig yr effeithir arnyn nhw yn HAD a thu hwnt. Dyna pam rydyn ni mewn sefyllfa unigryw i rannu ein gwaith gyda chynrychiolwyr COP27.

“Braint yw cael fy ngwahodd i’r digwyddiad i gyflwyno ein hymchwil ddiweddaraf ar effeithiau newid yn yr hinsawdd ar gymunedau ymgynhaliol bregus yn Affrica – y rhai nad oedd ganddyn nhw fawr ddim i’w wneud ag achosi newid yn yr hinsawdd ond sy’n dioddef fwyaf o effaith hwn.”

Bydd y ffilmiau a’r podlediadau’n rhan o ddau ddigwyddiad ymylol yn COP27, y naill ym Mhafiliwn Gwyddoniaeth Sefydliad Meteorolegol y Byd (WMO) a’r llall ym Mhafiliwn yr Undeb Ewropeaidd, y mae’r Athro Singer wedi’i drefnu ar y cyd â’r chwaer brosiectau.

“Dyma gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth o heriau addasu i gymunedau Corn Affrica, sy’n wynebu’r posibilrwydd ar hyn o bryd o newyn ar ôl nifer fawr o dymhorau glawog aflwyddiannus o’r bron,” ychwanegodd yr Athro Singer.

Mae COP27 yn digwydd yn Sharm el Sheik rhwng 6 a 18 Tachwedd. Cynhelir digwyddiadau'r Athro Singer ar Dachwedd 14 (Pafiliwn Gwyddoniaeth yr WMO) a 16 Tachwedd (Pafiliwn yr UE).

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i sicrhau’r safonau uchaf mewn ymchwil ac addysg ac – o dan arweiniad ymchwil – i ddarparu amgylchedd cyfoethog ac amrywiol.